Friday, 3 February 2012

'Children of Eden'





Y Cymro – 03/02/11

Mae dramâu cerdd fatha bysus. Dach chi’n aros am flynyddoedd i weld neu brofi gwaith cynnar un cyfansoddwr, ac yn sydyn reit, mae’r cyfan yn cael ei hyrddio atoch o bob cyfeiriad. Sôn ydw’i am waith y cyfansoddwr Stephen Schwartz, un o gyd-awduron y ddrama gerdd ‘Wicked’ ond sy’n amlwg yn mwynhau cryn sylw yn Llundain ar hyn o bryd.

‘Godspell’, ‘The Baker’s Wife’ a ‘Pippin’ gafodd eu llwyfannu cyn y Nadolig, a’r dair wedi derbyn ymateb cymysg gan y beirniaid a’r cyhoedd fel ei gilydd. ‘Children of Eden’ oedd yr arlwy’r wythnos hon, a chyngerdd elusennol unigryw, am un noson yn unig, nos Sul diwethaf, yng nghartref y ddrama gerdd ‘Mamma Mia!, theatr y Prince of Wales.

Yn seiliedig ar lyfr Genesis, cawn hanes ‘Adda’ ( Oliver Thornton ) ac ‘Efa’ (Louise Dearman ) ac yn ddiweddarach ‘Cain’ (Gareth Gates) ac ‘Abel’ (John Wilding ) a ‘Noah’ ( Tom Pearce) a’i deulu, wrth geisio adrodd hynt a helynt rhai o blant Eden.

A hithau’n nos Sul, roedd y talp o grefydd amrwd yma, yn cael ei gyflwyno ar gân yn apelio’n fawr, ac addasiad a geiriau John Caird, yn gweddu i’r dim. Cefais fy atgoffa, dro ar ôl tro, am un o sioeau cynnar Cwmni Theatr Cymru ‘Noa’ (un o’r ‘pantomeimiau’ cynhara’ imi’i weld, gyda llaw!) wrth i angst a phryder ‘Noa’ a’i deulu, gael ei droi’n ddrama o liw a phryder, o’n blaen.

Heb os, fatha Sondheim, allwch chi’m peidio â chlywed is-alawon a rhagflas o harmonïau hudolus y cyfansoddwyr hyn yn eu gweithiau cynnar. Does 'na’m dwywaith mai ‘Wicked’ a’i chaneuon cofiadwy a chanadwy fydd y prif waith y bydd pobol yn ei gofio, ac yn ei gysylltu ag enw Schwartz. Er na fwynheais i ‘Pippin’, er gwaethaf mwrdro’r gân hyfryd ‘Corner of the Sky’, roedd llawer gwell siâp a sylwedd i ganeuon ‘Children of Eden’ .

Nid dyma ymweliad cyntaf gwaith â Llundain; fe agorodd y cynhyrchiad gwreiddiol yn Theatr Prince Edward nol ym 1991. Bu cryn ail-sgwennu ac ail- strwythuro ers hynny, ac o weld llyfr nodiadau ym meddiant John Caird nos Sul, fentrwn i ddim y bydd datblygu pellach ar y gwaith.

Braf oedd clywed Caird yn cyfaddef mai dyma’r cwmni cyntaf a roddodd yr angerdd angenrheidiol wrth fyw’r cymeriadau, a chytunaf i gant y cant a hynny. Gyda chorws o berfformwyr ifanc o rhai o golegau drama flaenllaw Llundain, gan gynnwys Steffan Harri o Sir Drefaldwyn, roedd y cyfoeth lleisiol yn gyfoethog tu hwnt.

Un o sêr y sioe, am ei gameo camp a cherddorol o’r sarff yn yr ardd, a ddaeth i demtio Efa, oedd Russell Grant, fydd yn camu i esgidiau’r dewin yn y sioe ‘Wizard of Oz’ ymhen ychydig wythnosau. ‘In Pursuit of Excellence’ oedd ei unig gân, un o fy hoff ganeuon o’r sioe, ac fe roddodd berfformiad unigryw, mor ddisglair â’i sequins gwyrdd, wedi ei lwyddiant ar y gyfres ‘Come Dancing’.

Er bod yr ail act, a saga stori Noa yn tueddu i foddi’n ormodol, fe fwynheais i’r gwaith ar y cyfan. Yn sicr, mae’r hud cerddorol yn nes at ‘Wicked’ na ‘Pippin’ a datblygiad Schwartz fel cyfansoddwr yn amlwg yn y gerddoriaeth a’r stwythr.

Pwy ag ŵyr, efallai y gwelwn ni gynhyrchiad llawn o’r gwaith ar lwyfannau Llundain yn fuan iawn, ond go brin y cewch chi gwmni cystal â’r noson unigryw hon.

No comments:

Post a Comment