Friday, 25 March 2011

'Sign of the Times'




Y Cymro – 25/03/11

O’r Gielgud i’r Duchess i weld y gomedi ‘Sign of the Times’ gan Tim Firth, awdur y ddrama a’r ffilm ‘Calendar Girls’. Roedd fy ngobaith yn fawr, gan imi wirioneddol fwynhau ei sgriptiau, a gyda’r ddau actor Matthew Kelly a Gerard Kearns (o’r gyfres Shameless) yn rhannu’r llwyfan, allwn i’n dychmygu sut y gallai’r cyfan fod yn fethiant.

Mae act gynta’r ddrama wedi’i osod ar do ffactri yn Batley ble mae ‘Frank’ (Matthew Kelly) sydd wedi gweithio yno ers blynyddoedd yn ceisio addysgu’r llanc ifanc ar brofiad gwaith ‘Alan’ (Gerard Kearns) sut i osod y llythrennau mawr (sef enw’r ffactri) ar yr arwydd enfawr ar ben yr adeilad. Mae llawer o’r hiwmor yn deillio o’r llythrennau mawr sy’n cael eu cludo’n drwsgl gan y llanc ifanc, fesul un, ac sy’n amlwg a dim affliw o ddiddordeb yn hanes na phrofiad yr henwr. Daw tro ar fyd yn yr ail act wrth i’r llwyfan drawsnewid a’n gwahodd i’r swyddfa islaw, tair blynedd yn ddiweddarach ble ma ‘Alan’ bellach yn rheolwr a ‘Frank’ yn ceisio ‘profiad gwaith’ er mwyn hawlio budd-dal, yn sgil gwerthu’r hen ffactri, ac agor un newydd ar yr un safle.

Yn anffodus i Firth, gan nad oes unman i ddianc yma o’r to i’r swyddfa, a rhwng y ddau gymeriad arwynebol, mae’r stori’n dioddef o ddiffyg dyfnder, a llawer rhy ddibynnol ar olygfeydd diddiwedd o Frank yn traethu ei ‘nofel newydd nesa’ i’w beiriant recordio sy’n troi talpiau helaeth o’r ddrama yn fonolog diflas, heb wthio’r stori yn ei flaen.

Does ryfedd bod y cynhyrchwyr wedi penderfynu neithiwr i ddod â’r artaith i ben yn gynnar, a bydd y cynhyrchiad yn cau ar yr 2il o Ebrill.

'The Umbrellas of Cherbourg'






Y Cymro – 25/03/11

Tra bod llwyfannau Cymru yn llawn llwyddiannau ar hyn o bryd, rhwng ‘Deffro’r Gwanwyn’, ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ a chynhyrchiad Bara Caws o ‘Un Nos Ola’ Leuad’ (y byddai’n sôn amdani'r wythnos nesaf), llanast sydd ar lwyfannau Llundain. Dwi’m yn meddwl imi erioed brofi cymaint o siom o sawl sioe o fewn cwta wythnos i’w gilydd.

‘The Umbrellas of Cherbourg’ yw’r ddrama gerdd ddiweddara i agor yn swyddogol yma yn y ddinas, ac sydd wedi llwyddo i rannu barn y beirniaid a’r gynulleidfa fel ei gilydd. Y cwmni nodedig Kneehigh a’u cyfarwyddwr artistig Emma Rice sy’n gyfrifol am y sioe sy’n seiliedig ar y ffilm gerddorol enwog o 1964 gan Jacques Demy a Michel Legrand. Kneehigh fu hefyd yn gyfrifol am y campwath theatrig ‘Brief Encounter’ sef addasiad arall o’r ffilm o’r un enw, a drawsnewidiodd sinema’r Cineworld ar yr Haymarket dair blynedd yn ôl, a phriodi’r sgrin a’r llwyfan mewn modd cwbl gofiadwy.

Hanes dau gariad ym mhorthladd Cherbourg ym 1957 yw craidd y stori; ‘Genevieve’ (Carly Bawden) sy’n gweithio yn siop ambarelau ei mam ‘Madame Emery’ (Joanna Riding) sy’n cwrdd â llanc ifanc o fecanic ‘Guy’ (Andrew Durand) ond sy’n gorfod ffoi i ymladd yn Algeria wedi un noson o angerdd ar strydoedd y ddinas. Y cyfyng cyngor i’r Genevieve feichiog ydi dewis un ai i aros amdano neu briodi’r gŵr busnes cefnog, sy’n barod i fagu’r babi a’i phriodi.

Caiff y stori, a’r ddrama gerdd ei gyflwyno’n gelfydd gan brif seren y sioe'r ‘Maîtresse’ sef y difa a brenhines y ‘burlesque’ Meow Meow, sy’n baglu ac yn brasgamu’n feddw drwy’r gynulleidfa ar gychwyn y sioe, ac sy’n codi’n gobeithion am arlwy o adloniant. Ond yn anffodus, fel ambell i gacen o fy mhopty nwy newydd yma yn Llundain, mae’r cyfan yn cwympo’n ddiflas, yn boddi mewn methiant ac yn gadael blas drwg iawn sy’n fy ngwylltio. Mae’r cynhwysion i gyd yn berffaith a photensial am gampwaith arall, o set a gwisgoedd gwych Lez Brotherston i oleuo Malcom Rippeth, ond er gwaetha’ ambell i fflach o allu a gweledigaeth theatrig Emma Rice, gwag a gwallgo’ oeddwn i’n gadael y Gielgud dros y penwythnos.

Mae’r Umbrellas of Cherbourg yn parhau (ar hyn o bryd!) mwy o fanylion drwy ymweld â www.umbrellasofcherbourg.com

Friday, 18 March 2011

Deffro'r Gwanwyn







Y Cymro – 18/03/11

Roeddwn i wedi bwriadu sôn yr wythnos hon, am fy anturiaethau yng Ngwobrau’r Oliviers dros y Sul, ond wedi dychwelyd heno o Gaerdydd, wedi gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol, sef ‘Deffro’r Gwanwyn’, mae’r ysfa i rannu’r genadwri a’r balchder yn llawer mwy.

Heb oes, mae enw drama ‘ddadleuol’ yr Almaenwr Frank Wedekind sef ‘Spring Awakening’ yn dra hysbys, a hynny am ei ymdriniaeth onest, swrth a chynnil o ddeffroad rhywiol ymysg yr ifanc. Pa ryfedd felly fod y deunydd llenyddol wedi ysgogi'r Americanwyr Steven Sater a Duncan Sheick i droi’r cyfan yn ddrama gerdd roc cyfoes. Ychwanegwch at hynny gyfieithiad pwerus a gonest Dafydd James (awdur y ddrama ‘Llwyth’) a’i gyfuniad bwriadol o’r llenyddol barddonol a bratiaith amrwd, ac fe gewch chi ddewis dewr iawn i unrhyw gwmni theatr, a sialens enfawr i ensemble o actorion a chyfarwyddwyr.

Nid yr elfen rywiol yw’r unig beth dadleuol am y sioe - mae yma hunan leddfu, hunan laddiad, camdriniaeth, erthylu a deffroad gwrywgydiol - y cyfan gyda llaw, o fewn cyd-destun cerddorol cwbl briodol, cynnil a chofiadwy tu hwnt.

‘Stori yw hon sydd wedi ei lleoli mewn gwlad arall ond sy’n cael ei mynegi yn y Gymraeg’ meddai Dafydd James, yn rhaglen liwgar y cynhyrchiad; ‘...aros yn ffyddlon i’r enwau Almaenig a’i lleoliad gwreiddiol oedd yn rhaid yn ôl gofynion hawlfraint y sioe wreiddiol’ ychwanegai. Mae’r cyfuniad o’r Almaeneg, y Lladin a’r Gymraeg yn briodas hyfryd i’r glust, a chyfoeth tafodiaith felfedaidd Dafydd yn anwesu’r amrwd mor brydferth. Ystyriwch yr ystod eang o ran ystyr a chyfnod rhwng y llinellau ‘dim ond bitch yw bywyd’, ‘maddeuwch fy mudredd’, ‘twtch fi’, ‘melys gyffro gwallgo’ a’r anfarwol ‘wel, sdim dwywaith am hyn... dwi’n f****d...’!

Y llanc ifanc, hyderus, ‘Melchior’ (Aled Pedrick) a’i gydymaith nerfus, unig, a phoenus ‘Moritz’ (Iddon Jones) yw dau o’r chwe llanc ifanc sy’n mynychu’r ysgol lem Almaenig dan arolygaeth yr athrawon cas (Dyfed Thomas) a (Ffion Dafis). Wrth i’r llanciau ifanc aeddfedu, tyfu hefyd wna’r ysfa i ddarganfod mwy am yr ysfa rywiol, ac mae’r ‘Melchior’ hyderus yn fwy na pharod i nodi’r cyfan (ynghyd â’r lluniau!) mewn traethawd ar gyfer y ‘Moritz’ chwilfrydig.

Os yr enillodd Aneurin Barnad ac Iwan Rheon Wobrau Oliviers am eu perfformiadau yn y cynhyrchiad gwreiddiol yma yn Llundain, yna ennill ein calonnau wna Aled ac Iddon drwy eu perfformiadau trydanol ar lwyfan moel y cynllunydd Alex Eales. Does unman i guddio yma, yn emosiynol nac yn ddaearyddol, a’r dagrau a’r dyfnder sy’n cael ei deimlo ganddynt yn ddirdynnol o gofiadwy.

Anghofiai fyth sensitifrwydd sawl golygfa, megis y ‘melys gyffro gwallgo’ rhwng ‘Melchior’ a’r forwyn ‘Wendla’ (Ellen Ceri Lloyd) sy’n ildio i’w chwantau a’u brwfrydedd ar ddiwedd yr act gyntaf; felly hefyd rhwng yr ‘Ernst’ (Meilir Rhys Williams) fenywaidd a swil sy’n ysu am gorff a chyffyrddiad y llanc golygus a hydreus ‘Hanschen’ (Owain Gwynn) a’r olygfa brydferth, onest a chomediol rhwng y ddau, sy’n arwain at ddeffro a rhyddhau’r angerdd rhyngddynt.

Yr hyn am trawodd fwyaf am y cynhyrchiad ydi dyfnder cyfarwyddo cyhyrog Elen Bowman, sy’n gwthio’r actorion ar daith gorfforol a meddyliol, y tu hwnt i eiriau dethol Dafydd James. Y mae yma aeddfedrwydd a gonestrwydd ffres a chynhyrfus, a gwir deimlad bod pob un o’r tri actor ar ddeg yn cyfrannu cant y cant tuag at lwyddiant y cyfanwaith. Diolch o galon i’r actorion hynny am dderbyn y sialens, ac am roi inni gynhyrchiad safonol, dirdynnol sy’n llwyr haeddu’r teitl a’r llwyfan Cenedlaethol.

Clod hefyd i’r cyfarwyddwr cerdd Dyfan Jones, sy’n llywio a lliwio’r llon a’r lleddf yn ôl y gofyn, a choreograffi Bridie Doyle a Liz Ranken, sy’n dod â gogwydd cyfoes, ffres i lwyfannau Cymru.

Os nad ydych yn gyfarwydd â’r gwaith gwreiddiol, efallai fydd yr hyn o’ch blaen yn eich dychryn, yn cosi neu’n cyffroi neu hyd yn oed eich cywilyddio. Dyna arwydd o’r Theatr ar ei orau. Gwerthfawrogwch onestrwydd y cyfan, yr amrwd, yr angerdd a’r egni. Mi welais ac a brofais rywbeth arbennig iawn y gwanwyn hwn; wele gychwyn cyfnod newydd ar y Theatr Genedlaethol Gymraeg, ac efallai'r Dadeni y buom yn aros amdano gyhyd...

Mae ‘Deffro’r Gwanwyn’ ar daith ar hyn o bryd. Da chi, peidiwch â’i fethu. 22-23 Mawrth Canolfan Hamdden Pontardawe, 25-26 Mawrth Canolfan Hamdden Aberaeron, 29 Mawrth - 01 Ebrill Canolfan Hamdden Dolgellau, 05-06 Ebrill Canolfan Hamdden Llanrwst , 08-09 Ebrill Canolfan Hamdden Wrecsam, 12-15 Ebrill Canolfan Hamdden Biwmares. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com

Wednesday, 9 March 2011

'The Wizard of Oz'





Y Cymro – 11/03/11

Canmoliaeth fu’n clecian rhwng cytseiniaid y golofn hon dros yr wythnosau diwethaf, a hynny’n syml am fy mod i’n teimlo’n hael, yn mwynhau medru canmol, ac efallai yn dewis peidio â rhoi blaenoriaeth i’r sioeau llai cofiadwy. Unioni’r cam yr wythnos hon, a mynd ati i dafoli a dwrdio fel bo’r angen.

Y sioe ddiweddara i agor (yn swyddogol) yma yn Llundain yw’r bythol boblogaidd ‘The Wizard of Oz’ o stabl dewin y dramâu cerdd, Andrew Lloyd Webber. Does dim angen imi restru’r heip fu eisoes i’r sioe, drwy’r gyfres ar y BBC, fu’n chwilio’n ddyfal am y ‘Dorothy’ delfrydol a’r ‘Toto’ mwya’ trwsiadus am wythnosau lawer, cyn dewis y newydd ddyfodiad Danielle Hope (a’r Gymraes Sophie Evans fel ei dirprwy) i’n harwain ni gyd i lawr y lon frics melyn enwog hyd at y ddinas emrallt.

Wedi gwario miliynau ar gynlluniau’r sioe, a’i lwyfan lliwgar sy’n troi a chodi, gan ddatguddio rhyfeddodau a gweledigaeth y cynllunydd Robert Jones, siomedig ar y cyfan oedd y deunydd oedd yn cael ei ddatguddio (a’i daflunio) drosto.

Y gwendid a’r gŵyn fwya’, gan lawer a’i gwelodd hyd yma, yw’r teimlad o segurdod a diflastod mewn mannau. Er cystal y lliwiau a’r llawenydd, does fawr ddim arall i’w ganmol, heblaw'r ci! Mae’r awr a hanner o’r act gyntaf yn rhygnu mlaen, gyda gormod o olygfeydd hir rhwng dau neu dri pherson, yn hytrach na’r campweithiau cerddorol llawn dawns a drama. Mae’r agoriad yn ddiddychymyg â fflat, ac yn annheg ar brif seren y sioe, ‘Dorothy’ (Danielle Hope) sy’n rhedeg i fuarth y fferm, bron yn ddisylw, heb ddigon o adeiladwaith dramatig na cherddorol, wedi ennill y fath ganmoliaeth. Boddi yn hytrach na serennu mae’r lodes ifanc yng ngwacter enfawr y Palladium, a’i chri am Afallon draw dros yr enfys yn llawer rhy gynnar yn y sioe i gael yr adwaith haeddiannol.

Siom hefyd oedd yr enw mawr arall sef Michael Crawford, fel y dewin a llu o gymeriadau eraill drwy gydol y sioe gan gynnwys y ‘Professor Marvel’ yn yr act gyntaf (ac sydd, gyda llaw yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol gan y gynulleidfa wrth iddo gael ei ‘ddatgelu’ ar gychwyn yr olygfa). Er cystal oedd coluro a gwisgoedd y ‘Tin Man’ (Edwards Baker-Duly), y ‘Llew’ (David Ganly) a’r ‘Bwgan Brain’ (Paul Keating), wnaeth ‘run o’r tri lwyddo i guro perfformiadau perffaith y tri yn y ffilm wreiddiol, ac roeddwn i’n dyheu ac yn digalonni o weld absenoldeb asbri, cyffro a drama yng nghoreograffi stêl, diddychymyg a phrin iawn Arlene Phillips.

