Total Pageviews

Showing posts with label phantom. Show all posts
Showing posts with label phantom. Show all posts

Friday, 23 July 2010

'Aspects of Love'




Y Cymro 23/07/10

Er yr holl gecru a chwyno yn ddiweddar, mae un peth yn sicr; mae unrhyw sioe o eiddo’r Arglwydd Lloyd Webber yn siŵr o ddenu cynulleidfa. Er mai methiant, ym marn llawer, yw ei ymgais ddiweddara, ‘Love Never Dies’ sef y dilyniant i ‘Phantom of the Opera’, mae ei sioeau cynnar yn parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd. Yn ôl i stabl safonol a gwefreiddiol y Mernier Chocolate Factory es i'r wythnos hon er mwyn dal eu cynhyrchiad diweddara sef ‘Aspects of Love’.

Ym 1989 y llwyfannwyd y ddrama gerdd hon am y tro cyntaf, ac enw Andrew Lloyd Webber eisoes yn gyfarwydd yn sgil ei sioeau ‘Cats’, ‘Phantom of the Opera’, ‘Joseph’ a ‘Jesus Christ Superstar’. Troi at nofel fer David Garnett wnaeth Lloyd Webber, ynghyd a Don Black a Charles Hart er mwyn cyfansoddi’r stori garu hon am fachgen ifanc ‘Alex’ (Michael Arden) sy’n syrthio mewn cariad gydag actores hŷn ‘Rose’(Katherine Kingsley), cyn iddi hithau gael ei hudo gan ei ewyrth cefnog ‘George’ (Dave Willetts). Mae’r cyfan wedi’i leoli yn Ffrainc a’r Eidal, a’r ‘cariad’ yn y teitl yn cyfeirio at y mathau gwahanol o gariad sy’n cael eu trafod yma. O gariad angerddol y llanc tuag at ei eilun yr actores, serch yr ewyrth tuag at y ferch ddeniadol sy’n ei atgoffa o’i wraig, serch meistres yr ewyrth tuag ato ef a’r actores, ac yn yr ail ran, a’r ‘cariad’ mwyaf dadleuol o bosib, perthynas y ferch bymtheg oed ‘Jenny’(Rebecca Brewer), gyda’r prif gymeriad ‘Alex’.

Wrth wylio’r ddwy awr o sioe fendigedig hon, cefais fy swyno’n llwyr gan y stori. Rhyfeddu hefyd bod y deunydd mor ddadleuol, gyda’r brif thema o garu rhwng unigolion o wahanol oed mor dderbyniol. Nid yn unig y gwahaniaeth oedran rhwng ‘Alex’ a ‘Jenny’ yn yr ail act, ond yr awgrym o’r gwahaniaeth oed rhwng ‘Alex’ a ‘Rose’ ar y cychwyn, ac wedyn ‘Rose’ a ‘George’ yn ddiweddarach.

Y gerddoriaeth sy’n uno’r cyfan, a’r gân fwyaf enwog a chofiadwy’r sioe ‘Love Changes Everything’ yn ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd y cyfan; “Love, Bursts in, and suddenly, All our wisdom Disappears. Love, Makes fools of everyone: All the rules, We make are broken.” Aelod o’r cast gwreiddiol, Michael Ball, fu’n bennaf gyfrifol am ddod â’r gân fendigedig hon, i sylw’r byd.

Fel gydag amryw o sioeau Lloyd Webber, mae’n deg dweud mai dwy neu dair cân wirioneddol gofiadwy sydd ymhob sioe; ‘Memory’ yn ‘Cats’, ‘Music of the Night’ neu ‘All I ask of You’ yn ‘Phantom’, ‘Don’t Cry for me Argentina’ yn ‘Evita’ ac yn y blaen, a tydi ‘Aspects’ ddim gwahanol yn hynny o beth. ‘Love Changes Everything’ a ‘Seeing is Believing’ ydi’r ddwy sy’n taro deuddeg imi, ac roedd clywed yr ail-ganu o’r alawon yma drwy’r sioe yn hyfryd i’r glust.

Er nad yw’r gofod yn y Mernier yn enfawr, mae’r cwmni wastad yn llwyddo i lwyfannu’r sioeau rhyfedda yno. Yn yr achos yma, does gen i ddim amheuaeth mai dawn cyfarwyddo’r arch gyfarwyddwr Trevor Nunn sy’n rhan o lwyddiant y cyfan, wrth i’r sioe lifo o olygfa i olygfa mor rhwydd, a choreograffu’r newid llwyfan mor gelfydd â di ffwdan. Llwyddodd i gastio’r gorau hefyd, ac roedd perfformiad Michael Arden fel ‘Alex’, Katherine Kingsley’ fel ‘Rose’ a Dave Willetts fel ‘George’ yn gampus. Felly hefyd gyda set hufen David Farley, gyda’i fframiau gwag a’i ddrysau amrywiol, sy’n gweithio’n rhagorol o dda o fewn muriau caeth yr hen ffactri siocled.

A braf oedd gweld y Cymry’n hawlio’u lle ynghanol y llwyddiant gyda’r cerddor ifanc talentog Huw Geraint Griffith o Eifionnydd yn Is Gyfarwyddwr Cerdd ar y sioe, tra bod Rebecca Trehearn o’r Rhyl yn rhan o’r ensemble, ac yn ddirprwy actor i’r prif gymeriad ‘Rose’. Da iawn yn wir.

Mae ‘Aspects of Love’ i’w weld yn y Mernier tan y 26ain o Fedi. Os da chi awydd mynd, cofiwch am y ‘meal deals’ sydd ar gael, gyda phryd dau gwrs a thocyn i’r sioe am £39.50! Bargen! Wedi dweud hynny, synnwn i ddim na fydd y sioe yn mudo i’r West End yn fuan iawn. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.menierchocolatefactory.com

Friday, 7 May 2010

'The Habit of Art'




Y Cymro – 07/05/10

Dwi’n cofio ymweld â Llundain tua deng mlynedd yn ôl, gyda’r bwriad o geisio gweld cymaint o theatr ag oedd yn bosib, dros gyfnod o 3 diwrnod. Dwi’n meddwl imi lwyddo’n rhesymol o dda, o be gofiai, wrth fedru dal ‘Beauty and the Beast’, ‘Spend, Spend, Spend’, ‘Phantom of the Opera’, ‘Whistle Down the Wind’ a drama newydd Alan Bennett, ‘The Lady in the Van’. Roeddwn i’n ffan mawr o waith Bennett, byth ers imi gael fy swyno gan y gyfres ‘Talking Heads’ ac yn ddiweddarach ‘The History Boys’.

Bellach, mae’r un tîm llwyddiannus, sef y cyfarwyddwr Nicholas Hytner, yr actorion Richard Griffiths a Frances De La Tour a’r dramodydd unigryw Alan Bennett, yn ôl ar lwyfan y Theatr Genedlaethol gyda’i ddrama newydd ‘The Habit of Art’.

Hanes cyfeillgarwch, neu fywyd carwriaethol dau eicon celfyddydol Prydeinig sydd wrth wraidd y ddrama sef y bardd W H Auden (Richard Griffiths) a’r cyfansoddwr Benjamin Britten (Alex Jennings). Cymeriadau cymhleth ac eto unigryw'r ddau, a ddenodd Bennett at eu stori, ynghyd â’r myrdd o straeon lliwgar am fywyd a phersonoliaeth Auden, wedi iddo ddychwelyd i Rydychen wedi cyfnod yn yr Amerig. O ddarllen rhagarweiniad i’r ddrama, mae’n debyg mai drama am y ddau oedd y syniad gwreiddiol, ond wedi tipyn o anghytuno gyda Hytner dros y cynnwys, lleolwyd y ddrama yn yr ystafell ymarfer.

