Saturday, 12 October 2013

Ymateb i ymateb Branwen Cennard...


Yn sgil derbyn e-bost caredig iawn gan Branwen Cennard, dyma fy ymateb i'r cais ‘i gywiro’r camargraffiadau’.

Ymddiheuriadau calonogol yn gyntaf, os bu imi gamddeall trefn pethau. Allwn innau ond ymateb i’r hyn roeddwn yn ei weld mewn print, ac yn cael ei gyflwyno imi dros y ffôn, gan newyddiadurwr o Golwg. Tydwi ddim ond megis dechrau tanysgrifio i Golwg, (ein hunig gofnod celfyddydol wythnosol, ar wahân i’r Cymro) ac felly wedi dysgu’n ngwers, ynglŷn â chywirdeb eu hadroddiadau, sy’n amlwg wedi achosi’r camarwain, yn yr achos yma.

Diolch hefyd am gadarnhau nad yw’r ffilm wedi’i chomisiynu. Gresyn na fyddai Golwg wedi datgan hynny yn glir, yn yr erthygl am y ffilm. Deallais gan Non Tudur, Golygydd y Celfyddydau, ei bod hi wedi gofyn sawl gwaith am gadarnhad o’r comisiwn, ond wedi methu cael ateb. Diolch hefyd am eglurhad manwl o linell amser dy gysylltiad â’r ffilm, ffaith arall sydd ddim yn amlwg o’r ohebiaeth yn Golwg, nag unman arall.


Bechod nad oes gen ti gof o’n sgwrs yn y BAFTA, roedd hi’n sgwrs ddiddorol ar sawl ystyr, a bechod na allwn innau anghofio’r ensyniad anffodus mai ‘casineb’ tuag at Cefin Roberts, oedd wrth wraidd fy nadleuon teg, ynghylch arweinydd teilwng i’n Theatr Genedlaethol. 

Rwy’n gwerthfawrogi dy onestrwydd ynglŷn â dy rôl ar y Bwrdd, ac yn diolch iti am gynnig datgan dy ddiddordeb, ‘a gadael y drafodaeth’ pan, ac os gaiff, y syniad ei drafod. 


Hoffwn innau hefyd iti wybod sut y daeth y camddealltwriaeth i fod. Yn e-bost Alan Llwyd, a’r sôn cyntaf am y ‘ffilm’, dy enw di gafodd ei grybwyll gyntaf, cyn Dyfrig Davies, ac enw Rhys Powys fel cyfarwyddwr – un mi wn sydd wedi cydweithio llawer â thi. Fel yr wyt ti’n nodi, ac fel rwy’n hynod o falch bod S4C wedi awgrymu, doeddwn i ddim yn ymwybodol bod gan Dyfrig unrhyw brofiad ym maes cynhyrchu dramâu, ac yn sgil y sylw wythnosol bron yn Golwg, i ffilmiau sydd YN gysyllteitig â dy enw di – ‘Reit Tu ôl i Ti’ (Medi 12 a Medi 26) efallai y caf faddeuant am gael fy nghamarwain. 

Yn Golwg, rhifyn Medi 19, 2013, o dan y pennawd ‘Ffilm am y Bloomsbury Cymraeg – Kate, Morris a Prosser’, dyma sy’n cael ei ddyfynnu gan Alan Llwyd – “Yr hyn yr oedd S4C yn ei weld oedd y triongl yma – ménage a trois i bob pwrpas” gyda’r erthygl yn ychwanegu ‘…,meddai Alan Llwyd sy’n cyd-weithio ar fraslun o’r sgript gyda’r cynhyrchydd Branwen Cennard i gwmni Tinopolis’. Eto, DIM sôn am Dyfrig,na’r ffaith mai ef a aeth at S4C, ac Alan, gyda’r syniad.  Fel un sy’n gyfarwydd â gwaith Alan ers blynyddoedd, roeddwn i wedi synnu (a bod yn gwbl onest) nad oedd o wedi ystyried sgriptio’r stori ynghynt.



A minnau wedi bod yn gweithio ar y ddrama lwyfan ers 2007, wedi gwario ffortiwn ar gostau ymchwil, blynyddoedd o ddarllen, ac wedi dewis cadw’r ddrama  o lygad y cyhoedd o barch i deulu Prosser Rhys, doedd gen i ddim bwriad yn y byd i sôn am y ddrama, nes bod comisiwn drama lawn, yn bodoli, a gwell syniad am y cynnwys wedi’i gadarnhau a’i drafod gyda’r teulu. Yn y cyd-destun hwn, efallai mai ffôl o beth oedd i Alan grybwyll y ffilm, yng Ngŵyl Golwg eleni, ble y codwyd y stori wreiddiol ar drydar Golwg, Medi 8fed ac wedyn ei odro ymhellach yn y rhifyn dilynol ar y 19eg. Efallai mai teg o beth hefyd, fyddai i Alan, (neu Dylan Iorwerth efallai, oedd hefyd yn gwybod am y ddrama, yn sgil ein sgwrs yn y BBC ym Mangor) fod wedi crybwyll fy nrama innau, yng Ngŵyl Golwg – byddai hynny wedi arbed imi gael fy nghamarwain fod ‘S4C’ yn ceisio cael y blaen, a boddi fy syniad gyda’r holl heip.

Gyda llaw, er mwyn egluro’r sefyllfa yn llawn, mi anfonais sawl neges trydar gyhoeddus, at gyfrif ‘Celf Golwg’, wedi i’r sôn cyntaf, yn datgan bod gen innau ddrama lwyfan ar y gweill gyda’r Theatr Genedlaethol, am Morris a Prosser. Er i’r cyfrif gydnabod hynny yn gyhoeddus, DEWIS PEIDIO sôn am y ddrama lwyfan a wnaethpwyd yn yr erthygl, er imi gael ar ddeall wedi hynny, bod Non Tudur wedi crybwyll y peth wrth Olygydd Golwg, a fynnodd bod y stori yn mynd i’w Wasg, heb sôn amdani, oherwydd, ‘mai dim ond neges trydar oedd wedi bod’, ac nad oedd hynny yn ddigon o dystiolaeth. Bechod na chodwyd y ffôn, neu yrru e-bost, o ran tegwch, a allasai fod wedi osgoi peth o’r camddealltwriaeth yma. 



Yn y cyd-destun uchod, a’r ffaith mod i ers blynyddoedd yn gorfod ail-amddiffyn fy hun hyd syrffed am fy onestrwydd a'r nonsens am 'ddadl bersonol' ac yn sgil yr ail gyd-ddigwyddiad anffodus, y soniais amdani yn y blog, (ac wrth Golwg), ac un na chefais y cwrteisi o eglurhad hyd yma, gobeithio y caf innau faddeuant am geisio gwarchod fy syniad, a cham tragwyddol y llwyfan.

No comments:

Post a Comment