Yr unig gymeriad (ac actores) a roddodd wên ar fy ngwyneb oedd Hannah Waddingham fel y ‘Wicked Witch of the West’ sydd wedi’i hanfarwoli bellach yn hanes lliwgar y sioe wych ‘Wicked’. Sioe sydd ganmil gwell yn gerddorol ac yn weledol na’r llanast o liw, a’r gwacter o ganu ar lwyfan y Palladium.

Mwy am ‘The Wizard of Oz’ drwy ymweld â www.wizardofozthemusical.com

'Jekyll & Hyde'




Y Cymro – 11/03/11

A sôn am lanast a gwacter, a methiant canu, dyma ddod at un o’r sioeau gwaetha imi’i weld yma yn Llundain ers tro, os nad erioed. Cynhyrchiad teithiol y cynhyrchydd toreithiog Bill Kenwright o un o fy hoff ddramâu cerdd, ‘Jekyll & Hyde’ gan Leslie Bricusse a Frank Wildhorn. Nid dyma’r tro cyntaf i gynhyrchiad o’r ddrama gerdd gael ei gweld ar lwyfannau Llundain, ac mae’n debyg mai set a gwisgoedd y cynhyrchiad gwreiddiol sydd wedi cael eu hatgyfodi ar gyfer yr artaith o’r arlwy bresennol. Mae rhan helaeth o’r bai yn eistedd ar ysgwyddau dau berson; y cyntaf, heb os nag oni bai yw’r prif gymeriad ‘Dr Henry Jekyll/Edward Hyde’ sy’n cael ei fwrdro’n gerddorol a pherfformiadol gan y canwr Marti Pellow. A phob dyledus barch i’r canwr, sy’n fwya adnabyddus am arwain y grŵp ‘Wet Wet Wet’, ond tydi’r creadur METHU actio, ac felly fe drodd y cynhyrchiad yn un hunllef o embaras, wrth iddo gwffio’n brennaidd i gyfleu deuoliaeth y meddyg sy’n creu’r anghenfil truenus. Yr ail i’w feio yw’r cyfarwyddwr Martin Connor, sy’n llwyfannu’r cyfan yn un llanast di drefn a di ddychymyg, ac a barodd i rai yn y gynulleidfa yn y New Theatre Wimbledon i chwerthin yn uchel dros anghredinedd yr hyn oedd yn digwydd o’u blaen!

Mi wn fod y sioe ar ei ffordd i Gaerdydd, ond da chi, peidiwch â gwastraffu’ch arian ar y fath lanast. Prynwch a lawr lwythwch y trac sain o’r cynhyrchiad Broadway er mwyn osgoi gwingo am bron i air awr mewn embaras llwyr.

Mwy am 'Jekyll & Hyde’ yma www.jekyll-hyde.com

Wednesday, 2 March 2011

'Honest'


Y Cymro 04/03/11

Ac achos arall i ddathlu, wrth imi lwyddo i ddal yr actor o Gymro Trystan Gravelle yn perfformio’r fonolog ‘Honest’ gan y dramodydd ifanc D C Moore, yn nhafarn y Queen’s Head, yma ger Picadilly Circus. Dyma ddrama amrwd arall, yn cael ei gyflwyno mor foel â di-flewyn ar dafod a’r iaith liwgar, gyfoethog a dirdynnol o’i mewn.

Hanes a phrofiadau'r llanc ifanc ‘Dave’ sydd wedi diflasu ar ei fywyd yn y ddinas, ac wedi suro yn erbyn pawb a phopeth yw’r deugain munud byr, ond byrlymus, wrth iddo foddi’i ofidiau, a siarad yn onest am ei fywyd trwsgl a trasig. Does 'na ddim cuddio ar acen Gymraeg cyfoethog Gravelle, a hynny a roddodd yr ergyd fwyaf imi, wrth iddo ddisgrifio’i lwybrau amrywiol, mewn rhannau o’r ddinas sy’n gynefin i minnau. Dewrder a gallu’r actor fydd yn aros yn y cof, a’r geiriau o onestrwydd dirdynnol a rannwyd rhyngom.

Bydd ‘Honest’ i’w weld tan Ebrill 3ydd. Mwy drwy ymweld â www.sohotheatre.com

'Frankenstein'






Y Cymro 04/03/11

Ac wrth sôn am lwyddiannau, rhaid imi annog pob un ohonoch i fentro i’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain i weld y campwaith theatrig, ‘Frankenstein’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle. Boyle oedd yn gyfrifol am y ffilm ‘Slumdog Millionaire’ a gipiodd cymaint o Wobrau rai blynyddoedd yn ôl.

Gogoniant y cynhyrchiad ydi gweledigaeth a synnwyr dramatig cryf Boyle, sydd, drwy ei dîm profiadol sef y cynllunydd set Mark Tildesley, y cynllunydd goleuo Bruno Poet a chynllunydd gwisgoedd Suttirat Anne Larlarb, yn mynd â ni ar daith drwy’r blynyddoedd, yn gronolegol a daearyddol i gorneli pellaf y byd. Cipiodd y cynhyrchiad fy ngwynt mewn mannau, wrth imi syllu’n gegrwth at fawredd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu ar y llwyfan o’m blaen. Anghofiai fyth, tra byddai fyw, yr olygfa sy’n cyfleu’r Chwyldro Diwydiannol, wrth i’r peth gosaf at drên yn llawn o drugareddau hyrddio’i ffordd yn llawn pobol ag arfau a stem i ganol y gynulleidfa, gan fwrw ei gysgodion prysur ar gefn y llwyfan. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac sain wreiddiol sy’n gyfuniad perffaith o synau a cherddoriaeth gan y grwp Underworld.

I gyd fynd â’r set, mae yma dîm profiadol o actorion, gan gynnwys y ddau brif actor Benedict Cumberbatch a Jonny Lee Miller - y ddau, gyda llaw, yn newid eu rôl yn nos weithiol gan rannu’r ddau brif gymeriad sef y gwyddonydd ‘Victor Frankenstein’ a’r anghenfil sy’n cael ei greu ganddo. O’r eiliad yr esgorodd Miller, yn noeth o’r groth wyddonol sy’n cylchdroi’n araf o gwmpas y llwyfan moel, wrth i’r gynulleidfa gyrraedd, fe wyddwn yn syth fod ei berfformiad am fod mor amrwd a bythgofiadwy ag y bu. Felly hefyd gyda’r Cumberbatch angerddol, sy’n colli pob rheolaeth ar yr anghenfil y creodd, ac sy’n talu’r pris yn llawn ar ddiwedd y ddwy awr ddi-dor, ddramatig a bendigedig.

Oes, mae yma wendidau yn y sgript sigledig mewn mannau a pherfformiad prennaidd y tad a’r ferch, ond mae llawer mwy i’w ganmol a’i gofio, sy’n codi uwchlaw’r cyfan, at y myrdd o fylbiau mân sy’n cynhesu’r digwydd uwchben.

Plîs talwch a theithiwch i’w weld; er bod pob tocyn wedi’i werthu hyd yma, mi fydd na fis arall ar werth erbyn i’r rhifyn yma o’r Cymro eich cyrraedd. Os na allwch chi ei weld yn ei briod le ar lwyfan, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i’ch sinema leol ar ddwy noson wahanol - 7fed a’r 24ain o Fawrth drwy garedigrwydd yr NT Live.

Mwy am ‘Frankenstein’ drwy ymweld â www.nationaltheatre.org.uk

Arwel Gruffydd


Y Cymro 04/03/11

Newyddion da i gychwyn, gyda’r cyhoeddiad yr wythnos hon mai Arwel Gruffydd sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Fe gofiwch mai Arwel fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cynhyrchiad llwyddiannus o ‘Llwyth’ rai misoedd yn ôl, felly mae’r gobaith a’r ffydd yn fawr, am arlwy amrywiol a gweledigaeth ac arweiniad deallus a dramatig. Llongyfarchiadau mawr ar ei benodiad, ac amser a ddengys...