Friday, 24 September 2010

'State Fair'




Y Cymro 24/09/10

Roedd 'na gryn gynnwrf rai misoedd yn ôl, pan gyhoeddwyd fod drama gerdd unigryw Rodgers & Hammerstein ‘State Fair’ i’w weld yn y Trafalgar Studios am gyfnod byr. Dyma’r tro cyntaf, yn ôl yr ‘ohebiaeth, i ddrama gerdd gael ei lwyfannu ar lwyfannau’r Stiwdio. Fel ymwelydd cyson â’r theatr dros y blynyddoedd, mi wyddwn fod yma ddau ofod cwbl wahanol - y prif ofod enfawr, a fu’n llwyfan i gynyrchiadau cofiadwy fel ‘Bent’, ‘Entertaining Mr Sloane’ a ‘Holding the Man’ i’r stiwdio danddaearol llawer llai a fu’n gartref i ‘A Night in November’ a ‘Private Peaceful’ i enwi ond dwy. Dwy fonolog gyda llaw! Dychmygais mai’r prif lwyfan fyddai’n addas ar gyfer y sioe enfawr hon, gyda cherddorfa yn nyfnderoedd y ‘pit’ a’r setiau mawr yn sefydlu’u hunain fry uwchben.

Ond, na... unwaith yn rhagor, cael fy swyno gan bosibiliadau llwyfannau llai, gweledigaeth arbennig y cyfarwyddwr a chryfder cwmni o 14 actor i gyflwyno stori epig i gyfeiliant piano sydd hefyd yn rhannu’r hances boced o lwyfan gyda’r cwmni!

State Fair’ ydi’r unig ddrama gerdd a gyfansoddodd Rodgers & Hammerstein yn arbennig ar gyfer y sgrin fawr. Ym 1945, gwelwyd y ffilm am y tro cyntaf, gyda chaneuon cofiadwy fel "It Might As Well Be Spring" a "It's A Grand Night For Singing".

Dilyn hanes teulu’r Frake dros gyfnod o dridiau ydi’r prif ffocws, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr Iowa State Fair. Mae gan bob aelod o’r teulu obeithion gwahanol am y ffair fel y fam ‘Melissa’ (Susan Travers) sy’n awyddus iawn i ennill y gystadleuaeth goginio gyda’i briwfwyd unigryw, sy’n boddi mewn brandi! Mae’r tad ‘Abel’ (Philip Rham) yn rhoi’i obaith i gyd ar y baedd ‘Blue Boy’ tra bod eu mab ‘Wayne’ (Karl Clarkson) am ddysgu gwers i’r stondinwyr, sy’n eu twyllo’n flynyddol o’u harian prin. A’r gobaith olaf yw’r ferch ‘Margy’ (Laura Main) sy’n dyheu am unrhyw beth fydd yn llwyddo i lonni’r lleddf yn ei bywyd llwm.

I gyfeiliant hudolus Philippa Mumford ar y piano, llwyddodd y cwmni i fynd â ni ar y daith flynyddol , a sawl golygfa fel y daith yn y cerbyd yn gofiadwy tu hwnt, diolch i ddychymyg theatrig a gweledigaeth y cyfarwyddwr Thom Southerland.

O dderbyn y cyfnod, a’r pynciau dan sylw, (ac efallai cyfyngderau’r gofod) roeddwn i’n falch iawn bod yna elfen gref o’r tafod yn y boch drwy’r cynhyrchiad, ac oherwydd hynny, cefais fwynhad mawr o’u gwylio. Mae rhan o’r clod am hynny yn aros efo’r cyfansoddwyr sydd i’w canmol i’r cymylau am droi stori am deulu, baedd a brifwyd yn ddrama gerdd ddwy awr a hanner (bron) o hyd!

Cafwyd chwip o berfformiadau gan y flonden drwsiadus ‘Emily Arden’ (Jodie Jacobs) sy’n dwyn calon y mab ‘Wayne’ a hefyd y ddau gymeriad cwbl gomig y ffotograffydd ‘Charlie’ (Gillian McCafferty) a’r Beirniad meddw (Anthony Wise).

O astudio’r rhaglen yn fwy manwl, cefais wybod mai yn un o fy hoff theatrau llai sef y Finborough y llwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf, a hynny’n egluro’n llawn pam bod yr hances boced o lwyfan y Trafalgar yn apelio’n fawr at y cwmni, sydd wedi arfer cyflwyno’r cyfan mewn gofod llawer llai!

Prawf arall mai nid y maint sy’n bwysig, ond y ddawn a’r weledigaeth. Yn anffodus unwaith eto, fe ddaeth ymweliad byr y cwmni i ben .

No comments:

Post a Comment