Friday, 11 October 2013

Cyfaill / Te yn y Grug & 'Its a Family Affair'


Y Cymro 11/10/13


Yn Abertridwr y bûm yn trigo dros y penwythnos, er mwyn dal ddwy ddrama yn Sherman Cymru. Theatr Bara Caws i gychwyn, ar ddiwedd eu taith hir gyda’r ddwy ddrama fer, ‘Cyfaill’ gan Francesca Rhydderch ac addasiad Manon Wyn Williams, o nofel Kate Roberts, ‘Te yn y Grug’.

Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni, ac oherwydd cyswllt Kate Roberts a’i gŵr Morris T Williams â’r dref honno (ac yn wir â’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal), dewisodd Betsan Llwyd, arweinydd artistig Bara Caws, gomisiynu’r ddwy ddrama newydd. 


Er mai ‘Cyfaill’ oedd y gyntaf i’w llwyfannu, mi ddewisai sôn am anturiaeth ‘Begw’ (Fflur Medi Owen) a ‘Mair’ (Carys Gwilym) wrth flasu ‘Te yn y Grug’ yng nghwmni un o gewri llenyddol Cymraeg, ‘Winni Ffini Hadog’ (Manon Wilkinson). Llifodd, ac yn wir fe ddawnsiodd addasiad penigamp Manon Wyn Williams, o Sir Fôn, oddi ar y dudalen a’r llwyfan, mor swynol a blasus a’r jeli coch a’r crempogau, ym mhecyn bwyd y genod ifanc ar y Mynydd Grug. Rwy’n falch iawn o lwyddiant Manon, fel cyn-enillydd Medal Ddrama’r Urdd, ac aelod hynod o weithgar o Theatr Fach Llangefni ac Ieuenctid Môn, ac yn dysteb sicr i ddawn hen ‘wlad y medra’!


Man gwan y cynhyrchiad, ac i raddau helaeth y ddrama gyntaf sef ‘Cyfaill’ am gyfeillgarwch Kate Roberts (Morfydd Hughes) a’r Iddewes ‘Lilla Wagner’ (Carys Gwilym) a’i merch ‘Daisy’ (Manon Wilkinson) oedd hualau’r set o waith Emyr Morris Jones, oedd yn debycach i hen ddresel wen Gymreig, na set theatr. Fel gyda’r cynhyrchiad olaf a welais o waith y cwmni, sef ‘Un Nos Ola Leuad’, roedd hualau’r muriau a’r lefelau pren yn caethiwo’r actorion ar sawl lefel, ac yn rhoi naws hen ffasiwn iawn i’r ddau gynhyrchiad.

Yn sgil y rhyddid creadigol di-furiau’r theatr bresennol yng Nghymru, a thu hwnt, dwi am ofyn yn garedig iawn i’r cwmni, y bu genni gymaint o barch tuag atynt ers y cychwyn, i blis ail-ystyried y fformat stêl, di-liw a chaeth yma, a mentro i lwyfannu sioe heb set, dim ond creadigrwydd technegol a chorfforol. Difyr oedd sylwi bod cydnabyddiaeth wedi’i roi i’r coreograffydd Sarah Mumford – ac er pob tegwch iddi hi, doedd yna fawr o le ar y set i greu unrhyw symudiad o bwys!

Caeth hefyd ,ac anffodus, oedd yr adrodd / dyfynnu o lythyr i lythyr neu o adroddiad papur newydd i deyrnged, (wedi’i selio bron yn gyfangwbl ar gofiant Kate gan Alan Llwyd) heb ystwytho’r llenyddiaeth a’i droi yn farddoniaeth dialog. Byddai hyn wedi hwyluso’r cyfan i lifo’n haws wrth i Kate ddod i delerau gyda marwolaeth Morris, a cheisio canfod nerth i symud ymlaen.


Yn ôl i’r Sherman y teithiais ar y Nos Sadwrn, ar ddau berwyl y tro hwn. Y cyntaf, i brofi system drafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd a’r cyffiniau, ac i  weld, petawn i – sy’n ddi-gar, yn byw bob dydd yn Abertridwr, ger Caerffili, yn gallu gweld drama lawn liw nos, ac yna teithio adref cyn i’r bws olaf adael. Rhywbeth mae trigolion Llundain yn cymryd yn ganiataol, ond elfen holl bwysig – yn fy marn i, wrth geisio denu cynulleidfa a chefnogaeth, i theatrau Cymru.

Addasiad Simon Crowther o ddrama Alexander Ostrovsky o Rwsia, yw ‘It’s a Family Affair - we’ll settle it ourseleves’ am ymdrech tad y teulu, a’r gŵr tybiedig cefnog ‘Bolshov’ (William Thomas) wrth geisio delio gyda’i ddyledion, ac yn ystyried mynd yn fethdalwr, fel gweddill o fonedd ei wlad.  Drama addas o ran naws cyfnod o gyfyngder ariannol yr ydym yn cwffio drwyddi ar y funud, ond yn anffodus – oherwydd dryswch cyfarwyddo diog Róisín McBrinn a chynllun set, gwisgoedd a cholur bantomeimllyd Alyson Cummins, ynghyd â diffyg cynllun goleuo elfennol Andy Purves – (o ba ffenest y daeth golau’r dydd?!) – llanast dros ben llestri, yn ymylu ar fod yn amaturaidd, a gafwyd ar y llwyfan.


Diolch am ddawn actio William Thomas, Siân Reeves a’r newydd-ddyfodiad Gareth Tempest, (cofiwch ei enw) a roddodd ryw fath o safon i’r cynhyrchiad siomedig hwn.  Mae’r bai yn aros ar y dewis, y dillad a’r diffyg gweledigaeth o fedru trosi drama o Rwsia’r 1840au i Gymru gyfoes Caerdydd 2013.  Does ryfedd fod angen cyfarwyddwr artistig newydd ar Sherman Cymru!


Do, fe gyrhaeddais adref (yn gynt na’r disgwyl!) ond yn ddigalon iawn, eto.

No comments:

Post a Comment