Friday, 24 February 2012
'Absent Friends'
Y Cymro – 24/02/12
Steffan Rhodri yw’r Cymro diweddara i gamu ar lwyfannau Llundain yn un o gomedïau Alan Ayckbourn ‘Absent Friends’ yn Theatr Harold Pinter. Dyma ddrama nid yn anhebyg i ‘Abigail’s Party’ o waith Mike Leigh, am wraig tŷ ‘Diana‘ (Katherine Parkinson ) sy’n ddiflas yn ei phriodas a’i chocyn o ŵr ‘Paul ‘ (Steffan Rhodri) ac sy’n penderfynu cynnal te parti i godi calon un o’u cyfeillion ‘Colin ‘ (Reece Shearsmith) wedi iddo golli ei wraig. Wrth i’r cyfan ddod ynghyd rhwng y soffa a’r sosej rolls, ac wedi’r holl bryder am sut i godi calon ‘Colin’ a pheidio sôn am ei wraig, fe welwn yn fuan iawn bod ‘Colin’ yn fwy hapus na’r gweddill gyda'i gilydd!
Yn anffodus imi, er cystal oedd ambell i bortread, roedd y cynhyrchiad yn llawer rhy llonydd a fflat, a’r ffars ddim yn ddigon sydyn a bywiog i godi gwên. Efallai mai bai’r cyfarwyddwr oedd hynny, am gadw’r cyfan yn rhy llonydd ac araf. Ond collwyd hud Ayckbourn mewn mannau, ac fe deimlais fy mod yn gwylio drama deledu ddi-liw a diflas.
Cafwyd eiliadau o hiwmor ym mhortread di-ddiddordeb y fam ddi-gariad ‘Evelyn’ (Kara Tointon) a’r ffrind ffwndrus a ffyslyd ‘Marge’ (Elizabeth Berrington) ond eiliadau prin oedd y rhain o fewn dros ddwy awr ddiflas o gomedi.
Synnwn i ddim mai dylanwad y teledu sydd i’w feio ar y sgwennu a’r cyfarwyddo fel ei gilydd. Methwyd a chodi at y pegynau amlwg o hiwmor gweledol sy’n hanfodol o ddrama lwyfan, fel dirywiad meddyliol ‘Diana’ wedi i’r gwirionedd am berthynas ei gŵr ag ‘Evelyn’ gael ei ddatgelu. Oherwydd y diffyg adeiladwaith, a’r cyfle i ni’n gynulleidfa ddod i hoffi a chydymdeimlo â ‘Diana’ fe drodd yr eiliad o ffars yma yn embaras llwyr, wrth i’r gynulleidfa fethu chwerthin - neu efallai fod ag ofn chwerthin, sy’n waeth!
Mae ‘Absent Friends’ i’w weld yn Theatr Harold Pinter tan y 14eg o Ebrill (os pery cyhyd â hynny!)
'Singin' in the Rain'
Y Cymro – 24/02/12
A ninnau bellach bron ar ddiwedd mis Chwefror, mae’n anodd gwybod i le mae’r wythnosau ‘ma’n gwibio heibio! Gŵyl Ddewi ar ein gwartha’ a’r Pasg hefyd yn prysur agosáu! Allai’m credu fod pum mis wedi mynd heibio ers imi weld y ddrama gerdd ‘Singin’ in the Rain’ yng Ngŵyl Chichester, a bellach mae’r sioe liwgar a ‘lawog hon wedi cyrraedd y Palace Theatre, yng nghanol dinas Llundain.
Mae’n braf cyhoeddi fod yr addasiad o’r ffilm enwog o’r un enw, am hynt a helynt dyfodiad y ffilmiau sain gyntaf wedi ymgartrefu’n daclus iawn i’r gofod enfawr gwag yn y Palace. Gofod a fu’n gartref i sioeau fel ‘Priscilla Queen of the Dessert’ a ‘Les Miserables’ cyn hynny. Braf oedd gweld yr ambaréls lliwgar sy’n harddu blaen y theatr, ac sydd wedi codi calon pawb sy’n croesi Cambridge Circus!