Drama o fewn drama sydd yma yn y bôn, ac mae gwylio’r berthynas rhwng yr actorion a’u cymeriadau, y criw llwyfan a’r testun, a’r awdur a’i waith yn hynod o ddiddorol. Drwy gynnwys yr awdur ‘Neil’ (Elliot Levey) a’r rheolwr llwyfan ‘Kay’ (Frances De La Tour), cafodd Bennett gynnwys yr holl ddadleuon o blaid neu yn erbyn ei waith gwreiddiol, sef y ddrama ‘ Caliban’s Day’ sy’n cael ei ymarfer gan y cwmni. Prif naratif neu’r ‘ddyfais’ a ddefnyddir i ddweud y stori yn y ddrama wreiddiol yw’r newyddiadurwr ‘Humphrey Carpenter’ (Adrian Scarborough) a fu’n gyfrifol am gyfansoddi cofiant i’r ddau fonheddwr dan sylw.

Auden yw canolbwynt y stori, sy’n aros am ymweliad un o’r myrdd o ‘rent boys’ amrywiol, a fu’n ymwelwyr cyson â’i loches yng Ngholeg Christ Church. Pan gyrhaedda ‘Carpenter’, mae’r camddealltwriaeth yn hynod o ddoniol, a’r llinell anfarwol “But I’m with the BBC” yn dal i atsain yn fy nghlustiau! Pan gyrhaedda ‘Stuart’ (Stephen Wight), mae’r llanc ifanc yn dod yn gymaint o ran o’r brif stori a’r ddau fonheddwr enwog, a’r trydydd cymeriad yma sy’n rhoi gwerth i neges y ddrama.

Y tro yn y ddrama roddodd y mwynhad mwya’ imi, sef y diweddglo. Y ddau enw mawr, yn dadlau mai eu cymeriadau hwy, ddylai gael y gair olaf, wrth i Auden ddyfynnu ei gerdd am farwolaeth Yeats; “Time that is intolerant / Of the brave and innocent... Worships language and forgives / Everyone by whom it lives; Pardons cowardice, conceit, Lays its honours at their feet...”.. Hawdd ydi cytuno gyda’r actor, ac yn wir mae’r gerdd yn dweud y cyfan. Wedyn dadl yr awdur. Beth am y llanc ifanc? Y trydydd cymeriad. Eu hysbrydoliaeth? “The great men’s lives are neatly parcelled for posterity, but what about us? When do we take our bow? Not in biography. Not even in diaries.” A thrwy gwestiynu diniwed y llanc ifanc, rywsut, mae bywyd a gwaith y ddau arall yn troi’n ddibwys, a holl sylw’r ddrama arno ef.

Felly hefyd yng ngeiriau olaf yr awdur cyn ymadael : “But about the play. I am right, aren’t I? There is always somebody left out, one way or another.” Wrth i’r Rheolwr llwyfan ddiffodd golau'r ystafell ymarfer wag, mae’r neges yn glir...

Mae ‘The Habit of Art’ i’w weld yn Theatr Lyttleton tan 19eg o Fai cyn mynd ar daith genedlaethol (gyda chast newydd) yn yr Hydref. Mynnwch eich tocynnau nawr!

Friday, 26 March 2010

'Love Never Dies'






Y Cymro – 26/03/10

Wedi’r disgwyl, a’r dyfalu, y trafod a’r traethu, fe agorodd sioe ddiweddara Andrew Lloyd Webber, ‘Love Never Dies’ yn wyneb môr o feirniadu a sylwadau negyddol y cyhoedd a’r beirniaid. A bod yn deg, roedd ei dasg o orfod creu dilyniant i un o’r sioeau cerdd fwyaf llwyddiannus yn ein hanes yn dipyn o her, gan fod ‘Phantom of the Opera’ yn gymaint o glasur poblogaidd.

Gwta fis cyn mynychu un o nosweithiau cynta’r cynhyrchiad, fe ail-ymwelais â theatr Her Majesty’s er mwyn profi gwefr y gwreiddiol unwaith yn rhagor. Roedd hi’n fraint cael bod yno, i ymdoddi ym melfedrwydd melodïau llinnynol Lloyd Webber, a rhyfeddu unwaith eto at y triciau llwyfan dramatig, sy’n rhan o lwyddiant y gwrieddol. O’r gwisgoedd i’r set, i’r canu a’r campau, mae’n anodd curo’r naws a safon y sioe hon, a fu’n drobwynt sicr yn hanes y ddrama gerdd yn y West End a Broadway.

Felly, beth am y dilyniant, sydd wedi cael ei alw gan rai yn ‘Paint Never Dries’ neu ‘Let Love Die’! O diar! A fu’r beirniadu yn deg, ta oes yma bethau i’w canmol?

Mae’r stori newydd yn cychwyn deng mlynedd wedi’r gwreiddiol, wedi i’r ‘Phantom’ ( Ramin Karimloo)ffoi o’i ogof danddaearol yng nghrombil y Tŷ Opera enwog ym Mharis. Drwy gymorth ‘Madame Giry’(Liz Robertson), (yr athrawes ballet yn y gwreiddiol) dihangodd y ‘Phantom’ ar draws y môr i’r Amerig, ble yr ymgartrefodd ar Coney Island, yn Efrog Newydd, gan etifeddu ffair a sioe o ryfeddodau amrywiol o’r enw ‘Phantasia’. ‘Mr Y’ yw ei enw bellach, a ‘Mr Y’ sy’n anfon gwahoddiad i’r gantores enwog , a channwyll ei lygad, ‘Christine Daaé’ (Sierra Boggess) yn ôl i ganu yn ei sioe. Oherwydd problemau ariannol yn ei phriodas gyda’i gŵr ‘Raoul’(Jospeh Millson) mae hi’n derbyn y gwahoddiad, ac mae’r teulu, gan gynnwys eu mab, deng mlwydd oed, ‘Gustave’ (Jack Blass) yn cyrraedd yr ynys, ac yn derbyn croeso mawr.

Rŵan, does dim angen bod yn llawer o dditectif na chyfrifydd i ganfod un tro yn y stori, a’r gwirionedd ‘mawr ‘ sy’n cael ei ddadlennu ar ddiwedd yr Act gyntaf!. I mi, roedd hi’n fwy anodd credu pryd yn y byd y cafodd Christine a’r Phantom gyfle i fod digon agos i achosi’r fath ganlyniad! Ond dyna ni, os gall gar hedfan, llew ganu neu wrach droi’n wyrdd, yna gall unrhyw beth ddigwydd ym Myd y Ddrama Gerdd!

Arwahan i’r ffaith bod y stori’n dila, y gerddoriaeth yn ddiflas a di-liw, y set dros ben llestri, yr agorawd yn wan a’r diweddglo yn anghredadwy, yna does yna fawr ar ôl i’w ganmol. Dwy gân yn unig sy’n codi uwchlaw'r “Vaudeville trash” ( a defnyddio geiriau Madame Giry) sef prif gân y Phantom ‘’Til I hear you Sing’ a’r gân y mae’r Phantom wedi’i gyfansoddi i Christine sef y brif alaw, ‘Love Never Dies’ (sydd, yn ôl cyfaddefiad Lloyd Webber ei hun yn ‘hen’ gân gafodd ei ddefnyddio yn ei ddrama gerdd ‘A Beautiful Game’ flynyddoedd ynghynt, ac sydd wedi cael ei ganu gan Dame Kiri Te Kanawa yn ogystal)

Wedi gwrando ar y gerddoriaeth eto, ers gweld y cynhyrchiad, mae’n rhaid imi gyfaddef fod yna ambell i alaw arall sy’n glynu yn y cof, ond falle mai safon y recordiad sy’n gyfrifol am hynny, ac nid y perfformiad byw. Siom mawr oedd y llanast ar y llwyfan, sydd wedi esgor ar sawl ddadl danbaid yma yn Llundain dros yr hawl i feirniadu’n onest. Mae’n amlwg fod gan rai beirniaid ofn pechu enw da Lloyd Webber, ond mae pawb yn gneud cam gwag weithiau. Bechod mai naid gostus o gamgymeriad yw’r ymgais hon.

Mae ‘Love Never Dies’ i’w weld yn Theatr yr Adelphi ar hyn o bryd. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.loveneverdies.com