Friday, 20 May 2011
'The Primrose Hill Ladies' Club'
Y Cymro – 20/05/11
Un o fy hoff bethau am fod yma yn Llundain, ydi’r amrywiaeth helaeth o adloniant theatrig sydd ar gael. Mae’r ddinas fel un ŵyl ymylol enfawr, gyda’i chadwyn o theatrau bychain, ymhob cwr o’r ddinas. Theatrau y byddai’n dysgu amdanynt o wythnos i wythnos, yn sgil yr hysbys am y ddrama ddiweddara’, neu gynhyrchiad sy’n denu sylw am actor arbennig neu awdur newydd.
Rhyw faglu ar draws y cynhyrchiad ‘The Primrose Hill Ladies Club’ wnes i, yn theatr The Courtyard, Hoxton, wedi gweld cymaint o gynigion am docynnau am ddim, hwnt ac yma. Penderfynu mynd, heb wybod fawr ddim am y ddrama, na’r theatr.
Dyma ddrama gyntaf yr actor Bern Bowers, sydd bellach yn canolbwyntio ar wneud enw i’w hun, y tu ôl i’r llenni, fel petai. Gyda dwy neu dair drama arall, eisoes ar y gweill, mae’n amlwg fod ganddo dipyn i’w ddweud.
Mae’r ddrama wedi’i selio ar atgofion chauffeur ‘Frau Mili Herschel’ (Kevin Potton) oedd yn cadw tŷ ar gyfer ei hymwelwyr unigryw, nepell o’r Primrose Hill Road yn y chwedegau. Hafan i drawswisgwyr oedd y lloches, prysur hwn, ble y cafodd rhai o ŵyr busnes llwyddiannus Llundain, yn farnwyr, milwyr, athrawon a gweinidogion, y cyfle i ddianc rhag eu dyletswyddau gwrywaidd, a thrawsnewid i fyw eu breuddwydion benywaidd.
Trodd y peilot golygus ‘Rick Tiley’(Benjamin Way) i fod y ‘Gloria’ gegog drwsiadus, yn ei sodlau uchel coch, a’i sgertiau cwta; trodd y milwr profiadol ‘Rog’ (Dan Styles) i’r Sgowsan secsi ‘Vera’ a’r Iddew nerfus ‘Jonathan’ (Jonathan Laury) yn mentro am y tro cyntaf i fod y ‘Kitty’ cywrain a swil.
Roedd y syniad craidd yn addawol tu hwnt, a stori Frau Herschel yn werth ei hadrodd. Oherwydd diffyg arian, ac efallai, diffyg gweledigaeth theatrig yng nghyfarwyddo Gary Wright, fe ddioddefodd y cynhyrchiad mewn mannau. Roedd gwir angen golygu ar y tair golygfa ar ddeg, er mwyn cadw’r cyfan i lifo yn llawer mwy cynnil a di-dor.
Cafwyd blas o ‘orffennol hunllefus Herschel, oedd wedi goroesi’r Rhyfel, drwy aberthu’i gwerthoedd, a gwerthu’i hunan i ddiddanu’r milwyr. Roedd y dyfnder yma, ynghyd â chychwyn yr ail ran, oedd yn cynnig eglurhad dros feddyliau ac angen y dynion golygus hyn i fentro i’r byd benywaidd yn ddiddorol ac eto’n drasig.
Roedd deialogi Bowers eto’n gynnil ac yn dra effeithiol dro ar ôl tro, a byddai golygydd sgript, neu gyfarwyddwr caletach wedi ei gynorthwyo i chwynnu a’i atal rhag meddwi’n eiriol mewn mannau.
Perfformiadau campus (yn yr ystyr orau posib!) Benjamin Way a Dan Styles fydd yn aros yn y cof; yn amrwd a noeth mewn mannau, yn byw'r angst a’r boen, yn cwffio’u cydwybod a rhagfarn cymdeithas, dro ar ôl tro. Felly hefyd gyda Kevin Potton yn y brif ran, oedd, yn gwneud ei orau i bortreadu’r Frau Herschel fonheddig, er gwaetha cyfyngderau’r cymeriad ac anghyfforddus rwydd amlwg yr actor.
Cam rhy bell, yn fy marn i oedd cynnwys yr heddwas (Matthew Ward) oedd hefyd, yn gyfleus iawn i’r stori, am fentro i brofi’r ochor fenywaidd, ac roedd ei ymateb dros-ben-llestri o awdurdodol wedi’r hunanladdiad ar y diwedd, yn drybeilig o wan, a siomedig.
Felly seiliau addawol, a gyda golygu gofalus ac actorion cryfach, dyma ddrama sydd â thipyn i’w rannu, a blas o gyfnod lliwgar yn hanes Llundain.
Mae’r ddrama i’w weld yn The Courtyard tan y 4ydd o Fehefin. Mwy o fanylion yma www.thecourtyard.org.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment