Caerdydd oedd fy nghartref dros
dro'r wythnos hon, a chyfle i weld rhai o’r cynyrchiadau sy’n swyno cynulleidfa
Sherman Cymru, ar hyn o bryd. ‘Say it with flowers’ o waith Johnny Tudor a Meic
Povey oedd yr ymweliad cyntaf, ac enw Ruth Madoc, seren Gymreig y gyfres gomedi
‘Hi-de-Hi’ yn denu, yn ogystal â gwrthrych y ddrama, y gantores unigryw Dorothy Squires.
Wyddwn i fawr amdani cyn mynd,
ddim ond yr enw, a’r ffaith ei bod hi’n gyn-wraig i’r 007 golygus Roger Moore. Cyn i’r hwyrddyfodiaid gyrraedd
eu seddi, roedd Madoc eisoes ar gychwyn.
Yn ei chôt a’i chesys yn gwmni, camodd y difa diflanedig ar y llwyfan,
yn ymgorfforiad sicr o’r Squires segur sur. Wedi cefnu ar ei theulu, a’i gyrfa,
yn fethdalwr ac yn fethiant, mae’n derbyn lloches yng nghartref un o’i ffans
mwyaf, ‘Maisie’ (Lynn Hunter). Yn finiog ei thafod, yn feirniadol ac yn flin,
darlun didosturi o‘r Dot a gafwyd.
Drwy’r gyfres o ôl fflachiadau,
dadlennir ei chefndir trasig, o’i pherthynas anodd â’i brawd ‘Freddie’ (Aled
Pedrick), ei pherthynas tanbaid obsesiynol â ‘r actor di-nod Roger Moore (Matt
Nalton), a’i nith ‘Emily’ (Heledd Gwynn).
Achubiaeth y cynhyrchiad yw portread penigamp Gillian Kirkpatrick o’r
Dot ifanc, a’i llais unigryw a’i phartis meddwol, yn ogystal â dawn comediol
diguro Lynn Hunter.
Er bod cynhyrchiad Pia Furtado yn
uchelgeisiol tu hwnt, roedd cynllun set Georgia Lowe yn caethiwo a gwahanu’r
ddau fyd, a dyhead am eu priodi drwy ddawns a dychymyg yn boenus o amlwg. Fe
wellodd pethau tua’r ail ran, ond rhygnu’n mlaen yn flêr wnaeth y cynhyrchiad
sigledig hwn.
Os yw brwdfrydedd a’r nifer o
gynulleidfa hŷn a hwyliodd i mewn i gragen sgleiniog y Sherman yn adlewyrchiad
o apêl yr eicon lleol yma, yna mae’r sioe yn llwyddiant sicr. Os mai i godi
ymwybyddiaeth a chynulleidfa newydd i’w gwaith yw’r bwriad, yna mi rydw innau
bellach, yn ffrind i Dorothy! Ond os mai coffâd, a chynrychioli ei bywyd ar
lwyfan yw’r nod, yna darlun un ochrog, didostur a siomedig iawn a gafwyd.
Bydd ‘Say it with flowers’ ar
daith i’r Wyddgrug, Aberdaugleddau a Llanelli dros yr wythnosau nesaf.
No comments:
Post a Comment