Friday, 18 October 2013

Ateb yr Athro Anwen / The Ritual Slaughter of Gorge Mastromas / Scenes from a Marriage


Y Cymro – 18/10/13

Fu hi ddim yn wythnos hawdd, a dweud y lleiaf. Wythnos o amddiffyn fy safbwynt a fy syniadau. Wythnos o ymweld â theatrau o Lundain i Gaerdydd i Gaerfaddon. O Ddulyn yr wythdegau i’r Alban yn yr ail-ganrif ar ddeg.

Ond mi gychwynnai yn Aberystwyth, wrth ddesg yr ‘Athro’ Anwen Jones PhD, MPhil, BA, TAR, FHEA yn ôl gwefan Prifysgol Aberystwyth, sy’n cyflogi’r ‘awdurdod’ yma, ar hanes y ddrama yng Nghymru. Wrth bori ar y Wê yr wythnos hon, fe ganfyddais epistol diweddara’r athro yn y ‘North American Journal of Welsh Studies, vol. 8 (2013)’, o dan y teitl aruchel ‘THE DYNAMICS OF DEVOLUTION: AN ENQUIRY INTO THEROLE AND SIGNIFICANCE OF WALES’S POST-DEVOLUTION NATIONAL THEATRES’. 

Wrth drafod gwaddol cynnar y Theatr Genedlaethol, dyma oedd gan y doethur i’w ddweud am fy nghyfraniad i ar dudalennau’r Cymro : ‘Whilst Paul Griffiths’ routine flagellation of any Theatr Genedlaethol Cymru productions in the pages of Y Cymro, during this period, deserves to be taken with a pinch of salt, the collective criticism of directors and theatre academics, such as Ian Rowlands, Dafydd Llewelyn and Roger Owen are more difficult to dismiss.’

‘Rhydd i bawb ei farn’, oedd cysur doeth un o’m cyfeillion ffyddlonaf, ac mae hynny’n ddigon gwir, ond yr hyn sy’n drist ydi mai barn y doethuriaid megis yr athronyddol Anwen, sy’n cyrraedd y llyfrau hanes. Er imi anfon e-bost ati, yn gofyn am eglurhad, neu gyfiawnhad, pam nad oedd fy ‘fflangellu rheolaidd’ , (neu’n hytrach fy marn onest), gystal â damcaniaethau ‘athronwyr’ a ‘chyfarwyddwyr’ y theatr, mae’n amlwg ei bod hi’n llawer rhy brysur yn pori drwy lyfrau ym Mae Ceredigion, i ateb fy nghais.  Falle nad oes gennyf lyfrgell o lythrennau i’w arddel ar ôl fy enw, (ar wahân i fy BA, fel hithau!) ond mi fentrai fy mod yn treulio lawer mwy o amser yn y Theatr, na’n ‘doethinebu’ o flaen dosbarth o fyfyrwyr!.  Y llwyfan yw’n lle i, nid mewn llyfrgell!

Hoffwn hefyd roi gwybod, ar gofnod hanesyddol, nad ‘fflangellu’n rheolaidd’ oedd, ac yw fy mwriad, ond ceisio addysgu ac egluro pam na ddylem fodloni ar theatr daeog ‘neith-hi’r-tro’ yng Nghymru; pam na ddylem gael ein dallu gan ddiffyg dawn y sawl sy’n cael ei benodi, ond sefyll yn gadarn, ben ben â’r gorau’r drwy’r wlad (ac nid dim ond Aberystwyth!).

Bu ceryddu pellach ym mloneg fy mlog (fy nghofnod digidol, ar y Wê, o feddyliau a barn bersonol). Ceryddu y bu’r cylchgrawn Golwg yn ofalus iawn i’w osgoi, mewn cyfweliad diweddar, ond ceryddu y bu’n RHAID imi rannu â’r byd, oherwydd annhegwch y sefyllfa, ac i amddiffyn ysgrifenwyr llai cegog na fi! Ai ddim i ail-adrodd fy nghwyn eto fyth, nac i enwi’r rhai sydd wedi fy siomi, ond carwn ddiolch yn gyhoeddus am yr un ymateb gonest a gefais, sydd ynddo’i hun wedi adfer fy ffydd, a fy mharch, tuag ati. Trafodaeth agored a diduedd yw’r cyfan rwy’n ei geisio, ac onestrwydd yn hytrach na thriciau dan din, cudd.


A Fait Accompli Prifysgol a Phontio Bangor sydd wedi corddi eraill, yn ogystal â mi fy hunan, a’u penderfyniad i anwybyddu llais caredigion y theatr, sef y gynulleidfa y mae hi yno i’w chynrychioli, a bwrw mlaen i gadarnhau eu trafodaethau efo Bryn Terfel i enwi’r THEATR newydd ar ei ôl, yn hytrach na’r pensaer creadigol Wilbert Lloyd Roberts. Galw ar i’r gynulleidfa anwybyddu’r ganolfan newydd, oedd cri un cefnogwr, ond fy nghynnig i ydi i barhau i alw’r theatr yn THEATR WILBERT, ar lafar ac ar brint. Yfflon o ots be ydi’r enw swyddogol, llais y bobol sy’n cyfrif, a siawns bod egwyddor a pharch yn llawer mwy disglair nag unrhyw seren ryngwladol?!



A rŵan, at y dramâu, sef pennaf ddiben y traethu theatrig.  I’r Royal Court yr es Nos Lun, i ddal y cynhyrchiad cyntaf  i Vicky Featherston, cyn arweinydd artistig Theatr Genedlaethol yr Alban, gyfarwyddo yno, yn ei swydd newydd fel arweinydd artistig y cwmni. Drama mor dywyll felys â’r triog gorau posib yw The Ritual Slaughter of Gorge Mastromas sy’n llawn gwirioneddau mawr am y dirgel frawdoliaeth ffyddlon, sy’n rheoli’r byd sydd ohoni. ‘Cân di gân fach fwyn i’th nain’, ac fe ganith dy nain, a’th ‘frawd’ a’th ‘fodryb’ ddeuawd, neu driawd gwarchodol i’th gynnal.

Tad maeth y sioe boblogaidd ‘Matilda’ – Dennis Kelly, yw awdur y gwaith, a’r un sy’n gyfrifol am greu’r drychiolaeth dichellgar, ‘Damian-llyd’ y prif gymeriad ‘Gorg’ (Tom Brooke).  Fel gyda chynyrchiadau Featherston o waith un o fy arwyr theatrig, Anthony Neilson, mae yma eto dorri tir newydd (anghysurus ac anghywir) yn ôl rhai, sef cyfyngu’r actorion i res o gadeiriau caled am bron i hanner awr, wrth draethu ôl stori hanfodol, y prif gymeriad. Methiant i lawr, mwynhad pur imi.



Methiant poenus o amlwg, a sioc o siom ydi cynhyrchiad diweddara’r dewin drama Trevor Nunn, fu’n gyfrifol yn ei dro am rai o gynhyrchiad enwocaf y West End, fel Les Miserables a Cats. Addasiad o ffilm Ingmar Burgman yw ‘Scenes from a Marriage’, ac fel awgryma’r teitl, cyfres o olygfeydd byr, blêr, ffilmig a gafwyd, am fethiant priodas Johan (Mark Bazeley) a Marianne (Olivia Williams).

O flerwch tawelu’r gerddoriaeth ar fenthyg, undonog ar ddiwedd pob golygfa, i’r symud celfi cyson yn y duwch, fe welais lawer mwy o lyfnder a dawn ddramatig ar lwyfannau gwyliau dramâu cefn gwlad Cymru, nag y medrwn ei stumogi yn rhan gyntaf y cynhyrchiad yma yn Theatr St James, Victoria.

Gewch chi ragor o hanes gweddill fy wythnos, yr wythnos nesaf. Rhydd hynny gyfle ichi bwrcasu môr o halen, a chyfle i minnau ymlacio, wedi wythnos anheg, ac emosiynol tu hwnt. 

No comments:

Post a Comment