Y Cymro
Tra’n ymweld â’r ddinas, cefais y fraint flynyddol bellach o
gwmni Gwanas yn y theatr, a’r ddrama gerdd ‘Once the Musical’ oedd ei dewis, y
tro hwn. Wedi’i leoli o fewn muriau tafarn yn Nulyn (sy’n agored i’r
gynulleidfa ar gychwyn ac ar ganol y ddrama !) dilynwn hanes y cariad dwfn sy’n
esblygu rhwng y gitarydd o Wyddel (Declan Bennett ) a’i bianydd prydferth o
wlad Tsiec (Zrinka Cvitešić). Swynodd symlrwydd y cynhyrchiad bawb ar Broadway,
gan fod pob aelod o’r cwmni hefyd yn cyfeilio i’w hunain, wrth i’r caneuon
gwerinol eu naws gael eu creu a’u canu ganddynt. Wedi’i gyfarwyddo gan y dewin
dawns John Tiffany, roddodd inni
‘Blackwatch’ a ‘Peter Pan’ drwy Theatr Genedlaethol yr Alban, mae’n dysteb berffaith i’r gallu i greu, drwy ddychymyg
a dyfeisgarwch.
No comments:
Post a Comment