Y Cymro 07/06/13
Ddim dyma’r tro cyntaf imi weld
addasiad llwyfan o unig nofel Harper Lee, ‘To Kill a Mockingbird’. Y tro
diwethaf, roeddwn i mewn un o theatrau moethus Clwyd Theatr Cymru, yn yr
Wyddgrug, yn gynnes a chlyd, ac wedi fy ngwefreiddio gan y stori bwerus hon am
ymgais un dyn gwyn i achub cam llanc croenddu.
Yr wythnos yma, bûm yn ymweld â
theatr awyr agored Regent’s Park, sy’n agor eu tymor yr haf hwn gyda’r clasur
yma, wedi’i addasu ar y gyfer y llwyfan gan Christopher Sergal. Cyfarwyddwr
Artistig y theatr, Timothy Sheader sy’n cyfarwyddo, ac fel ei lwyddiannau
eraill diweddar ‘Crazy for You’, ‘Lord of the Flies’ a ‘Hello, Dolly!’, mae hon
hefyd yn werth ei gweld.
Ar noson (brin) o haf cynnes
cynnar, ymlaciais yng nghwmni blanced gynnes a siocled poeth i ymgolli yn
niffeithwch Alabama yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf. Wrth i gymeriadau’r dref
godi ar eu traed ynghanol y dyrfa, bob un â’i gopi o’r nofel, fe ddaeth y dref
yn fyw o flaen ein llygaid drwy gymorth ambell i brop a llwybrau o luniau sialc.
Swyn y cynhyrchiad yw gallu
trydanol yr actorion ifanc i gadw llif y stori enfawr hon yn syml, a
thrawiadol. Roedd eu hegni, eu brwdfrydedd a’u profiad byw o’r cymeriadau yn
galonogol iawn i ddyfodol y theatr.
Ymunodd yr ensemble cyfan yn llwyddiant y gwaith, a hynny dan arweiniad
seren y gyfres ‘House’, yr actor Robert Sean Leonard, fu’n chwysu’n ddagreuol a
chwbl grediniol, yn siwt y cyfreithiwr ‘Atticus Finch’.
Bydd y tymor yn parhau gydag
addasiadau o nofel Jane Austen ‘Pride and Prejudice’, addasiad i blant o stori
aeafol Shakespeare, ‘The Winter’s Tale’ a chynhyrchiad newydd o’r ddrama gerdd
enwog ‘The Sound of Music’. Os na fuoch
chi yma, yna mae’n werth y daith, petai ond i brofi hud y lleoliad coediog
godidog hwn, ynghanol prysurdeb y ddinas. Dowch â’ch picnic efo chi, a blanced,
ond yn fwy na dim, dowch â’r haul! Mwy o
wybodaeth am y tymor drwy ymweld â www.openairtheatre.com
No comments:
Post a Comment