Wednesday, 2 March 2011

'Frankenstein'






Y Cymro 04/03/11

Ac wrth sôn am lwyddiannau, rhaid imi annog pob un ohonoch i fentro i’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain i weld y campwaith theatrig, ‘Frankenstein’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle. Boyle oedd yn gyfrifol am y ffilm ‘Slumdog Millionaire’ a gipiodd cymaint o Wobrau rai blynyddoedd yn ôl.

Gogoniant y cynhyrchiad ydi gweledigaeth a synnwyr dramatig cryf Boyle, sydd, drwy ei dîm profiadol sef y cynllunydd set Mark Tildesley, y cynllunydd goleuo Bruno Poet a chynllunydd gwisgoedd Suttirat Anne Larlarb, yn mynd â ni ar daith drwy’r blynyddoedd, yn gronolegol a daearyddol i gorneli pellaf y byd. Cipiodd y cynhyrchiad fy ngwynt mewn mannau, wrth imi syllu’n gegrwth at fawredd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu ar y llwyfan o’m blaen. Anghofiai fyth, tra byddai fyw, yr olygfa sy’n cyfleu’r Chwyldro Diwydiannol, wrth i’r peth gosaf at drên yn llawn o drugareddau hyrddio’i ffordd yn llawn pobol ag arfau a stem i ganol y gynulleidfa, gan fwrw ei gysgodion prysur ar gefn y llwyfan. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac sain wreiddiol sy’n gyfuniad perffaith o synau a cherddoriaeth gan y grwp Underworld.

I gyd fynd â’r set, mae yma dîm profiadol o actorion, gan gynnwys y ddau brif actor Benedict Cumberbatch a Jonny Lee Miller - y ddau, gyda llaw, yn newid eu rôl yn nos weithiol gan rannu’r ddau brif gymeriad sef y gwyddonydd ‘Victor Frankenstein’ a’r anghenfil sy’n cael ei greu ganddo. O’r eiliad yr esgorodd Miller, yn noeth o’r groth wyddonol sy’n cylchdroi’n araf o gwmpas y llwyfan moel, wrth i’r gynulleidfa gyrraedd, fe wyddwn yn syth fod ei berfformiad am fod mor amrwd a bythgofiadwy ag y bu. Felly hefyd gyda’r Cumberbatch angerddol, sy’n colli pob rheolaeth ar yr anghenfil y creodd, ac sy’n talu’r pris yn llawn ar ddiwedd y ddwy awr ddi-dor, ddramatig a bendigedig.

Oes, mae yma wendidau yn y sgript sigledig mewn mannau a pherfformiad prennaidd y tad a’r ferch, ond mae llawer mwy i’w ganmol a’i gofio, sy’n codi uwchlaw’r cyfan, at y myrdd o fylbiau mân sy’n cynhesu’r digwydd uwchben.

Plîs talwch a theithiwch i’w weld; er bod pob tocyn wedi’i werthu hyd yma, mi fydd na fis arall ar werth erbyn i’r rhifyn yma o’r Cymro eich cyrraedd. Os na allwch chi ei weld yn ei briod le ar lwyfan, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i’ch sinema leol ar ddwy noson wahanol - 7fed a’r 24ain o Fawrth drwy garedigrwydd yr NT Live.

Mwy am ‘Frankenstein’ drwy ymweld â www.nationaltheatre.org.uk

No comments:

Post a Comment