Total Pageviews

Friday, 12 April 2013

'Let It Be'






Y Cymro 12/04/13

Dau gynhyrchiad cwbl wahanol yr wythnos hon, a dwy sioe y cefais y fraint o’u mwynhau dros yr wythnosau diwethaf.  I Theatr y Savoy i gychwyn, ar achlysur dathlu hanner can mlynedd ers cyhoeddi  albwm  cyntaf y Beatles, yn sain a swyn y sioe ‘Let it Be’.

Wedi disgwyl  am flynyddoedd am gael yr hawl i lwyfannu sioe yn cynnwys clasuron o ganeuon y Beatles, fe ddaeth ‘Let it Be’ i lwyfan y Savoy, a disgwyl mawr amdani. O geudwll y Cavern yn Lerpwl  I lwyfan y Palladium yn Llundain, dyma gyngerdd o atgofion, gán wrth gân, gyda geiriau prin i'w cysylltu.  Cyfle gwych i glywed dros bedwar deg o ganeuon y grŵp llwyddiannus, wedi’u pecynnu’n daclus yn ôl y cyfnod. O lwyfan moel, di-liw i barti lliwgar Sergeant Pepper a'i fand amrywiol.

Roedd yr angen i ddawnsio rhwng y rhesi, yn amlwg, gyda rhan helaeth o’r gynulleidfa (lled feddwol!) yn ysu am godi a’u camerâu’n clecian  a’r ffôns a'u fflachiadau, yn atgyfnerthu awyrgylch drydanol y cyfnod.  Falle fydda’r cyfan yn ormod, wedi diwrnod o siopa neu grwydro strydoedd Llundain, ond os am barti, dyma’r lle i ddod.

Yn wahanol i sioeau tebyg, fel ‘Jersey Boys’, ‘Mamma Mia!’, neu ‘We Will Rock You’, does yna ddim stori amlwg yn plethu’r caneuon. Mae’r geiriau a naws y gerddoriaeth yn ddigon ynddo’i hun.  O ryfel Fietnam i Haf hir o gariad, cewch eich swyno gan yr alawon a’r geiriau cofiadwy. Llinellau bythgofiadwy fel ‘My guitar gently weeps’ ar gychwyn yr ail-ran acwstig atmosfferig.

I gyfeiliant hysbysebion a delweddau o’r cyfnod, ynghyd â golwg ar gynulleidfaoedd y gwahanol ddegawdau, dyma gilolwg bleserus yn ôl i rai, a phrofiad newydd o’r dyddiau da i eraill. Mae gwerth a gwefr y sioe yn ei symlrwydd, a hawdd dychmygu effaith trydanol y grŵp unigryw yma, sy’n parhau i’n cyffroi hyd heddiw.

Mae ‘Let it Be’ i'w weld yn theatr y Savoy, mwy drwy ymweld â www.letitbelondon.com neu @letitbelondon 


Friday, 22 March 2013

'People'





Y Cymro – 22/03/13

I’r rhai ohonoch a fu’n ddigon ffodus, (neu anffodus o bosib!), i ddal drama ddiweddara Alan Bennett ‘People’ a gafodd ei ddarlledu’n fyw o’r Theatr Genedlaethol i sinemâu amrywiol drwy Gymru a thu hwnt yr wythnos hon, tybed beth oedd eich ymateb?   

Fel un sy’n ffan mawr o waith y Bnr Bennett (gan iddo wrthod ei Syr!) siomedig oedd y gomedi hon am dair chwaer yn byw mewn plasty moethus sydd wedi dirywio’n arw, gan gwffio ymdrech yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’w brynu a’i addasu.   

Er iddi gychwyn yn rhagorol, gyda pherfformiadau tanbaid gan Diana (Frances de la Tour), Iris (Linda Bassett) a June (Selina Cadell) fe drodd y comedi wan yn ffars dros ben llestri gyda chyrhaeddiad y cwmni ffilm bornograffig a’r llanast a’u dilynodd. Fe gyfaddefodd y cyfarwyddwr Nicholas Hytner ei fod wedi ceisio annog y Bnr Bennett i sgwennu drama newydd ar eu cyfer yn gynt na’r pedair blynedd o saib arferol. Fe gymerodd dair i gyfansoddi hon. Gair i gall efallai...
 
Mae ‘People’ bellach wedi mudo o lannau’r Tafwys, ond i'w weld mewn amrywiol sinemau drwy Gymru.

'Grimm Tales'






Y Cymro – 22/03/13

Tra bod tîm Cymru'n rhoi cweir iawn i dîm Lloegr ar y cae rygbi bnawn Sadwrn, roedd cwmni drama o Gymru yn swyno cynulleidfa o amrywiol oed yn theatr fechan y Polka yn Wimbledon.  Sôn ydw’i am Theatr Iolo a'u cynhyrchiad hudolus o syml o’r straeon tylwyth teg Almaeneg, a’u tro erchyll,  y Grimm Tales.

Braf oedd clywed bod y cwmni wedi ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau i blant, yng ngwobraunewydd beirniaid y theatr yng Nghymru, y llynedd. Wedi taith lwyddiannus o gwmpas Cymru, gyda nifer o’r canolfannau wedi gwerthu pob tocyn, roedd hi’n braf iawn cael ymuno â’r cwmni, ar ymweliad â Llundain.

Tair stori a gafwyd, o’r trysor o gasgliad o straeon i blant gan y ddau frawd Jacob a Wilhelm Grimm, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1812.  Y straeon i gyd yn adnabyddus i genedlaethau o blant ac oedolion bellach, diolch i fyrdd o addasiadau amrywiol o raglenni plant i bantomeimiau’r Nadolig. Addasiadau sydd, gan amlaf, yn medru mwrdro neu ddofi natur fregus neu greulon y straeon gwreiddiol, yn ôl eu cynulleidfa, neu’r Oes a’u rhannant.

Hanes y brawd a’r chwaer Hansel (Wiebke Acton) a Gretel (Ceri Elen) gafodd ei chyflwyno’n gyntaf, a hynny’n hynod o annwyl a thyner, gan gofio bod môr o wynebau eiddgar, o 6 i 11 oed yn ysu am gael eu diddanu, wrth lyncu llanast llawn siwgr, ar bnawn Sadwrn gwlyb!. Gyda Elliot Quinn yn portreadu’r tad a Cassandra Jane Bond yn cyflwyno’r fam, trwy addasiad barddonol, di-lol Carol Ann Duffy a Tim Supple, a dawn yr actorion medrus i ganu offerynnau yn ogystal ag ambell i gân, fe lwyddodd y cynhyrchiad i hudo a thawelu pob cnonyn cwynfanllyd am yr awr ac ugain munud pleserus hwn.

Stori Aschenputtel (Cassandra Jane Bond) a ddilynodd, sy’n fwy adnabyddus i ni fel Sinderela, diolch i dylwyth Disney a’u tebyg sydd wedi troi’r chwedl brydferth hon, yn antur dros-ben-llestri. Oes, mae yma elfennau go erchyll, sy’n cael eu cyflwyno yma mewn modd doniol a chreadigol iawn, ond yr hyn â’m swynodd i’n bennaf oedd symlrwydd creulon y stori wreiddiol, sy’n rhoi fwy o gig a gwaed ar y cartŵn o gymeriadau arferol.

Eira Wen  (Ceri Elen) – (wedi lliwio’i gwallt yn dywyll dros gyfnod yr egwyl sy’n gamp ynddo’i hun!) sy’n agor yr ail-ran, ac yn cloi’r sioe. Yma eto, fel gyda gweddill y sioe, mae’r hyn sydd i’w weld a’i glywed ar y llwyfan yn syml ond hynod o drawiadol, diolch i gyfarwyddo  Kevin Lewis , cynllunio Erini Gregoriades, cerddoriaeth Lucy Rivers  a goleuo Jane Lalljee. Ychwanegwch at hynny eich dychymyg byw ac ymlaciwch yn swyn y gynulleidfa ifanc ac fe gewch chi brofiad theatrig hynod o gofiadwy, i bob oed.

Mae Theatr Iolo yn parhau i fod yn Wimbledon tan y 23ain o Fawrth. Rhuthrwch yno da chi!

 

Friday, 8 March 2013

'A Chorus Line'








Y Cymro - 08/03/13

Yr ail gynhyrchiad imi’i weld oedd y ddrama gerdd ‘A Chorus Line’ sy’n llenwi’r llwyfan yn y Palladium gyda chwmni o hyd at hanner cant o actorion. Dyma gynhyrchiad syml, ond swynol tu hwnt, o’r ddrama gerdd a’r ffilm o’r 1970au. Mae’r cynhyrchiad yn driw iawn i’w gwreiddiol, o ran y set, gwisgoedd a’r coreograffi, ac mae’r cryfder i gyd yn aros ym mherfformiadau trydanol y llinell gorws wrth i bob un ymgeisio a breuddwydio am gael bod yn rhan o’r dewis terfynol.

