Sunday, 15 May 2011
Atgofion Mrs Georgina Jones, Dolwyddelan
Atgofion Mrs Georgina Jones, Bron Feinw, Dolwyddelan ar achlysur derbyn Anrhydedd Archesgob Cymru am Wasanaeth Oes i Gerddoriaeth, Yr Eglwys yng Nghymru
Ym 1940, a hithau ddim ond yn ddwy ar bymtheg oed y cychwynnodd Georgina (Roberts bryd hynny) ganu'r organ yn Eglwys Santes Elizabeth, Dolwyddelan. Saithdeg mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'r gwasanaethu wythnosol yn parhau, bellach yn Eglwys Sant Gwyddelan y Plwyf.
"Roedd 'na bron i dri deg o hogia yn y côr pan gychwynnais i", cofia'i Georgina, "ac mi welais nhw'n mynd i'r Rhyfel o un i un. Dim ond un neu ddau oedd ar ôl wsti".
A hithau bellach yn wythdeg saith oed, dim ond dwy briodas a dau angladd (ac ambell i Sul yn sgil profedigaethau teuluol neu salwch) mae hi wedi'i fethu dros y cyfnod eang, sy'n ymestyn dros ofalaeth deg ficer gwahanol.
"Yn yr Ysgol Sul nesi gychwyn chwarae ym 1939", ychwanegodd Georgina, "roedd 'na dair ohonna ni i gychwyn, ond aeth un i'r Coleg ac fe gafodd y llall blentyn, ac felly ers 1940, dwi di bod yno fy hun."
Mae'n anodd dychmygu’r fath gyfraniad a’r aberth, sydd wedi golygu mynychu o leiaf tri gwasanaeth pob Sul. "Ro'n i'n arfer mynd pedair gwaith yn dechrau”, ychwanegai, “ Gwasanaeth Cymraeg am ddeg, yna Saesneg am chwarter wedi unarddeg. Adre wedyn am ginio, ac yna yn ôl am ddau i'r yr Ysgol Sul ac yna'r Hwyrol Weddi gyda'r nos am chwech.” Bellach, dim ond un Gwasanaeth y Sul sydd yno.
“Pan o’n i’n naw oed, ges i wersi i gychwyn gan Mary Catherine, (mam Eurwen Hughes) ond doeddwn i ddim yn eu hoffi o gwbl”, cofiai. “Fe fynnodd mam (Jessie Roberts) mod i'n stopio, ac yna nes i gychwyn chwara fy hun ar yr organ yn parlwr. Sol-ffa i ddechrau ac yna, yn ôl cyngor brawd nain (Robert Maurice Evans) o Graig y Don, oedd yn organydd ac yn tiwnio’r organ, mi ddaliais ati. Efo nain (Mary Evans) y dysgais i'r Salmau, ac roedd taid (Rowland Evans) yn chwara’r organ yn Eglwys Pont y Pant hefyd” ychwanegodd.
“Ma’ chwarae Salm yn wahanol i ganu emyn - rhaid iti wbod y miwsig yn dy ben er mwyn medru canu'r geiriau” meddai dan wenu, “Roedd Mr Hughes y Ficer yn deud wrthai am ddysgu Salm ac Emyn newydd bob wythnos” .
Ond nid dim ond yr Emynau a’r Salmau oedd yn rhaid eu dysgu; “roedd gen ti’r Magnifficat, y Nunc Dimittis, Gweddi’r Arglwydd, y Gweddïau a darnau’r Côr” cofiai, “am fod y Gwasanaeth bryd hynny yn cael ei ganu i gyd.”
Roedd ei chyfraniad i’r bywyd cymdeithasol hefyd yn bwysig ac yn amhrisiadwy drwy gynnal arwerthiannau a gyrfaoedd chwist. “Rhaid iti gael gwobrau da, wsti” meddai, “roedd gennym ni tua phedwardeg o fyrddau weithiau yn y Church Hall” ychwanegodd â balchder.
Wedi cau Eglwys Santes Elizabeth ym 1984, union gan mlynedd ers ei hagor ym 1884, symudodd yr Addoli a’r gwasanaethu i Eglwys hynafol Sant Gwyddelan y plwyf. Yno bellach, ar ben carreg fedd y bardd a’r awdur anterliwidau Angharad Jams, Cwm Penamnen, mae Georgina yn dal i wasanaethu bob dydd Sul, doed a ddelo.
“Dwi'n meddwl mod i wedi rhoi gwasanaeth bendigedig, wsti”, meddai hi’n ddiymhongar tu hwnt” ; a braint oedd cael bod yn Eglwys y Drindod, Llandudno ddechrau mis Ebrill eleni, i’w gweld hi’n derbyn ei thystysgrif a’i medal o flaen cynulleidfa o ffrindiau a theulu.
Hoffai Georgina ddiolch o galon i’w theulu, cymdogion, ffrindiau a’r Eglwys am y cardiau, blodau, anrhegion a’r llu cyfarchion a dderbyniodd dros y misoedd diwethaf. “Un o anrhydeddau mwya’ fy mywyd,” meddai a dagrau yn ei llygaid. Dwi’n siŵr mai ein lle ni yw diolch iddi hi.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment