Friday, 26 November 2010
'Passion'
Y Cymro – 26/11/10
Rhyw gyfnod o ddal i fyny fu hi’n ddiweddar, wrth i lu o sioeau newydd gyrraedd y West End, yn sgil cau rhai o’r ffefrynnau poblogaidd. Wedi mynd mae ‘Sister Act’, ‘Avenue Q’ a ‘Sweet Charity’ ac ‘Oliver’ a ‘Flashdance’ wrthi’n hel eu pac, i ymadael yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Y Donmar oedd yn fy nennu'r wythnos hon, a cheisio achub ar y cyfle i weld y sioe ‘Passion’ cyn iddi hefyd gau'r wythnos nesa ‘ma. Yn gwmni imi unwaith eto roedd yr annwyl Bethan Gwanas, sy’n ymweld â Llundain bob rhyw chwe mis, ac sydd wrth ei bodd yn cadw cwmni imi mewn rhyw sioe neu’i gilydd. A bod yn onest efo chi, roedd gen i fwy o ofn y tro hwn, gan mi wn ei bod hi’n casáu dramâu cerdd! Fuo na ddim angan llawer o berswadio, gan mai drama gerdd o eiddo’r athrylith Sondheim ydi ‘Passion’ sy’n gyfuniad perffaith o serch ac angerdd, wedi’i blethu o fewn y stori drasig a thwymgalon.
‘Giorgio’ (David Thaxton), milwr golygus sy’n lletya yn Milan ym 1863, yw canolbwynt y stori, sydd ar fin cael ei yrru i’r diffaethwch i wasanaethu, ac felly’n gorfod ffarwelio gyda’i gariad nwydus a phrydferth ‘Clara’ (Scarlett Strallen). O’r eiliadau cyntaf, mae’n amlwg fod y serch rhwng y ddau yn eirias o angerddol, wrth iddyn nhw fynegu’i chwantau’n gerddorol, wrth gofleidio ar y gwely sengl.
Wedi cyrraedd y Gwersyll, ac ynghanol brafado brawdgarol y gatrawd, ‘Clara’ yw’r unig beth sydd ar feddwl ‘Giorgio’, a’r angerdd yn parhau drwy gyfres o lythyrau tanbaid rhwng y ddau. Ynghanol y gwledda, fe glywir gruddfan a sgrechiadau ‘Fosca’ (Elena Roger) sef cyfnither y Cadbennaeth ‘Colonel Ricci’ (David Birrell). Wedi derbyn eglurhad am gystudd a gwendid gwaeledd ‘Fosca’, mae ‘Giorgio’ yn rhoi benthyg rhai o’i lyfrau iddi, a dyma sy’n esgor ar y ‘berthynas’ ffrwydrol rhwng y ddau. Yn anffodus i ‘Fosca’, tydi hi ddim yn meddu prydferthwch ‘Clara’, ac felly mae ceisio cipio calon ‘Giorgio’ yn dipyn o gamp. Ond, mae ‘Fosca’n’ benderfynol o lwyddo, a thrwy gyfres o ymdrechion tanbaid a chreulon, er gwaethaf ei gwendid, erbyn y diwedd y stori, mae hi’n llwyddo. Ond mae’r cyfan yn rhy hwyr. Pan lwydda’r gwir gariad i drechu’r holl angerdd a’r serch, mae angau yn ennill y dydd, ac fe derfyna’r ddrama mewn tristwch gorfoleddus, wrth i ‘Fosca’ fynd i’w hangau yn hapus, er gwaetha holl drybeini ei bywyd llwm byr.
Heb os nag oni bai, seren y cynhyrchiad oedd Elena Roger, a welais yn ‘Evita’ flynyddoedd yn ôl, ond a fethais ei gweld fel ‘Piaf’ eto yn y Donmar yn ddiweddar. Anhygoel ydi’r unig air allai yngan, o’i phresenoldeb i’w llais clir fel cloch, fe lwyddodd rywsut i droi ei chorff eiddil a’i hwyneb prydferth yn un talp o dristwch dwfn, dichellgar ac eto’n dwymgalon. Hi, heb os, oedd yn ennyn ein cydymdeimlad, a’r awydd iddi lwyddo i ddwyn calon ‘Giorgio’ yn gyrru’r ddrama yn ei blaen.
Ychwanegwch at hynny gyfoeth cerddorol Sondheim, cynllunio cywrain Christopher Oram, a greodd y cyfnod i’r dim, cyfarwyddo medrus Jamie Lloyd, goleuo gofalus hyd y manylyn olaf Neil Austin, ac agosatrwydd moethus y Donmar, ac mae’r canlyniad yn llwyddiant ysgubol. Braf eto oedd gweld y Cymry’n rhan o’r clod gyda Nerys Richards a’i soddgrwth yn rhan o’r gerddorfa a’r actor ifanc Iwan Lewis fel ‘Private Augenti’. Roedd dagrau Gwanas yn dweud y cyfan!
Bydd ‘Passion’ yn y Donmar yn dod i ben ar y 27ain o Dachwedd.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment