Total Pageviews

Friday, 28 June 2013

Blodyn





Y Cymro - 28/06/13

Ac o Sir Fôn i Stiniog, ar gyfer noson olaf o gynhyrchiad promenâd y Theatr Genedlaethol sef ‘Blodyn’. Yn seiliedig ar chwedl Blodeuwedd (sef cynhyrchiad ar leoliad nesaf y cwmni yn Nhomen y Mur ger Trawsfynydd), bu’r awdur / gyfarwyddwr Bethan Marlow yn gweithio gyda dwy gymuned yn y Gogledd gan ddefnyddio dim ond dau actor profiadol sef Ceri Elen a Dyfrig Evans.

Er imi fethu â gweld y ddwy noson yn Nhalsarn, ger Penygroes, yng nghynefin Lleu Llaw Gyffes, a’r chwedl wreiddiol, roedd yr hyn a brofais ynghanol gwybed Blaenau Ffestiniog, yn brofiad cynhyrfus iawn. Cyn i’r sioe gychwyn, a minnau yn symud o gaffi i gaffi yn ceisio coffi a wi-fi, roeddwn i’n ymwybodol iawn fod yna gynnwrf theatrig byw a braf yn y Blaenau. Plant a phobol ifanc o bob oed yn sôn am y sioe, ac yn edrych mlaen i gael bod yn rhan ohoni unwaith eto.

Wedi ein gwadd i Aelwyd yr Urdd, cawsom freichled felen neu wyrdd, a’n cynghori i ddilyn un ai ‘Ger’ neu ‘Blodyn’. Wedi Rap o rybudd iechyd a diogelwch  a chytgan o blant lleol, fe’n plymiwyd i ganol y ddrama. Buan iawn y dechreuais glymu’r chwedl wreiddiol a’i gwisg gyfoes. Yn ôl fy lliw, ‘Ger’ (Dyfrig Evans), y Gronw Pebr golygus a ddaeth o’r goedwig, (neu’r carnifal yn yr achos hwn!) oedd yn rhaid imi ei ddilyn, a’i ymddangosiad cyntaf ar ben lori a’i gorn siarad, yn gychwyn cyffroes. Cyd gerdded ag o wedyn, tua’r Ysbyty (sydd wedi’i chau (gwarthus)) wrth iddo sôn am ei fywyd ym Mhen Gwndwn, a chael ein cyflwyno nid yn unig i’r dref, ond i’w chwaer, y ‘jynci’ ‘Elen’ (Caryl).

Roedd y sioe, a’r gynulleidfa, yn symud yn rhwydd a di-drefn gan y myrdd o stiwardiaid, ac yn Neuadd Ysgol y Moelwyn, er gwaetha rhybudd Rhagnell ‘Rhian’ (Carys), fe gusanodd Blodyn (Ceri Elen) a Ger, mewn môr o olau pinc. Wedi brwydr o ddawns rhwng carfan cyn gariad Blodyn ‘Llion’ (Bailey) a Ger, daeth y cyfan i ben, ar gân Gai Toms, yn llawer rhy fuan.

Cynhyrchiad cymunedol arbrofol, sy’n siŵr o fod wedi gadael ei ôl ar y ddwy gymuned, a blas mwy arna innau.

Cofiwch am ddau gynhyrchiad nesa’r cwmni sef ‘Blodeuwedd’ ar leoliad yn Nhomen y Mur, gyda llefydd cyfyngedig iawn, a’u cyd-gynhyrchiad, neu fenthyciad, ‘Rhwydo’ sydd ym Mangor wythnos yma, a Chaerdydd wythnos nesa. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com




No comments: