Total Pageviews

Friday, 29 November 2013

'Mojo'

Y Cymro – 29/11/13 

Dychmygwch gael eich clymu a’ch crogi, ben ei wared, am dros ddeng munud ar lwyfan theatr yn Llundain – a hynny o flaen cast o wynebau cyfarwydd â phrofiadol. Dyna yw’r her sy’n wynebu’r llanc ifanc, penfelyn golygus, dwy ar hugain oed, Tom Rhys Harries o Bontcanna, yn y ddrama lwyddiannus ‘Mojo’.

Strydoedd cefn tywyll a pheryglus Soho, ym mhumdegau cythryblus y ganrif ddiwethaf, yw cefndir drama gyntaf Jez Butterworth, a ddaeth i enwogrwydd wedi hynny, am ei ddrama ‘Jerusalem’.  Wedi’i gyfarwyddo gan Ian Rickson, a thîm llwyddiannus fu’n cyd-weithio â’i gilydd ar sawl cynhyrchiad, dyma ddrama gyhyrog, dywyll am drais y gangiau a’r clybiau tanddaearol, oedd yn rheoli Llundain, yn y cyfnod yma. 


Yn cadw cwmni i’r Cymro ifanc ar lwyfan Theatr Harold Pinter ger Leicester Square, mae rhai o wynebau cyfarwydd byd y ffilmiau a theledu ar hyn o bryd – dyna ichi ben dyn hunan dewisedig y gang, ‘Mickey’ (Bradley Coyle) sy’n fwy cyfarwydd fel ‘Bates’ ar goridorau tanddaearol Downton Abbey, na strydoedd tywyll Llundain; y llipryn pengoch ‘Sweets’ (Rupert Grint) sy’n troedio’r llwyfan am y tro cyntaf wedi ffarwelio â ‘Ron Weasley’, o’r ffilmiau Harry Potter; Colin Morgan a’i berfformiad trydanol fel ‘Skinny’ ac sy’n diosg mantell ‘Merlin’, o gyfres y BBC, a’r ‘Q’ newydd, yn ffilmiau James Bond, ac un fu’n rhannu llwyfan â’r Fonesig Judi Dench yn ddiweddar, Ben Whishaw, fel y ‘Baby’ fregus a beryglus, sy’n gorfod dod i delerau â llofruddiaeth ei dad, sef perchennog y clwb.

Daniel Mays sy’n serennu, yn byw bob ystum ac anadl y cymeriad ‘Potts’, ac sydd ofn cysgod ei hun, heb sôn am ‘lyn cysgod angau, wrth i’r ddrama dywyll a threisgar, ddidrugaredd, gyrraedd diwedd ei thaith.


Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol yn y Royal Court ym 1995, does dim amheuaeth o gwbl am allu cymeriadu Butterworth – a chreadigaethau y mae’r cast cyhyrog yma wedi’u portreadu’n gwbl wych. O gamau dawns gyntaf ‘Silver Johnny’ (Tom Rhys Davies) ar gychwyn y ddrama, hyd drasiedi’r diweddglo, mae’n gynhyrchiad cofiadwy iawn, er nad yn hawdd ei wylio mewn mannau, yn gwbl werth yr ymdrech.

Yn enedigol o Gaerdydd, ac wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, aeth Tom yn ei flaen i astudio drama yng Ngholeg Cerdd a Drama,  Caerdydd, gan ddewis anwybyddu colegau drama Llundain. “Roedd Caerdydd yn fy siwtio i’n iawn,” meddai’r actor sydd wedi’i weld efo Minnie Driver yn ffilm Marc Evans, ‘Hunky Dory’, ac wedi hynny ar deledu yn y gyfres ‘Parade’s End’. “O’r eiliad y camais i mewn i’r Coleg, roedd y lle yn teimlo’n iawn”, ychwanegodd. 

Wedi’r profiad ar y ffilm, cafodd ei dderbyn gan yr un asiant â Minne Driver, sydd wedi’i arwain at sawl cyfle gwirioneddol gwerthfawr, ac sy’n brawf pendant o’i allu fel actor. Methais â’i weld yng nghynhyrchiad y Menier o ‘Torch Song Trilogy’ y llynedd, ond mi fûm yn ffodus iawn o’i weld yng nghynhyrchiad roc a rôl y Crucible, Sheffield o ddrama Alan Bennett, ‘The History Boys” cyn yr haf eleni.  Er nad oedd Tom erioed wedi gweld y cynhyrchiad gwreiddiol o’r ddrama, cafodd brofiad cofiadwy iawn yn gweithio efo cyfarwyddwr y cynhyrchiad egniol a cherddorol, Michael Longhurst, o dan arweiniad artistig dewinol Daniel Evans.


“Yng Nghaerdydd mae’n ngwreiddie i, ac ers bod yma yn Llunden, rwy’n teimlo’n angerddol iawn dros Gymru”, cyfaddefodd wrthyf, wrth geisio rhwydo sgwrs ffôn, rhwng twneli’r rheilffordd o Gaerdydd i Lundain. “Ma Cymru yn wlad mor greadigol. Ma pwll o dalent da ni, y Cymry Cwmrag, ac fe dyle safon gwaith Cymru fod yn uwch nag yw e”, datganiad y mae’n rhaid i minnau, gytuno cant y cant ag ef. 

Nid beirniadu yw ei fwriad, ond consyrn gwirioneddol am weld safon uwch, ar lwyfannau Cymru. “Yn Llunden, ma nhw wastad yn cwestiynu popeth,” meddai, “a dyw e byth ddigon da.” 

Ac yntau wrthi’n ffilmio golygfeydd yng nghyfres gomedi Caryl Parry Jones i S4C yn ystod y dydd, mae’n cyfaddef fod y daith yn ôl i Lundain i wneud y sioe bob nos, yn flinedig iawn.  Gyda ffilm arall newydd ei gadarnhau'r wythnos hon, dwi’n hyderus iawn y gwelwn ni lawer mwy o’r llanc addfwyn, dymunol hwn, ar lwyfan a theledu Cymru. 

Profiad “anhygoel” i Tom ydi cael bod yng nghwmni tîm mor brofiadol, ac “ma cael dy hongian upside down am ddeg munud, wyth gwaith yr wythnos, yn wers dda o stamina unrhyw actor!”, ychwanegodd.

Mae ‘Mojo’ i’w weld yn Theatr Harold Pinter tan 25ain o Ionawr. Mwy drwy ymweld â www.mojotheplay.com


Friday, 22 November 2013

Pridd



Y Cymro – 22/11/13

A dyma ddod at ddewin drama’r Cymry, a’i delyneg ddramatig, ddidrugaredd ‘Pridd’, a gyflwynwyd gan ein Theatr Genedlaethol yn y Sherman, yr wythnos diwethaf. Cyn canmol mwy ar ddawn unigryw Aled Jones Williams, rhaid diolch o galon i’r ThGen a’r Sherman am ddarparu dau berfformiad pnawn o’r ddrama, a’m siwtiodd i’n berffaith, ac a fu’n hynod o boblogaidd, yn ôl y nifer oedd yno’r un pnawn a mi. Gair i gall, ella?!  Diolch hefyd i Owen Arwyn (un sydd wedi byw sawl cymeriad o waith Aled) am geisio’r ddrama ddiweddara yma ganddo, ac i’r ThGen am gytuno i’w llwyfannu. 

‘Handi Al’, y clown a’r diddanwr plant, ‘ffwli CRB checked’. Methiant a meddwyn, ond un na allwch chi mo’i gasáu, er gwaetha’r geiriau garw a’i chwantau cnawdol. Wrth iddo geisio synnwyr a’i ymddiheuriad o ymson dirdynnol, mae portread Owen Arwyn mor drydanol â’r ‘lectrig o sws’ gyntaf, a gafodd gan ei wraig ddolefus, Gwenda.  Portread ddaeth â dagrau wrth gerdded nôl am ganol Caerdydd – nid dagrau o dristwch, ond dagrau am ddiwedd rhywbeth – fel diwedd gyrfa Robert Deiniol yn Panto, Gwenlyn Parry, neu ddiwedd cyfnod Leni, yn nrama Dewi Wyn Williams, roedd yma ymdeimlad terfynol iawn i’r gwaith.

Allwch chi’m creu’r hudoliaeth ddramatig a’m swynodd yn y Sherman wrth ddarllen y ddalen – rhaid wrth fyw a theimlo’r emosiwn, a diolch i’r cyfarwyddwr ifanc Sara Lloyd, am ymuno ag Owen, ar y daith theatrig honno.

Profwch y Pridd da chi, ym mha le bynnag y medrwch.  Aberystwyth ar y 23ain, Pontardawe ar y 26ain, Crymych ar 27ain a Wrecsam ar y 29ain o Dachwedd. Fe gaiff Aled ryddid i adael y pulpud, ond plîs peidied â’i ryddhau o ledrith ei lwyfan.

Mac//Beth / Dunsinane


Y Cymro – 22/11/13

Fel y crybwyllais yr wythnos diwethaf, mae’n dymor prysur iawn i Fyd y Ddrama, nid yn unig yma yn y West End, ond yng Ngwalia wen, yn ogystal.

Cynhyrchiad o Gymru i gychwyn, yn rhannol Gymraeg, ond yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Linbury, sy’n rhan o’r Tŷ Opera Frenhinol, yma yn Llundain. Cynhyrchiad a barodd imi gael fy nrysu’n llwyr,  gan imi deithio’r holl ffordd i Sadlers Wells, cartref dawns y ddinas, cyn sylweddoli mai yn y Tŷ Opera yr oeddwn i fod. Cynhyrchiad corfforol yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl gan DeOscuro, cwmni newydd anedig cyn is gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts. Felly tipyn o sioc oedd darganfod mai yn y tŷ opera, y llwyfannwyd cyfieithiad Cymraeg Mererid Hopwood, o ddrama fawr Shakespeare, ‘MAC//BETH’, wedi’u gwahodd gan y cwmni Bale Brenhinol!

