Friday, 20 May 2011

'The Primrose Hill Ladies' Club'




Y Cymro – 20/05/11

Un o fy hoff bethau am fod yma yn Llundain, ydi’r amrywiaeth helaeth o adloniant theatrig sydd ar gael. Mae’r ddinas fel un ŵyl ymylol enfawr, gyda’i chadwyn o theatrau bychain, ymhob cwr o’r ddinas. Theatrau y byddai’n dysgu amdanynt o wythnos i wythnos, yn sgil yr hysbys am y ddrama ddiweddara’, neu gynhyrchiad sy’n denu sylw am actor arbennig neu awdur newydd.

Rhyw faglu ar draws y cynhyrchiad ‘The Primrose Hill Ladies Club’ wnes i, yn theatr The Courtyard, Hoxton, wedi gweld cymaint o gynigion am docynnau am ddim, hwnt ac yma. Penderfynu mynd, heb wybod fawr ddim am y ddrama, na’r theatr.

Dyma ddrama gyntaf yr actor Bern Bowers, sydd bellach yn canolbwyntio ar wneud enw i’w hun, y tu ôl i’r llenni, fel petai. Gyda dwy neu dair drama arall, eisoes ar y gweill, mae’n amlwg fod ganddo dipyn i’w ddweud.

Mae’r ddrama wedi’i selio ar atgofion chauffeur ‘Frau Mili Herschel’ (Kevin Potton) oedd yn cadw tŷ ar gyfer ei hymwelwyr unigryw, nepell o’r Primrose Hill Road yn y chwedegau. Hafan i drawswisgwyr oedd y lloches, prysur hwn, ble y cafodd rhai o ŵyr busnes llwyddiannus Llundain, yn farnwyr, milwyr, athrawon a gweinidogion, y cyfle i ddianc rhag eu dyletswyddau gwrywaidd, a thrawsnewid i fyw eu breuddwydion benywaidd.

Trodd y peilot golygus ‘Rick Tiley’(Benjamin Way) i fod y ‘Gloria’ gegog drwsiadus, yn ei sodlau uchel coch, a’i sgertiau cwta; trodd y milwr profiadol ‘Rog’ (Dan Styles) i’r Sgowsan secsi ‘Vera’ a’r Iddew nerfus ‘Jonathan’ (Jonathan Laury) yn mentro am y tro cyntaf i fod y ‘Kitty’ cywrain a swil.

Roedd y syniad craidd yn addawol tu hwnt, a stori Frau Herschel yn werth ei hadrodd. Oherwydd diffyg arian, ac efallai, diffyg gweledigaeth theatrig yng nghyfarwyddo Gary Wright, fe ddioddefodd y cynhyrchiad mewn mannau. Roedd gwir angen golygu ar y tair golygfa ar ddeg, er mwyn cadw’r cyfan i lifo yn llawer mwy cynnil a di-dor.

Cafwyd blas o ‘orffennol hunllefus Herschel, oedd wedi goroesi’r Rhyfel, drwy aberthu’i gwerthoedd, a gwerthu’i hunan i ddiddanu’r milwyr. Roedd y dyfnder yma, ynghyd â chychwyn yr ail ran, oedd yn cynnig eglurhad dros feddyliau ac angen y dynion golygus hyn i fentro i’r byd benywaidd yn ddiddorol ac eto’n drasig.

Roedd deialogi Bowers eto’n gynnil ac yn dra effeithiol dro ar ôl tro, a byddai golygydd sgript, neu gyfarwyddwr caletach wedi ei gynorthwyo i chwynnu a’i atal rhag meddwi’n eiriol mewn mannau.

Perfformiadau campus (yn yr ystyr orau posib!) Benjamin Way a Dan Styles fydd yn aros yn y cof; yn amrwd a noeth mewn mannau, yn byw'r angst a’r boen, yn cwffio’u cydwybod a rhagfarn cymdeithas, dro ar ôl tro. Felly hefyd gyda Kevin Potton yn y brif ran, oedd, yn gwneud ei orau i bortreadu’r Frau Herschel fonheddig, er gwaetha cyfyngderau’r cymeriad ac anghyfforddus rwydd amlwg yr actor.

Cam rhy bell, yn fy marn i oedd cynnwys yr heddwas (Matthew Ward) oedd hefyd, yn gyfleus iawn i’r stori, am fentro i brofi’r ochor fenywaidd, ac roedd ei ymateb dros-ben-llestri o awdurdodol wedi’r hunanladdiad ar y diwedd, yn drybeilig o wan, a siomedig.

Felly seiliau addawol, a gyda golygu gofalus ac actorion cryfach, dyma ddrama sydd â thipyn i’w rannu, a blas o gyfnod lliwgar yn hanes Llundain.

Mae’r ddrama i’w weld yn The Courtyard tan y 4ydd o Fehefin. Mwy o fanylion yma www.thecourtyard.org.uk

Sunday, 15 May 2011

Atgofion Mrs Georgina Jones, Dolwyddelan


Atgofion Mrs Georgina Jones, Bron Feinw, Dolwyddelan ar achlysur derbyn Anrhydedd Archesgob Cymru am Wasanaeth Oes i Gerddoriaeth, Yr Eglwys yng Nghymru

Ym 1940, a hithau ddim ond yn ddwy ar bymtheg oed y cychwynnodd Georgina (Roberts bryd hynny) ganu'r organ yn Eglwys Santes Elizabeth, Dolwyddelan. Saithdeg mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'r gwasanaethu wythnosol yn parhau, bellach yn Eglwys Sant Gwyddelan y Plwyf.

"Roedd 'na bron i dri deg o hogia yn y côr pan gychwynnais i", cofia'i Georgina, "ac mi welais nhw'n mynd i'r Rhyfel o un i un. Dim ond un neu ddau oedd ar ôl wsti".

A hithau bellach yn wythdeg saith oed, dim ond dwy briodas a dau angladd (ac ambell i Sul yn sgil profedigaethau teuluol neu salwch) mae hi wedi'i fethu dros y cyfnod eang, sy'n ymestyn dros ofalaeth deg ficer gwahanol.

"Yn yr Ysgol Sul nesi gychwyn chwarae ym 1939", ychwanegodd Georgina, "roedd 'na dair ohonna ni i gychwyn, ond aeth un i'r Coleg ac fe gafodd y llall blentyn, ac felly ers 1940, dwi di bod yno fy hun."

Mae'n anodd dychmygu’r fath gyfraniad a’r aberth, sydd wedi golygu mynychu o leiaf tri gwasanaeth pob Sul. "Ro'n i'n arfer mynd pedair gwaith yn dechrau”, ychwanegai, “ Gwasanaeth Cymraeg am ddeg, yna Saesneg am chwarter wedi unarddeg. Adre wedyn am ginio, ac yna yn ôl am ddau i'r yr Ysgol Sul ac yna'r Hwyrol Weddi gyda'r nos am chwech.” Bellach, dim ond un Gwasanaeth y Sul sydd yno.

“Pan o’n i’n naw oed, ges i wersi i gychwyn gan Mary Catherine, (mam Eurwen Hughes) ond doeddwn i ddim yn eu hoffi o gwbl”, cofiai. “Fe fynnodd mam (Jessie Roberts) mod i'n stopio, ac yna nes i gychwyn chwara fy hun ar yr organ yn parlwr. Sol-ffa i ddechrau ac yna, yn ôl cyngor brawd nain (Robert Maurice Evans) o Graig y Don, oedd yn organydd ac yn tiwnio’r organ, mi ddaliais ati. Efo nain (Mary Evans) y dysgais i'r Salmau, ac roedd taid (Rowland Evans) yn chwara’r organ yn Eglwys Pont y Pant hefyd” ychwanegodd.

“Ma’ chwarae Salm yn wahanol i ganu emyn - rhaid iti wbod y miwsig yn dy ben er mwyn medru canu'r geiriau” meddai dan wenu, “Roedd Mr Hughes y Ficer yn deud wrthai am ddysgu Salm ac Emyn newydd bob wythnos” .

Ond nid dim ond yr Emynau a’r Salmau oedd yn rhaid eu dysgu; “roedd gen ti’r Magnifficat, y Nunc Dimittis, Gweddi’r Arglwydd, y Gweddïau a darnau’r Côr” cofiai, “am fod y Gwasanaeth bryd hynny yn cael ei ganu i gyd.”

Roedd ei chyfraniad i’r bywyd cymdeithasol hefyd yn bwysig ac yn amhrisiadwy drwy gynnal arwerthiannau a gyrfaoedd chwist. “Rhaid iti gael gwobrau da, wsti” meddai, “roedd gennym ni tua phedwardeg o fyrddau weithiau yn y Church Hall” ychwanegodd â balchder.

Wedi cau Eglwys Santes Elizabeth ym 1984, union gan mlynedd ers ei hagor ym 1884, symudodd yr Addoli a’r gwasanaethu i Eglwys hynafol Sant Gwyddelan y plwyf. Yno bellach, ar ben carreg fedd y bardd a’r awdur anterliwidau Angharad Jams, Cwm Penamnen, mae Georgina yn dal i wasanaethu bob dydd Sul, doed a ddelo.

“Dwi'n meddwl mod i wedi rhoi gwasanaeth bendigedig, wsti”, meddai hi’n ddiymhongar tu hwnt” ; a braint oedd cael bod yn Eglwys y Drindod, Llandudno ddechrau mis Ebrill eleni, i’w gweld hi’n derbyn ei thystysgrif a’i medal o flaen cynulleidfa o ffrindiau a theulu.

Hoffai Georgina ddiolch o galon i’w theulu, cymdogion, ffrindiau a’r Eglwys am y cardiau, blodau, anrhegion a’r llu cyfarchion a dderbyniodd dros y misoedd diwethaf. “Un o anrhydeddau mwya’ fy mywyd,” meddai a dagrau yn ei llygaid. Dwi’n siŵr mai ein lle ni yw diolch iddi hi.

Friday, 13 May 2011

‘Brontë’





Y Cymro 13/5/11

Dwy ddrama gyfnod fenywaidd, gwbl wahanol yr wythnos hon, wrth imi ymweld â theatrau’r Trycyle a’r Arts yma yn y ddinas fawr. Mae’n gyfnod llewyrchus unwaith eto, a job dal i fyny efo’r llwyth o gynnyrch newydd sy’n britho theatrau’r ddinas.

Does gen i ddim cywilydd cyfaddef mai gwael iawn fues i mewn gwersi Saesneg yn Ysgol Dyffryn Conwy, a does ryfedd felly mod i wastad yn drysu rhwng y Jane Eyre a Jane Austin! Roeddwn i’n fwy na hapus o fedru dal cynhyrchiad diweddara’r pwerdy dramatig Shared Experience o dan law'r dewin Nancy Meckler. ‘Brontë’ oedd teitl y cynhyrchiad, wedi’i gyfansoddi neu ei gasglu ynghyd gan y dramodydd Polly Teale.

Fel awgryma’r teitl, hanes teulu’r Brontë’s a gafwyd yn y ddwy awr a chwarter cwbl hudolus hwn. Mae’r cyfan yn cychwyn yn y presennol, wrth i’r tair actores ar y llwyfan bori a thrafod y llwyth o nofelau, cyfrolau a llythyrau sef gwaddol euraidd y teulu unigryw yma. Mewn modd cwbl gorfforol, hudolus a theatrig, sydd mor nodweddiadol o waith y cwmni, fe drawsnewidiodd yr actorion i bortreadu’r tair chwaer, ‘Charlotte’ (Kristin Atherton), ‘Emily’ (Elizabeth Crarer) ac ‘Anne’ (Flora Nicholson) heb sôn am ddafad ddu'r teulu, a phoen parhaol eu bywydau byr, eu brawd ‘Branwell’ (Mark Edel-Hunt)

Gogoniant y cyfan oedd y modd y plethwyd prif weithiau’r tair, i’w storiâu personol a theuluol; Emily yn gaeth yn y tŷ wrth greu ‘Wuthering Heights’, Charlotte yn cwffio’i hemosiynau drwy greu ‘Jane Eyre’ (o dan y llys enw Currer Bell) ar ieuengaf, ac efallai'r mwyaf trasig o’r tair Anne, a’i nofel ‘The Tenant of Wildfell Hall ’. Drwy gyfres o olygfeydd hynod o bwerus oedd yn llawn emosiwn ac angerdd, fel gyfleuwyd yr angst a’r wefr o roi genedigaeth i gymeriadau o gig a gwaed ac o fedru agor y drws ar deimladau a meddyliau na fyddent byth wedi meiddio meddwl amdanynt heb sôn am y cyffro o’u profi.

Dyma gynhyrchiad fyddai’n ei gofio am amser maith, nid yn unig am yr ochor addysgiadol ond am y taclusrwydd artistig, a pherfformiadau tanbaid y teulu cyfan.

Mae ‘Brontë’ ar daith ar hyn o bryd tan y 4ydd o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.sharedexperience.org.uk

'Bette and Joan'




Y Cymro 13/5/11

O’r Brontë’s i ‘Bette and Joan’ yn yr Arts Theatre, a hanes perthynas ffrwydrol dwy o Divas mwya’ Hollywood, Bette Davis a Joan Crawford.

Wedi gyrfaoedd hynod o lwyddiannus, a brwydrau geiriol dros gyfnod o 30 mlynedd, mae’r ddau eicon Americanaidd yn dod wyneb yn wyneb ar set y ffilm ‘Whatever happened to baby Jane?’. Mae’r ddrama wedi’i osod yn ystafelloedd newid y ddwy, ar set y ffilm, ble mae’r ‘Crawford’ (Anita Dobson) ffysi a ffyrnig, yn ei moethusrwydd melfed a’i o ffynnon o nawdd gan Pepsi yn rhestru gwendidau ei chyd-actores, a’i thafod miniog, eiddigeddus. Gyferbyn â hi, yn ei gwedd brudd, amrwd a blêr mae’r ‘Davis’ (Greta Scacchi) nodweddiadol o’i hymddangosiadau diffwdan, real a chaled, yn tanio’i ffordd drwy’r sigaréts a’i surni tuag at yr eicon arall ochor draw i’r drych.

Dwy awr o ddadlau, a rhannu ‘cyfrinachau’ a sylwadau sarhaus am ei gilydd wna’r ddwy, sy’n rhoi inni ddwy awr o theatr llawn adloniant ac addysg. Wyddwn i ddim hanner digon am y ddwy cyn mynd, ac roeddwn i’n ysu am fy ffôn a’r Wikipedia wych yn yr egwyl, er mwyn dysgu mwy am y ddwy lodes unigryw. Ond mae yma fwy na dadlau plentynnaidd y ddwy bits benboeth. O dan y cyfan, mae yma stori am ddwy ddynes, dwy fam yn ymdrechu’n deg i gynnal eu teuluoedd a’u henw da. Mae yma gofnod o’r Oes Aur a fu yn Hollywood, ble roedd gan y Divas yma hawl i hawlio unrhyw beth posib, a rhoi’r holl staff dienw drwy uffern dyddiol , wrth drio dal eu dymuniadau.

Perfformiadau tanbaid a theilwng Dobson a Scacchi am ddiddanodd mwyaf, ac roedd y ddwy fel tân gwyllt yn ffrwydro’n lliwgar drwy gydol y sioe. Roedd eu hamseru a’r awyrgylch a grëwyd ganddynt mor danbaid â’r deunydd oedd yn cael ei drafod.

Gwych iawn. Mynnwch eich tocynnau nawr!

Mae ‘Bette a Joan’ yn yr Arts Theatre tan y 25ain o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.artstheatrewestend.com

Friday, 6 May 2011

'Godspell'





Y Cymro – 6/5/11

Wedi profi’r angerdd a’r adloniant ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf, parhau mae’r thema grefyddol, wrth imi ymweld â’r Union Theatre yma yn Llundain ar gyfer cynhyrchiad o’r ddrama gerdd ‘Godspell’.

Cefais fy nhrwytho yn eitha’ helaeth yng ngherddoriaeth Stephen Schwartz yn ddiweddar yn sgil cwrs dros y Pasg efo’r gwaith, a roddodd gryn sylw i’r cyfansoddwr toreithiog hwn. Ymhlith ei gyfraniad amhrisiadwy i’r byd cerddorol mae’r sioeau ‘Wicked’, ‘Pippin’, ‘Children of Eden’ ynghyd â channoedd o ganeuon i ffilmiau Disney. Eleni, mae ‘Godspell’ yn dathlu’i phen-blwydd yn ddeugain oed, sy’n fwy o reswm, nid yn unig am ei llwyfannu, ond hefyd am roi gwedd gyfoes a chyffrous arni.

Mae’r gwaith yn seiliedig ar gyfres o ddamhegion o Efengyl Mathew yn bennaf, er bod rhai ohonynt ddim ond i’w gweld yn Efengyl Luc. Yn eu plith mae’r Samariad Trugarog, y meistr a’r gwas a Lasarus, ynghyd â’r Gwynfydau. Mae’r ‘Iesu’ (Billy Cullum) yn cyrraedd yr olygfa gyntaf yn ei sbectol haul a’i helmed beic modur, yn cŵl ac yn denu sylw a dilynwyr o’r funud gyntaf. Meddwi ar ei eiriau a’i ganu wna’r criw dethol o ddisgyblion, sydd hefyd yn galaru yn yr ail act wrth i’r dieuog gael ei ddedfrydu i’w farwolaeth.

Yr unig ‘gymeriad’ arall sy’n cael ei enwi o’r Beibl yw ‘Jiwdas’ (David Brooks) sydd hefyd yn dyblu fel ‘Ioan Fedyddiwr’. Mae enwau gweddill y cwmni yn seiliedig ar enwau cyntaf y cwmni gwreiddiol, a lwyfannodd y ddrama gerdd yn Pittsburgh, Pennsylvaia yn y saithdegau.

Ymhlith y caneuon cofiadwy mae’r clasuron poblogaidd ‘Day by Day’ a 'We Beseech Thee’ sy’n ffefrynnau gan gorau ac unigolion ar hyd y blynyddoedd.

Yr hyn a’m swynodd am y cynhyrchiad lliwgar a llawen hwn oedd afiaith ac angerdd y cwmni o ddeg actor. Bob un yn credu gant y cant yn y stori a’u cymeriadau. Yn eu plith, roedd yr actor o Gymro Iwan Lewis, a welais yng nghynhyrchiad y Donmar o ‘Passion’ rai misoedd yn ôl. Fe ganodd Iwan y gân ‘All Good Gifts’ yn wych, ynghyd â dod ag ychydig o Gymraeg i’r Gwynfydau.

Roedd yr awyrgylch a’r emosiwn a greodd y cwmni yn fy atgoffa o ‘Corpus Christi’ a welais yng Nghaeredin yn 2007, ble teimlais y gwir gariad Cristnogol yn drydan drwy’r theatr.

O dan gyfarwyddyd Michael Strassen a Michael Bradley a chynllun goleuo cynnil ond cwbl effeithiol Steve Miller, fe draws newidiwyd pob cornel o’r gofod tywyll ond dymunol hwn, sy’n un o theatrau lleiaf Llundain.

Mae’r sioe yn dod i ben y penwythnos hwn, felly heidiwch yno os medrwch chi. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.godspellthemusical.co.uk