Bu ambell i newid yn y mudo, ond mae’r cymeriadau craidd yn aros sef y prif actor golygus ‘Don Lockwood (Adam Cooper), yr actores lai adnabyddus y mae’n syrthio mewn cariad â hi ‘Kathy Selden‘ (Scarlett Strallen) a’r dewin doniol a seren comediol y cyfan ‘Cosmo’ (Daniel Crossley). Aros hefyd mae rheolwr y stiwdio (Michael Brandon) wyneb cyfarwydd i wylwyr y gyfres ‘Dempsey and Makepeace’ flynynyddoedd yn ôl! . Un o’r newidiadau yw Katherine Kingsley sydd bellach yn portreadu’r brif actores wichlyd ‘Lina Lamont’ a’i pherfformiad mor safonol â gweddill y cwmni lliwgar yma.
Aros hefyd mae’r glaw, sy’n disgyn ar ddiwedd yr act gyntaf, a hefyd ar ddiwedd y sioe! Os am gadw’n sych, peidiwch ag eistedd yn y rhesi blaen!! Wrth gamu allan o’r theatr nos Lun roeddwn i’n gwenu’n gynnes am fod wedi profi blas o’r hyn a fu, a llawenydd y llwyfan yn ei lawn ogoniant!
Mwy am y sioe wych hon drwy ymweld â www.singinintherain.co.uk
Friday, 17 February 2012
Sgint
Y Cymro 17/02/12
‘Heb ddim ar eich elw’ yw un diffiniad gan Dr Bruce o’r gair ‘skint’, yn ei ‘Eiriadur rhagorol. Rhyw deimlad digon tebyg gesh i wrth adael y Sherman nos Sadwrn diwethaf, wedi gweld cynhyrchiad swyddogol cyntaf Arwel Gruffydd, fel Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol.
‘Sgint’ o waith Bethan Marlow yw ei ddewis cyntaf ger ein bron; drama air-am-air o enau trigolion Caernarfon. Un arall o’i waddol Shermanaidd, gan fod Bethan, ynghyd ag Arwel a Siân Summers (ei gyd-gyfarwyddwr llenyddol yn y Sherman) wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers cryn amser. Cafwyd darlleniad o’r ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ac ail-ddrafftio helaeth ers hynny.
Rhaid canmol Bethan yn arw am fynd ati i gasglu’r holl leisiau ynghyd - pob carfan o’r gymdeithas liwgar hon - o ‘Sgubor Goch i’r Maes, mae gan bawb y cyfle i leisio barn, fel y noda’ Bethan ar gychwyn y rhaglen. ‘Ariangarwch yw gwraidd pob drwg’ yn ôl yr hen air, ac mae strwythur ac adeiladwaith y sgript, wrth gynnig pytiau blasus o fywydau pob dydd, pobol ‘go iawn’ yn ddiddorol ac yn ddirdynnol fel ei gilydd. Dau lais, a dau gymeriad sy’n aros yn y cof fwyaf - y fam ‘Sandra’ (Morfudd Hughes) sy’n stryglo byw o dan amodau anodd iawn, yn ceisio cadw’i pharch er gwaetha gwacter ei phwrs, a’i merch ‘Ellie’ (Manon Wilkinson) y fam sengl, ddi-lwybr, sy’n dyheu am ddianc o’u hualau hyll i’w breuddwydion bras. Dau berfformiad hynod o gofiadwy gan y ddwy actores dalentog yma.
Ond dyma ddod at wendid y cyfan. Er cystal yw’r holl ddeunydd sy’n creu’r cyflwyniad yma, mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf nad oes yma unrhyw gerbyd theatrig i ‘yrru’r gwaith. Dro ar ôl tro, mae’r naw actor yn sefyll ar y ffedog o lwyfan, yn annerch y gynulleidfa , wyneb yn wyneb, am gyfnodau o hyd at ugain munud y tro! Mae yma adlais o ddrama radio neu gyflwyniad llafar yn yr Eisteddfod. Dim gweledigaeth ddramatig o fath yn y byd. Anfaddeuol.
Gyda phrosiect o’r math yma, mae’n allweddol bod gan y cyfarwyddwr weledigaeth arbennig am sut i fynd ati i lwyfannu’r gwaith. Dylai’r llwyfannu fynd law yn llaw gyda’r creu o’r dyddiau cynnar. Fel gyda chwmnïau profiadol megis Shared Experience, Complicite neu Frantic Assembly, rhaid wrth steil arbennig - sydd gan amlaf yn gyfuniad crefftus o goreograffi, goleuo a delweddau symudol.
Er cystal oedd cefnlen o set Cai Dyfan, yn gyfuniad o ffenestri, dodrefn a thrugareddau ei thrigolion, roedd y cyfan yn fud ac yn farw, gyda’r actorion fel sardîns ar y ffedog o lwyfan o’i blaen. Roeddwn i angen ac eisiau gweld delweddau o’r Caernarfon liwgar hon - o’r hen ddyddiau dedwydd i’r dadfeilio presennol. Roedd angen anwesu’r atgofion (fel y cafwyd yng nghynhrchiad National Theatre Wales o ‘The Passion’) roedd angen symud, defnyddio a diflannu drwy’r delweddau er mwyn cryfhau’r dweud, ac i helpu’r actorion rhag sefyll yn syrffed o ddiflas am dalpiau helaeth o’r cyflwyniad. Diolch byth am yr ail-act a’r newid trwsgl o’r ffedog i’r garafán, ac eto, methiant i gyfarch gwacter y llwyfan, gyda’r actorion ymylol, a’u cefnau at dduwch!
O weld yn y rhaglen fod Cai Tomos a Suzie Firth yn cyd-weithio ar y cynhyrchiad fel cyfarwyddwyr corfforol, roeddwn i’n disgwyl priodas berffaith o symud a stori,(fel y gwelais dro ar ôl tro gan Frantic Assembly neu Shared Experience) ond siom poenus oedd gwylio’r actorion yn troi a throsi yn eu hunfan, heb le i symud, heb berthynas a’i gilydd. Roedd y diweddglo yn embaras o dros ben llestri, diangen.
Siom enfawr eto ar gychwyn cyfnod yr ail-gyfarwyddwr artistig. Syniad gwych ar bapur (neu’r radio!), gwaith ardderchog gan Bethan a’r cwmni o actorion triw a roddodd eu gorau i’r gwaith, ond y cyfan yn ddi-arweiniad a’r diffyg gweledigaeth yn boenus o amlwg.
‘Heb ddim ar eich elw...’ , yn fwy sgint nag erioed...
Mae ‘Sgint’ ar daith ar hyn o bryd ac yn ymweld â Chaernarfon, Aberteifi, Y Drenewydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Friday, 10 February 2012
'Juno and the Paycock'
Y Cymro – 10/02/12
Ac o Kensington nôl i Waterloo, ac i lannau’r Tafwys i’r Theatr Genedlaethol er mwyn dal eu cyd-cynhyrchiad diweddara gyda Theatr yr Abbey o’r Iwerddon, drama fawr Sean O’Casey, ‘Juno and the Paycock’.
Bu adolygwyr Llundain yn hallt iawn am y cynhyrchiad yma rai wythnosau ôl, a’m parodd innau i gadw draw am beth amser. Ond rwy’n falch iawn iawn fy mod wedi mentro i’w gweld, gan imi ei fwynhau’n fawr.
Dros flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio eistedd yn yr un theatr (Lyttelton) i wylio ‘Men Should Weep’ am galedi bywyd yn Glasgow yn y 1930au, a dyma ni’r tro hwn yn llymder Dulyn yn y 1920au, wrth ddilyn brwydr un teulu yn erbyn terfysg, trais a chaledi bywyd. Gyda’r frwydr am annibyniaeth a’r Easter Day Rising yn gefndir i’r cyfan, dyna wers foesol am berygl balchder, wrth i dad y teulu ‘Captain Jack Boyle’ (Ciarán Hinds) y ‘paun’ a gyfeirir ato yn nheitl y ddrama, golli popeth yn ei feddiant, gan gynnwys ei deulu. ‘Juno Boyle’ (Sinéad Cusack) fel pob mam gadarn a dygn sy’n gorfod cadw’r cyfan ynghyd, a’i brwydr ddyddiol yn wyneb y fath galedi a’i gŵr diog, yw’r nerth sy’n cynnal y ddrama odidog hon.
Cafwyd chwip o berfformiadau gan bob aelod o’r cast cyhyrog hwn, a hynny ar set enfawr , foethus a chwaethus Bob Crowley. Rhaid sôn yn enwedig am y mab bregus ‘Johnny’ (Ronan Raftery) a’r dihiryn o ddyn busnes ‘Mr Bentham’ (Nick Lee) sy’n dod i dwyllo’r teulu, a dinistrio bywyd eu merch ‘Mary’ (Clare Dunne)
Drama fawr bedair act sy’n rhoi digon o amser ichi gael eich dannedd yn y digwydd, ac sy’n eich dal, yn ddirybudd, a’ch swyno hyd y llen olaf.
Mae ‘Juno’ i’w weld yn y National tan y 26ain o Chwefror.
'Totem'
Y Cymro – 10/02/12
Feddyliais i rioed y byddwn i’n rhuthro i’r Neuadd Frenhinol Albert er mwyn gweld y syrcas! Ond, dyna fu fy hanes yr wythnos hon, wrth ymlacio ym melfed moethus y neuadd ogoneddus hon, a’i gynulleidfa yn lapio’i hun yn gylch anwesog o’ch cwmpas, wrth wylio chwip o sioe.
‘Syrcas’ meddwn i, wel ia, i raddau, ond gan y cwmni sydd wedi troi’r syrcas i fod yn sioe fodern, liwgar, llawn drama a dyfeisgarwch. Sefydlwyd Cirque du Soleil (Syrcas yr haul) yng Nghanada nol ym 1984 gan ddau gyn perfformiwr stryd - Guy Laliberté a Daniel Gauthier. Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu’n syfrdanol, a bellach yn fyd enwog am eu sioeau cynhyrfus, theatrig a chorfforol. Mae’r dewis o wledydd ac ieithoedd ar gychwyn eu gwefan yn adrodd cyfrolau ynddo’i hun!
‘Totem’ yw’r sioe ddiweddara i gyrraedd Llundain, a pha well gofod na’r neuadd hynod hon, sy’n gweddu i’r dim i’r fath arlwy safonol. Hanes y creu a gawn yng nghynhyrchiad hudolus Robert Lepage, a phawb o Darwin i losgfynyddoedd, coedwigoedd a’r mwncïod i gyd yn rhan annatod o’r plethiad lliwgar yma o ddawns a cherddoriaeth.
Fel pob syrcas gwerth ei halen, roeddwn i’n gorfod dal fy ngwynt mewn mannau, wrth wylio campau cymhleth a chorfforol y cwmni, wrth ein dallu a’n diddanu gyda’u symudiadau slic. Yr uchafbwyntiau oedd y rhes o ferched dawnus ar feiciau un olwyn, oedd yn gallu troi a thaflu bowlenni arian o’u traed i’w pennau, heb ollwng yr un!
Yn yr un modd gyda’r deuawdau dawnus Massimiliano Medini a Denise Garcia-Sorta yn gwlwm cymhleth o symudiadau slic wrth droi ar ‘rollerboots’ ar gylch o lwyfan, neu Louis-David Simoneau a Rosalie Ducharme yn gariadon clos wrth hedfan ar siglen fry uwchben y gofod actio. Gwych iawn.
Yr iaith gorfforol sy’n serennu a dyna yw allwedd llwyddiant y cwmni Rhyngwladol hwn, ond sydd hefyd yn ceisio ychwanegu hiwmor lleol ymhob lleoliad. ‘Mind the gap’ oedd un o’r gags a gafwyd am Lundain, er fyddwn i’n taeru bod ambell i fwnci hefyd ddigon tebyg i rai o ffyliaid y ddinas!!
Bydd ‘Totem’ yn dod i ben ar yr 16eg o Chwefror, cyn teithio i San Jose a San Diego, ond mi fydd y cwmni yn eu hôl yn yr hydref gyda sioe newydd yn seiliedig ar Michael Jackson. Mwy am hynny yn nes ati.
Friday, 3 February 2012
'Children of Eden'
Y Cymro – 03/02/11
Mae dramâu cerdd fatha bysus. Dach chi’n aros am flynyddoedd i weld neu brofi gwaith cynnar un cyfansoddwr, ac yn sydyn reit, mae’r cyfan yn cael ei hyrddio atoch o bob cyfeiriad. Sôn ydw’i am waith y cyfansoddwr Stephen Schwartz, un o gyd-awduron y ddrama gerdd ‘Wicked’ ond sy’n amlwg yn mwynhau cryn sylw yn Llundain ar hyn o bryd.
‘Godspell’, ‘The Baker’s Wife’ a ‘Pippin’ gafodd eu llwyfannu cyn y Nadolig, a’r dair wedi derbyn ymateb cymysg gan y beirniaid a’r cyhoedd fel ei gilydd. ‘Children of Eden’ oedd yr arlwy’r wythnos hon, a chyngerdd elusennol unigryw, am un noson yn unig, nos Sul diwethaf, yng nghartref y ddrama gerdd ‘Mamma Mia!, theatr y Prince of Wales.
Yn seiliedig ar lyfr Genesis, cawn hanes ‘Adda’ ( Oliver Thornton ) ac ‘Efa’ (Louise Dearman ) ac yn ddiweddarach ‘Cain’ (Gareth Gates) ac ‘Abel’ (John Wilding ) a ‘Noah’ ( Tom Pearce) a’i deulu, wrth geisio adrodd hynt a helynt rhai o blant Eden.
A hithau’n nos Sul, roedd y talp o grefydd amrwd yma, yn cael ei gyflwyno ar gân yn apelio’n fawr, ac addasiad a geiriau John Caird, yn gweddu i’r dim. Cefais fy atgoffa, dro ar ôl tro, am un o sioeau cynnar Cwmni Theatr Cymru ‘Noa’ (un o’r ‘pantomeimiau’ cynhara’ imi’i weld, gyda llaw!) wrth i angst a phryder ‘Noa’ a’i deulu, gael ei droi’n ddrama o liw a phryder, o’n blaen.
Heb os, fatha Sondheim, allwch chi’m peidio â chlywed is-alawon a rhagflas o harmonïau hudolus y cyfansoddwyr hyn yn eu gweithiau cynnar. Does 'na’m dwywaith mai ‘Wicked’ a’i chaneuon cofiadwy a chanadwy fydd y prif waith y bydd pobol yn ei gofio, ac yn ei gysylltu ag enw Schwartz. Er na fwynheais i ‘Pippin’, er gwaethaf mwrdro’r gân hyfryd ‘Corner of the Sky’, roedd llawer gwell siâp a sylwedd i ganeuon ‘Children of Eden’ .
Nid dyma ymweliad cyntaf gwaith â Llundain; fe agorodd y cynhyrchiad gwreiddiol yn Theatr Prince Edward nol ym 1991. Bu cryn ail-sgwennu ac ail- strwythuro ers hynny, ac o weld llyfr nodiadau ym meddiant John Caird nos Sul, fentrwn i ddim y bydd datblygu pellach ar y gwaith.
Braf oedd clywed Caird yn cyfaddef mai dyma’r cwmni cyntaf a roddodd yr angerdd angenrheidiol wrth fyw’r cymeriadau, a chytunaf i gant y cant a hynny. Gyda chorws o berfformwyr ifanc o rhai o golegau drama flaenllaw Llundain, gan gynnwys Steffan Harri o Sir Drefaldwyn, roedd y cyfoeth lleisiol yn gyfoethog tu hwnt.
Un o sêr y sioe, am ei gameo camp a cherddorol o’r sarff yn yr ardd, a ddaeth i demtio Efa, oedd Russell Grant, fydd yn camu i esgidiau’r dewin yn y sioe ‘Wizard of Oz’ ymhen ychydig wythnosau. ‘In Pursuit of Excellence’ oedd ei unig gân, un o fy hoff ganeuon o’r sioe, ac fe roddodd berfformiad unigryw, mor ddisglair â’i sequins gwyrdd, wedi ei lwyddiant ar y gyfres ‘Come Dancing’.
Er bod yr ail act, a saga stori Noa yn tueddu i foddi’n ormodol, fe fwynheais i’r gwaith ar y cyfan. Yn sicr, mae’r hud cerddorol yn nes at ‘Wicked’ na ‘Pippin’ a datblygiad Schwartz fel cyfansoddwr yn amlwg yn y gerddoriaeth a’r stwythr.
Pwy ag ŵyr, efallai y gwelwn ni gynhyrchiad llawn o’r gwaith ar lwyfannau Llundain yn fuan iawn, ond go brin y cewch chi gwmni cystal â’r noson unigryw hon.