I gefndir o ddelweddau ffilm gan Huw Talfryn Walters a chynllun fideo Rodrigo Sanchez, o flaen tri thriongl trwm o bren, a thair cynffon sidan tryloyw, y cyflwynwyd inni stori drasig Macbeth (Gerald Tyler) a’i wraig yr Arglwyddes (Eddie Ladd) sy’n lladd y brenin Duncan, er mwyn bodloni eu trachwant. Gyda chymorth Gwyn Emberton, Matthew Harries a Sean Palmer, daw pedair iaith ynghyd – gan gynnwys y Bwyleg a Hebraeg, i gyfeiliant pedwarawd llinynnol Elysian, a fu’n cyfeilio drwy gydol yr 85 munud undonog, am gadawodd yn holi’n hurt, ‘Mac beth?’.

Roedd cyfieithiad Cymraeg Hopwood yn gynganeddol gyfoethog, ond yn anffodus, ymhell tu hwnt i allu mynegiant Eddie Ladd a’i chyd-ddawnswyr. ‘Nid iaith rhaff-drwy-dwll mo’r Gymraeg’, yn ôl Dr John Gwilym Jones, ac fe gollwyd y farddoniaeth felys, ynghanol y cawl ieitheg yma, oedd yn cael ei chwyddo’n ddifaddau drwy’r defnydd helaeth o feicroffonau. Wedi gweld sawl actor profiadol yn byw angst a phoen meddwl Macbeth a’i wraig, roedd y ddau gymeriad yma ymhell o afael gallu Ladd a Tyler, a doedd eu hystwyther corfforol ddim yn ddigon deniadol, i guddio’r gwendidau.

Ymgais anturus i’w ganmol, rhoi gwedd newydd ar hen glasur, ond yn anffodus doedd y cynhwysion, y rysáit na’r cogydd, yn gallu creu’r cyfanwaith blasus, y tro hwn.  Mae MAC//BETH i’w weld yn Aberystwyth ar y 26ain o Dachwedd ac yn yr Wyddgrug ar y 3ydd a’r 4ydd o Ragfyr. 



Ac o sôn am Macbeth, cyfle sydyn i grybwyll mod i wedi cael fy modloni’n llwyr a’m gwefreiddio gan lyfnder cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol yr Alban a’r RSC o ddilyniant i’r ddrama gan y dewin geiriol David Greig, ‘Dunsinane’. Roeddwn i mor ffodus o fedru dal diwedd y daith ddiweddara yng Nghaerfaddon, ganol mis Hydref a phortreadau byw Siobhan Redmond o’r arglwyddes (sy’n dal yn fyw yn y ddrama hon) yn drydan dramatig byth gofiadwy. Os mai’r ‘ddrama Albanaidd’ yw’r gwreiddiol, yna drama’r Prydeinwyr yw hon, sy’n adrodd hanes y gwarchodlu Saesnig sy’n ceisio goroesi, mewn gwlad elyniaethus – ac yn hynod o berthnasol i’n dyddiau ni. Prynwch y gerdd a’i darllen.



Friday, 15 November 2013

'From Here To Eternity' / 'The Commitments'




Y Cymro – 15/11/13

Mae’n dymor cyffrous yma yn Llundain eto, wrth i’r Hydref hudo sawl sioe newydd i’n denu a’n diddanu, wrth agosáu at wyliau’r Nadolig. Falle mai’r llu pererinion presanta dolig, neu’r ysgolion o hanner tymor sy’n tyrru yma yn yr Hydref, sy’n gyfrifol am ffresni’r wledd yn y West End?

Addasiad o ddwy nofel a drodd yn ffilmiau, ac sydd bellach yn ddramâu cerdd, sy’n dod i’r llwyfan gyntaf, yr wythnos hon. Dwy ffilm a sioe cwbl wahanol, dau gyfnod, dwy wlad, a dau ymgais drudfawr, i ddenu’r gystadleuaeth eithriadol am arian prin, chwi brynwyr y tocynnau. ‘From Here to Eternity – The Muscial’ i gychwyn, sef addasiad cignoeth ac amrwd, Bill Oakes o nofel lled-hunangofianol  James Jones, gafodd ei throi’n ffilm lwyddiannus gan Fred Zinnermann, ym 1953. Llwyfan theatr y Shaftesbury yw’r lleoliad (sydd ar gornel goll tu cefn i Covent Garden) a chyn gartref i sawl sioe fyrhoedlog  fel ‘Flashdance’ a ‘Hairspray’,  gan fawr obeithio am dynged well, y tro hwn.

Trasiedi Pearl Harbour ym 1941 yw cefndir y stori, wrth i gatrawd o filwyr aros yn eiddgar, am orchymyn i weithredu, yn harddwch Hawaii. Mae’r criw yn cecru ac yn caru, yn cwffio a rhegi’u dyddiau segur, o dan adain hen theatr ddadfeiliedig wych, y cynllunydd Soutra Gilmour.


Cyn camu dros y trothwy, hawdd iawn yw gweld faint o arian a wariwyd ar lwyddiant y sioe, diolch i bosteri lliwgar a llachar, yn mawrygu’r ‘sêr’ fel yr Albanwr tu-hwnt-o-dal, Darius Campbell (cyn gystadleuydd Pop Idol) ac un o sêr y sioe ‘Gone with the Wind’,  a’r wraig briod mae’n ei swyno, a’i charu, Rebecca Thornhill. Y gadwyn gwana imi oedd ‘Prewitt’ (Robert Lonsdale) a roddodd ei orau glas, ond yn anffodus na feddiannai lais mor gryf â’r gweddill. Er bod ei eiddilwch yn gweddu’n dda i’r milwr a wrthododd ymladd, roedd gwendid amlwg yn amlygu’i hun, dro ar ôl tro.


Er gwaetha gwaith rhagorol y cwmni cyfan, (gan gynnwys dau Gymro Dale Evans a Marc Antolin) coreograffi celfydd Javier De Frutos sy’n aros yn y cof – yn fedrus o felys, wrth droi pob miri militaraidd yn wledd gorfforol i’r llygaid. Derbyniol iawn oedd cerddoriaeth wreiddiol Stuart Brayson, a geiriau’r arch gyfansoddwr, a chynbartner creadigol Lloyd Webber, Tim Rice, a phŵer ac emosiwn eu seiniau yn iasol o effeithiol wrth goffau ‘The Boys of ‘41’, sef y 2,335 milwr a laddwyd yn y gyflafan.

Ydi, mae hi’n werth ei gweld. Mi fwynheais i beth bynnag, heb weld y ffilm wreiddiol chwaith. Ond, mi welais rhai yn mudo cyn yr ail-ran, gan ail-enwi’r sioe (o dan eu gwynt) yn ‘From here to November!’. Chwaeth bersonol fydd yn rhagori, unwaith yn rhagor, ond dwi’n eitha ffyddiog y bydd hi’n dal ei thir, ond falle ddim hyd dragwyddoldeb!


A sôn am chwaeth, (neu ddiffyg chwaeth), os mai trowsus tu hwnt o dynn un o’r prif actorion a’r set fwya' realistig a thal imi’i weld erioed, yw’r ddau beth sy’n aros yn y co’, yna mae 'na wendid mawr yn rhywle! Ia, sôn ydw’i am y siom yr ail sioe, addasiad hir disgwyliedig o ffilm enwog Alan Parker, a nofel enwog Roddy Doyle, ‘The Commitments’.


Wedi’i osod ymysg fflatiau concrid, uchel a thlawd, Dulyn yn yr wythdegau, dyma stori am griw o bobol ifanc ddiflas, sy’n penderfynu creu band ‘soul’, er mwyn rhoi’r enaid yn eu bywydau llwm. Yn wahanol iawn i galedi a brynti’r ffilm, sy’n llwyddo’n eithriadol o dda i ddal naws y craic Gwyddelig, mae cynhyrchiad costus y cyfarwyddwr ifanc talentog Jamie Lloyd, yn teimlo mwy fel dawns Disney lliwgar a glân, na budreddi’r bywyd brwnt.


Treuliais fwy o amser yn rhyfeddu at ba mor fyw oedd set gymhleth ac enfawr Soutra Gilmour (unwaith eto!), wrth ail-greu’r fflatiau tal sy’n diflannu i entrychion theatr y Palace, cyn gartref Les Miserables, ac yn fwy diweddar, Singing in the Rain. Mae’r sioe yn slic, ac yn symud yn urddasol iawn o olygfa i olygfa (prawf o allu llwyfannu a gweledigaeth Lloyd i lywio a lliwio’r cyfan), ond imi, roedd y ffaith i’r cwmni orfod gorfodi a godro’r gynulleidfa i godi ar ein traed ar y diwedd, er mwyn ymuno yn y craic, yn arwydd o fethiant naturiol y sioe.


Sunday, 3 November 2013

Dim Diolch a Theatr Wilbert


Y Cymro 01/11/13

Wythnos arall yn nes at y dolig, a llyfr newydd arall wrth erchwyn y gwely. Newydd dderbyn copi o gyfrol ddiweddara Emyr Edwards o dan yr enw addas ‘Perfformio’ a hynny o wasg a fu’n hynod o gefnogol i fyd y ddrama, ers ei gychwyn, sef Carreg Gwalch.  Mi fyddai’n cynnig adolygiad llawn o’r gyfrol, unwaith fyddai wedi mynd drwyddi, ond cefais flas mawr eisoes am olrhain y testun yn ôl i ddefodau’r Groegiaid a doniau’r Cyfarwydd. Celfyddyd y gyfrol yw dweud syml, deallus Emyr Edwards, heb arlliw o’r dangos-eu-hunain academaidd, sy’n bla gan rai Gweisg Prifysgol, erbyn hyn.  Da iawn yn wir. Dylai fod ar restr Siôn Corn pob un ohonoch!

Llun Keith Morris
A sôn am anrhegion, wel mi gefais i wledd annisgwyl ond hynod bleserus yng Nghwmni’r Frân Wen, a’u perl o sioe ‘Dim Diolch’ yn yr oruwch ystafell anghysbell, yng Nghlwb y Rheilffordd, Bangor yr wythnos diwethaf. Er colli’r dechrau, roedd yr hyn a welais yn fedrus o felys i’r llygaid a’r glust, gan dri actor ifanc dawnus a thri thechnegydd diwyd a mwy ifanc, os rhywbeth – Kelly Hodder, Claudia Bryan-Joyce a Morgan Evans!

Llun Keith Morris
Angerdd ac emosiwn Carwyn Jones a’m cydiodd fwyaf, wrth fyw pob golygfa o fywyd unig, diddiolch, yr ysgolhaig gwyddonol George Price, ac roedd ei lygaid dyfriog tywyll ar ddiwedd y sioe, yn brawf o’i daith theatrig unigryw. Felly hefyd gyda didwylledd Martin Thomas a Ceri Elen, a fu’n cyd-actio ag ef, wrth ddod â’r holl gymeriadau amrywiol at ei gilydd.  

Llun Keith Morris
Wnâi ddim sôn llawer am strwythur y sioe, o waith Iola Ynyr ac wedi’i gyfarwyddo’n ddawns daclus gan Ffion Haf, un o’r cywion cyfarwyddo diweddara o nythaid hyfforddiant Elen Bowman, a’r Theatr Genedlaethol, rhag imi ddifetha naws feddyliol brydferth y cynhyrchiad! Ond drwy weledigaeth syml ond cwbl effeithiol y cynllunydd Erin Maddocks, i greu set gyfan o hen gabinetau ffeilio a lampau amrywiol, ynghyd â thaflunio deallus a dramatig  Rob Spaul, dyma un o’r cynyrchiadau gorau imi weld yng Nghymru ers tro.

Llun Keith Morris
Siom enfawr oedd darganfod ar y diwedd nad yw’r gyllideb yn ddigonol i’w theithio ymhellach na Wrecsam, Caergybi a Llanrwst. Mater y dylai’r Cyngor y Celfyddydau ei ‘werthuso’ gan weithredu yn sydyn iawn, gyda’r gobaith y gallwn ninnau tu hwnt i Gymru, hefyd brofi symlrwydd llwyfannu a mentergarwch a’m hatgoffodd o ddyddiau cynnar Theatr Bara Caws. Gwreiddioldeb, gweledigaeth a chyd-weithio y dylid ei gefnogi ymhob ffordd posib, a hynny heb fod angen am Ganolfan Gelf ddrudfawr a’i lol.

Wilbert Lloyd Roberts ar safle adeiladu Theatr Gwynedd
Ac o sôn am lol a diffyg cefnogaeth, cefais ateb hynod o swta a drist gan Arwel Gruffydd, arweinydd ein Theatr Genedlaethol, ynghylch fy nghais iddo yntau, a’r cwmni i gefnogi’r ymgyrch i enwi theatr newydd Pontio, ar ôl arloeswr a sefydlydd y theatr ym Mangor, Wilbert Lloyd Roberts.  “…er ein bod yn cydnabod ac yn deall cryfder teimladau ar y mater hwn, nid yw'n briodol i ni fel sefydliad ymyrryd ym mhenderfyniad sefydliad arall ar fater nad yw'n gyfrifoldeb i ni,” medd Arwel, gan ychwanegu,  “Rydym yn parchu penderfyniad awdurdodau Prifysgol Bangor ac yn edrych ymlaen yn awr at agoriad Canolfan Pontio ac at lwyfannu sawl cynhyrchiad yn y theatr dros y blynyddoedd nesaf.”

Siom yn wir. Theatr Genedlaethol heb yr hawl i ‘ymyrryd’ na mynegi barn, ar fater sydd mor agos at garedigion y Theatr drwy Gymru. Pa ddiben ei gael, os felly? Pam ddim dyrchafu Bara Caws, Frân Wen, Sherman, Arad Goch neu Glwyd, at statws Cenedlaethol llwfr, di-lais a di-ddiben amlwg, hyd yn hyn?.  

‘Mae angen Theatr Genedlaethol ar y Cymry am eu bod yn genedl,’ yn ôl dadl Gareth Miles, fel y dyfynna Emyr Edwards yn ei gyfrol newydd, ‘…Ond mae’r sawl sy’n mynnu y dylai Cymru feddu ar Theatr Genedlaethol am ei bod hi’n genedl yn darostwng y theatr i fod yn llawforwyn i’w ddaliadau gwleidyddol ef ei hun. Cymru yw Cymru ac mae’n rhaid ei chymryd fel y mae, ac nid fel y dymunem iddi fod.’, meddai’r Bnr Miles.  Felly llestr gwag disglair ond distaw yw dymuniad yr ‘athronwyr academaidd’ mewn cwpwrdd gwydr o Theatr Genedlaethol, tra bod y Cymry yn parhau i droi yn yr un cylchoedd gwenwynig saff, heb dorri tir newydd, na symud ymlaen?

Os nad oes cefnogaeth i’w gael gan ein cyrff theatrig cenedlaethol,  mi dawaf innau ar fy nghri.  Gobeithio bydd bob un sy’n camu drwy gyfoeth drysau enwogrwydd rhyngwladol ‘Theatr Bryn Terfel’, gan gynnwys Arwel, Bryn, Elen ap Robert a’r Athro John Hughes yn cofio’r sarhad a’r diffyg parch a ddangoswyd at freuddwyd, gweledigaeth a gwaith caled y gŵr a fu’n gyfrifol am sefydlu’r theatr ym Mangor, heb sôn am greu cwmni ac actorion blaenllaw i serennu yno. Boed eich egwyddorion mor ddisglair â’ch egos! Amen. 

Mae ‘Dim Diolch’ (teitl addas iawn!) ar daith drwy fis Tachwedd gan ymweld â Blaenau Ffestiniog (4 a 5), Caergybi (7),  Llanrwst (11 a 12), Llandudno (13), Pwllheli (19 a 20), Bala (21),  Llangefni (25), Bae Colwyn (28).  

Friday, 18 October 2013

E bost swyddogol at Arwel Gruffydd a Bwrdd y Theatr Genedlaethol wedi'i anfon heddiw

Annwyl Gwerfyl ac Arwel, a gweddill aelodau o Fwrdd y Theatr Genedlaethol,

Yn sgil y diffyg ymateb ar Twitter (cyfrwng, gyda llaw sydd yn dod yn llawer mwy pwysig, yn sgil y byd sydd ohoni) trist yw gorfod cysylltu â chi drwy ebost, yn ogystal. Yn gyntaf, gai ofyn, o'r galon, pam na chefais y cwrteisi o ateb, i'm ceisiadau, am gefnogaeth i leisio barn caredigion y theatr yn y Gogledd? Fel Corff Cenedlaethol, sy'n derbyn arian cyhoeddus, yda chi'n meddwl mai drwy anwybyddu, ydi'r dull gorau i ddelio gyda chynrychiolydd byd y theatr, yn ein Papur Cenedlaethol?  Os nad ydych yn cytuno â fy marn, yna pam ddim datgan neu gydnabod hynny, yn hytrach na'r distawrwydd euog, anffodus yma?

Dwi wedi cael fy siomi yn fawr, yn fwy felly o gofio cysylltiad Arwel â Theatr Gwynedd - un a fu mor flaenllaw yn coffau'r annwyl Graham Laker, a'i gyfraniad eithriadol i Gwmni Theatr Gwynedd gynt. Pam nad ydych fel corff cyhoeddus yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd a gweddill caredigion byd y theatr yn y Gogledd, i ddatgan ein gwrthwynebiad chwyrn i fait accompli anffodus Pontio Bangor, i anwybyddu llais y bobl, a pharhau gyda'u hymgyrch - a'u cynnig gosodedig, i 'anrhydeddu seren ryngwladol' dros ŵr cyffredin, roddodd ei fywyd i wireddu ei freuddwyd o theatr safonol ym Mangor?. Onid ydi egwyddor a pharch yn disgleirio'n llawer mwy na unrhyw seren ryngwladol?

Mae gan Bryn Terfel eisoes ŵyl ac ysgoloriaeth ddigonol, i arddel ei enw; mae ganddo lais a llwyfan drwy'r byd i barhau i berfformio, ac ennill ei glod fel Cymro. Mae ganddo weddill ei oes i ymddangos ar lwyfan theatr Pontio, yn wythnosol, os dymunir. Ond i Wilbert, neu Graham Laker gynt, tydi'r cyfleoedd hynny ddim yn bod mwyach. Sarhad fyddai galw ystafell ymarfer neu gornel o'r ganolfan aruchel ar ôl un o'r ddau, yn hytrach na'r prif ofod perfformio.

Casglwyd deiseb o enwau amlwg o fyd y ddrama, drwy law Gaynor Morgan Rees, ymysg eraill - a gafodd ei anwybyddu yn llwyr gan y Brifysgol. Gwarthus iawn, yn wir, ac mae'r drwg eisoes wedi'i wneud, gyda sawl un yn galw am anwybyddu'r Ganolfan ym Mangor, am eu hagwedd wrth Gymreig aruchel, yn hytrach na gwasanaethu'r gynulleidfa y mae hi yno i'w chynrychioli.

Os nad ydi'r Theatr Genedlaethol yn ddigon dewr i wrthwynebu'r penderfyniad, a sefyll yn gadarn yn ei erbyn  - gan hyd yn oed fygwth tynnu'n ôl o unrhyw gyd-gynhyrchu yn y dyfodol, yna fe fydd Chwalfa o embaras ar sawl lefel. 

Paham y dylem ni Gymry fod mor daeog ag ildio i'r fait accompli gwarthus yma, gan y Brifysgol a Pontio?. Fe ddylem barhau i wrthwynebu, yn fwy cyhoeddus os rhywbeth, nes cael y maen i'r wal.  Roedd hyd yn oed y ffaith bod y datganiad i'r Wasg am enw'r theatr newydd, wedi'i danio allan mor gynnar yn y dydd, bnawn Gwener ddiwethaf, yn awgrymu'n gryf fod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud.

Magwch hyder plîs - mae dau aelod o'r Bwrdd eisoes wedi datgan yn gyhoeddus nad ydynt yn cytuno â'r penderfyniad, a dau arall, ofn datgan eu barn yn gyhoeddus. A wnewch chi ddatganiad swyddogol ynglŷn â'ch barn a'ch safbwynt, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr


Paul Griffiths
Adolygydd Theatr Y Cymro

Ateb yr Athro Anwen / The Ritual Slaughter of Gorge Mastromas / Scenes from a Marriage


Y Cymro – 18/10/13

Fu hi ddim yn wythnos hawdd, a dweud y lleiaf. Wythnos o amddiffyn fy safbwynt a fy syniadau. Wythnos o ymweld â theatrau o Lundain i Gaerdydd i Gaerfaddon. O Ddulyn yr wythdegau i’r Alban yn yr ail-ganrif ar ddeg.

Ond mi gychwynnai yn Aberystwyth, wrth ddesg yr ‘Athro’ Anwen Jones PhD, MPhil, BA, TAR, FHEA yn ôl gwefan Prifysgol Aberystwyth, sy’n cyflogi’r ‘awdurdod’ yma, ar hanes y ddrama yng Nghymru. Wrth bori ar y Wê yr wythnos hon, fe ganfyddais epistol diweddara’r athro yn y ‘North American Journal of Welsh Studies, vol. 8 (2013)’, o dan y teitl aruchel ‘THE DYNAMICS OF DEVOLUTION: AN ENQUIRY INTO THEROLE AND SIGNIFICANCE OF WALES’S POST-DEVOLUTION NATIONAL THEATRES’. 

Wrth drafod gwaddol cynnar y Theatr Genedlaethol, dyma oedd gan y doethur i’w ddweud am fy nghyfraniad i ar dudalennau’r Cymro : ‘Whilst Paul Griffiths’ routine flagellation of any Theatr Genedlaethol Cymru productions in the pages of Y Cymro, during this period, deserves to be taken with a pinch of salt, the collective criticism of directors and theatre academics, such as Ian Rowlands, Dafydd Llewelyn and Roger Owen are more difficult to dismiss.’

‘Rhydd i bawb ei farn’, oedd cysur doeth un o’m cyfeillion ffyddlonaf, ac mae hynny’n ddigon gwir, ond yr hyn sy’n drist ydi mai barn y doethuriaid megis yr athronyddol Anwen, sy’n cyrraedd y llyfrau hanes. Er imi anfon e-bost ati, yn gofyn am eglurhad, neu gyfiawnhad, pam nad oedd fy ‘fflangellu rheolaidd’ , (neu’n hytrach fy marn onest), gystal â damcaniaethau ‘athronwyr’ a ‘chyfarwyddwyr’ y theatr, mae’n amlwg ei bod hi’n llawer rhy brysur yn pori drwy lyfrau ym Mae Ceredigion, i ateb fy nghais.  Falle nad oes gennyf lyfrgell o lythrennau i’w arddel ar ôl fy enw, (ar wahân i fy BA, fel hithau!) ond mi fentrai fy mod yn treulio lawer mwy o amser yn y Theatr, na’n ‘doethinebu’ o flaen dosbarth o fyfyrwyr!.  Y llwyfan yw’n lle i, nid mewn llyfrgell!

Hoffwn hefyd roi gwybod, ar gofnod hanesyddol, nad ‘fflangellu’n rheolaidd’ oedd, ac yw fy mwriad, ond ceisio addysgu ac egluro pam na ddylem fodloni ar theatr daeog ‘neith-hi’r-tro’ yng Nghymru; pam na ddylem gael ein dallu gan ddiffyg dawn y sawl sy’n cael ei benodi, ond sefyll yn gadarn, ben ben â’r gorau’r drwy’r wlad (ac nid dim ond Aberystwyth!).

Bu ceryddu pellach ym mloneg fy mlog (fy nghofnod digidol, ar y Wê, o feddyliau a barn bersonol). Ceryddu y bu’r cylchgrawn Golwg yn ofalus iawn i’w osgoi, mewn cyfweliad diweddar, ond ceryddu y bu’n RHAID imi rannu â’r byd, oherwydd annhegwch y sefyllfa, ac i amddiffyn ysgrifenwyr llai cegog na fi! Ai ddim i ail-adrodd fy nghwyn eto fyth, nac i enwi’r rhai sydd wedi fy siomi, ond carwn ddiolch yn gyhoeddus am yr un ymateb gonest a gefais, sydd ynddo’i hun wedi adfer fy ffydd, a fy mharch, tuag ati. Trafodaeth agored a diduedd yw’r cyfan rwy’n ei geisio, ac onestrwydd yn hytrach na thriciau dan din, cudd.


A Fait Accompli Prifysgol a Phontio Bangor sydd wedi corddi eraill, yn ogystal â mi fy hunan, a’u penderfyniad i anwybyddu llais caredigion y theatr, sef y gynulleidfa y mae hi yno i’w chynrychioli, a bwrw mlaen i gadarnhau eu trafodaethau efo Bryn Terfel i enwi’r THEATR newydd ar ei ôl, yn hytrach na’r pensaer creadigol Wilbert Lloyd Roberts. Galw ar i’r gynulleidfa anwybyddu’r ganolfan newydd, oedd cri un cefnogwr, ond fy nghynnig i ydi i barhau i alw’r theatr yn THEATR WILBERT, ar lafar ac ar brint. Yfflon o ots be ydi’r enw swyddogol, llais y bobol sy’n cyfrif, a siawns bod egwyddor a pharch yn llawer mwy disglair nag unrhyw seren ryngwladol?!



A rŵan, at y dramâu, sef pennaf ddiben y traethu theatrig.  I’r Royal Court yr es Nos Lun, i ddal y cynhyrchiad cyntaf  i Vicky Featherston, cyn arweinydd artistig Theatr Genedlaethol yr Alban, gyfarwyddo yno, yn ei swydd newydd fel arweinydd artistig y cwmni. Drama mor dywyll felys â’r triog gorau posib yw The Ritual Slaughter of Gorge Mastromas sy’n llawn gwirioneddau mawr am y dirgel frawdoliaeth ffyddlon, sy’n rheoli’r byd sydd ohoni. ‘Cân di gân fach fwyn i’th nain’, ac fe ganith dy nain, a’th ‘frawd’ a’th ‘fodryb’ ddeuawd, neu driawd gwarchodol i’th gynnal.

Tad maeth y sioe boblogaidd ‘Matilda’ – Dennis Kelly, yw awdur y gwaith, a’r un sy’n gyfrifol am greu’r drychiolaeth dichellgar, ‘Damian-llyd’ y prif gymeriad ‘Gorg’ (Tom Brooke).  Fel gyda chynyrchiadau Featherston o waith un o fy arwyr theatrig, Anthony Neilson, mae yma eto dorri tir newydd (anghysurus ac anghywir) yn ôl rhai, sef cyfyngu’r actorion i res o gadeiriau caled am bron i hanner awr, wrth draethu ôl stori hanfodol, y prif gymeriad. Methiant i lawr, mwynhad pur imi.



Methiant poenus o amlwg, a sioc o siom ydi cynhyrchiad diweddara’r dewin drama Trevor Nunn, fu’n gyfrifol yn ei dro am rai o gynhyrchiad enwocaf y West End, fel Les Miserables a Cats. Addasiad o ffilm Ingmar Burgman yw ‘Scenes from a Marriage’, ac fel awgryma’r teitl, cyfres o olygfeydd byr, blêr, ffilmig a gafwyd, am fethiant priodas Johan (Mark Bazeley) a Marianne (Olivia Williams).

O flerwch tawelu’r gerddoriaeth ar fenthyg, undonog ar ddiwedd pob golygfa, i’r symud celfi cyson yn y duwch, fe welais lawer mwy o lyfnder a dawn ddramatig ar lwyfannau gwyliau dramâu cefn gwlad Cymru, nag y medrwn ei stumogi yn rhan gyntaf y cynhyrchiad yma yn Theatr St James, Victoria.

Gewch chi ragor o hanes gweddill fy wythnos, yr wythnos nesaf. Rhydd hynny gyfle ichi bwrcasu môr o halen, a chyfle i minnau ymlacio, wedi wythnos anheg, ac emosiynol tu hwnt.