Y Cymro
Gwobrau’r Oliviers fu’r testun trafod mawr yn y West End,
wrth i addasiad y Theatr Genedlaethol o
nofel Mark Haddon ‘The Curious Incident of the dog in the night-time’ gipio saith gwobr, gan gynnwys yr actor gorau i Luke Treadway. Fo
sy’n portreadu llanc ifanc pymtheg oed, wel
‘fifteen, three months and two days’ yn ei eiriau ei hun, sy’n cwffio’i
iechyd meddwl, ac yn gweld y byd yn ei ffordd unigryw ei hun. Er mai awtistig
yw’r diagnosis swyddogol am ei gyflwr, tydi Haddon ddim am inni labelu’r salwch
na’r cyflwr, gan fod un o bob pedwar ohonom erbyn hyn yn dioddef o ryw arlliw o
salwch meddwl. Fues i’n ffodus iawn i
weld y cynhyrchiad yr wythnos ddiwethaf, ac mae symlrwydd y llwyfannu, goleuo a
pherfformiad gwefreiddiol Treadway yn werth ei weld.
No comments:
Post a Comment