Mae yma ganeuon cofiadwy iawn, sy’n taro deuddeg dro ar ôl tro, diolch i leisiau hyderus a phresenoldeb llwyfan llawn yr actorion. Rhaid imi sôn am ddehongliad sensitif a chofiadwy’r cymeriad ‘Diana’ (Victoria Hamilton-Barritt ) o’r gân anfarwol ‘What I did for love’, monolog personol a gonest ‘Paul’ (Gary Wood) sy’n gorfod camu i flaen y Palladium enfawr, ac sy’n cynnal a dal pob llygad y gynulleidfa niferus, a’r diweddglo llawn gemau a glitter ‘One’ sy’n llythrennol yn ‘singular sensation’, i ddyfynnu’r gân.

Peidiwch â disgwyl setiau cyfoethog a gwisgoedd llachar. Does dim yma. Mae’r digwydd i gyd ar lwyfan moel a thywyll y theatr, gan adael i dalent y llinell gorws eich dallu. 

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.choruslinelondon.com neu @achoruslineldn os am drydar. 



'Privates of Parade'





Y Cymro 08/03/13

Aeth blwyddyn lawn heibio ers imi osod pin a barn ar bapur, ac er iddi fod yn flwyddyn anodd o ran iechyd, mae'n braf iawn bod nôl. Mae cymaint wedi digwydd, ac ar fin digwydd ar lwyfannau Cymru a Llundain 'ma. Fyddai'n ceisio ngore i'ch rhag hysbysu gora medrai dros y misoedd nesaf. Fy ymweliad cyntaf â'r Theatr eleni oedd i ddal drama gyntaf yn nhymor newydd cwmni Michael Grandage yma yn Llundain, cyn iddi gau.

Y ‘ddrama gydag ambell gân’ 'Privates on Parade' yn Theatr Noël Coward, a chwmni cadarn o ddynion o bob oed, ac un ferch ddewr, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod y rhyfel yn Malaya, wrth ddilyn criw o ddiddanwyr milwrol. Rhyw gyfuniad o ‘It Ain't Half Hot Mum’ a ‘La Cage Aux Folles’ a gafwyd yn ystod y ddwy awr a hanner gyfoethog o gomedi hon.

Rhaid enwi Simon Russell Beale, 'seren' y cynhyrchiad a lwyddodd i oleuo'r adfeilion o set foel, oedd yn gartref i'r diddanwyr diflino. Portreadu’r croes-wisgwr ‘Captain Terri Dennis’ oedd ei dasg, ac fe wnaeth hynny mor lliwgar â’i wisgoedd! A braf oedd gweld y Cymro, Mark Lewis Jones yn portreadu'r Cymro ‘Sergeant Major Reg Drummond’ a Davina Perera yn portreadu’r ferch o India a hanner Gymraes, ‘Sylvia Morgan’.

Er bod y milwyr wedi mudo bellach, bydd y Fonesig Judi Dench a'r llanc ifanc Ben Whishaw yn llenwi'r gofod gyda drama newydd gan John Logan, ‘Peter and Alice’ o Fawrth 9fed tan Fehefin 1af. Wedi hynny, bydd Daniel Radcliffe (y Bnr Harry Potter!) yn arwain y cwmni yn nrama Martin McDonagh, ‘The Cripple of Inishmaan’ o Fehefin 8fed tan ddiwedd Awst, a Sheridan Smith a David Walliams yn dod a Breuddwyd Noswyl Ifan, Shakespeare i’r llwyfan o Fedi’r 7fed tan Dachwedd 16eg. Jude Law sy’n cloi’r tymor, gyda mwy o Shakespeare, drwy bortreadu’r Brenin Harri’r Pumed o ddiwedd Tachwedd tan Chwefror 15fed 2014.

Mae’n werth nodi fod y cwmni hefyd yn cynnig dros 100,000 o docynnau am £10, felly cyntaf i’r felin! Mwy amdanynt drwy ymweld â www.MichaelGrandageCompany.com neu eu dilyn drwy drydar @MichaelGrandage 

Friday, 2 March 2012

'Ghost - The Musical'




Y Cymro – 02/03/12

Bu imi osgoi mynd i weld y ddrama gerdd ‘Ghost - The Musical’ y llynedd, am sawl rheswm. Yn gyntaf, clywais fod y llwyfannu yn ‘torri tir newydd’ o ran y defnydd o oleuo a delweddau symudol, ac yn ail am fod ‘cerddoriaeth’ y sioe, wedi cael ei feirniadu’n hallt gan y cyhoedd a’r beirniaid fel ei gilydd. Felly, roedd yn rhaid aros am reswm da dros fynd, ac yn wir fe ddaeth, yn sgil y newyddion fod y Cymro Mark Evans, yn camu i esgidiau Richard Fleeshman, er mwyn portreadu’r brif ran.

Yn seiliedig ar y ffilm enwog o’r un enw, mae’r ddrama gerdd yn ceisio efelychu llwyddiant y gwreiddiol, a wnaed mor boblogaidd yn sgil perfformiadau trydanol Demi Moore fel y wraig weddw ifanc sy’n ceisio ymdopi â llofruddiaeth ei gŵr deniadol Patrick Swayze, sy’n methu gorffwys ‘rhwng y ddau fyd’ ac yn ceisio cymorth y gweledydd Whoopi Goldberg, er mwyn cyfathrebu â’i wraig.

Mae’n ddeunydd delicet iawn, yn enwedig i unrhyw un sydd wedi profi colled agos. Mae iaith cydymdeimlo yn un cymhleth iawn, ac weithiau does dim gwerth o gwbl i eiriau, gan fod y presenoldeb yn ddigon. Mae’n faes difyr, ac yn un y treuliais i lawer o amser yn ei archwilio, cyn cipio Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn Islwyn am y ddrama ‘Ai am fod haul yn machlud?’, sy’n delio efo’r un thema.

Er mwyn i’r cyfan lwyddo, mae’n rhaid ichi dderbyn a chredu’r berthynas gariadus danbaid rhwng y ddau brif gymeriad, a dyma ble y disgynnodd y cyfan imi, cyn cychwyn, gyda pherfformiadau cardboard, un dimensiwn y ddau gantor newydd ‘Sam’ (Mark Evans) a ‘Molly’ (Siobhan Dillon). Roedd hi’n amlwg fod y ddau yn caru’u hunain yn fwy na’i gilydd o’r cychwyn cyntaf, ac roedd yr hunan ymwybyddiaeth yn gyfoglyd o amlwg. Mae gan y ddau lais canu digon derbyniol, ond roedd eu hactio (a’r dialog) yn boenus o embaras. Tydi’r gallu i ‘berfformio’ un gân, ddim yn ddigon i gynnal llif stori dwy awr a hanner o ddrama gerdd.

Yn weledol, does dim dwywaith fod y sioe yn hynod o ddramatig a theatrig, diolch i gynllun set Rob Howell a gwaith penigamp y cynllunydd delweddau symudol Jon Driscoll sy’n profi’n adnodd gwerthfawr iawn yn sgil ei lwyddiant ar sioeau tebyg i ‘Enron’ a ‘The Wizzard of Oz’. Oherwydd natur y stori, mae’n rhaid wrth driciau llwyfan slic, ac yn wir fe gafwyd sawl un sy’n eich synnu, a’ch gwefreiddio mewn mannau, er bod y dallu amlwg gan y llifoleuadau cyn bob tric yn medru fod yn boen. Roedd y cyfan mor olau a disglair nes y cwympodd un o fy contact lensus yn sgil cael ei ddallu gan y sgriniau symudol!

Ond, er cystal ydi’r wledd weledol, sydd o bosib yn ein dallu’n fwriadol er mwyn cuddio gwendid amlwg y gerddoriaeth a’r sgript, mae’r hyn sy’n cael ei lwyfannu yn denau iawn, gydag ambell i ddawns gan yr ensemble absennol, er mwyn plethu’r cyfan ynghyd. Roedd y stori a’r dihiryn yn amlwg iawn o’r cychwyn, a’r steil yn amlwg wedi cael y flaenoriaeth dros y sylwedd.

Sharon D Clarke sy’n camu i esgidiau profiadol Whoopi fel y gweledydd ‘ffug’‘Oda Mae Brown’, ac er bod ei pherfformiad comediol yn deffro llymder y llwyfan marw, roedd hi lawer rhy dros ben llestri imi, ac yn tueddu i droi’r themâu delicet yma’n ffars pur. Braf oedd gweld y Gymraes Rebecca Trehearn hefyd yn rhan o’r ensemble.

Bydd ffans y ffilm, ac yn sicr ffans y ddau gantor ifanc yn meddwl bod y cyfan yn wych! Fel y sioe erchyll ‘Dirty Dancing’ flynyddoedd ynghynt, bydd y cynnwys a’r elfen weledol yn ddigon i’w dallu rhag y gwir wendidau. Yn anffodus imi, tydi gwedd drwsiadus yn dda i ddim heb dalent a dyfnder sy’n angenrheidiol er mwyn creu theatr gofiadwy ar ei gorau.

Mae ‘Ghost – The Musical’ i’w weld yn y Picadilly Theatre ar hyn o bryd.