Y Cymro 03/05/13
Wedi cyrraedd mis Mai yn barod, mae’r flwyddyn hon yn prysur
fynd! Prysur ydi pethau hefyd ar lwyfannau Cymru a thu hwnt, felly drïa’i ngore
i wasgu cymaint ag y medrai o fewn geiriau’r golofn wythnos yma.
Cychwyn yn Sir Frycheiniog,
gyda chynhyrchiad yr hoffwn i fod wedi medru’i weld, yr wythnos hon.
Euros Lewis yw awdur y gwaith ac aelodau o glybiau ffermwyr ifanc y sir fu’n
adrodd hanes ymgais lwyddiannus i atal boddi un o lefydd hyfrytaf eu hardal,
Cwm Senni. Gobeithio’n wir y bydd cyfle arall i’w weld yn fuan.
Yr unigryw Bethan Gwanas fu’n diddori’r gynulleidfa yng
Nghanolfan Cymry Llundain yn ystod yr wythnos, drwy drafod ei gwaith a’i
hunangofiant ‘Hanas Gwanas’. Fel gwrthrych y gyfrol, dyma berl o stori, yn
ddeniadol ac yn ddoniol, ac yn werth ei brynu. Newyddion da oedd clywed bod
prosiect dramatig newydd ar y gweill, (yn ei ddyddiau cynnar cynnar!) sef
addasiad o’i nofelau am y ddysg wraig hoffus, ‘Blodwen Jones y Miwsical’ .
No comments:
Post a Comment