Friday, 12 November 2010
'Over Gardens Out'
Y Cymro 12/11/10
Y cyntaf o’r cewri theatr imi gwrdd â nhw yma yn Llundain, oedd y bonheddwr annwyl Peter Gill o Gaerdydd. Yn ddramodydd a chyfarwyddwr o bwys, sydd bellach yn byw yn Hammersmith, Peter oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Riverside Studios yn Hammersmith yn ogystal â bod yn rhan o’r tîm llwyddiannus oedd yng ngofal Stiwdio’r Theatr Genedlaethol.
Mae’r rhestr helaeth o’i ddramâu yn wybyddus i lawer, a chynyrchiadau diweddar o’i waith yn cynnwys ‘Small Change’ yn y Donmar ac ‘Another Door Closed’ yn Theatr Frenhinol, Caerfaddon. Falle bod y teitlau ‘Certain Young Men’ neu ‘Cardiff East’ hefyd yn canu cloch, neu ‘The York Realist’ a welais yn y Royal Court, flynyddoedd yn ôl.
Fel teyrnged o ddiolch iddo, penderfynodd Adam Spreadury-Maher, Ben Cooper a chwmni Good Night Out lwyfannu dwy o’i ddramâu cyntaf sef ‘The Sleepers Den’ ac ‘Over Gardens Out’ yn y Riverside Studios rhwng diwedd mis Medi a dechrau Tachwedd eleni. Yn anffodus, methais â gweld y ddrama gyntaf, ond bues yn hynod o ffodus i ddal yr ail.
Mae ‘Over Gardens Out’ wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn mis Awst 1968 ac yn dilyn hanes dau fachgen yn eu harddegau; y llanc eiddil, benywaidd ‘Dennis’ (Meilir Rhys Williams) sy’n byw efo’i fam (Kirsten Clark) a’i dad (Dan Starkey) a’r rebel, brwnt, gor-rywiol ‘Jeffry’ (Calum Calaghan) sy’n lletya gyda ‘Mrs B’ (Laura Hilliard) a’i theulu sy’n byw drws nesa. Fel awgryma teitl y ddrama, dros y wal yn yr ardd gefn y cychwyn holl anturiaethau’r ddau lanc, ac mae’r ddrama yn astudiaeth o ddeffroad rhywiol y ddau; y chwarae, yr herian, yr angerdd, yr ofn, y mentro, y methu a’r difaru.
Mewn cyfnod lle nad oedd bod yn hoyw yn dderbyniol, ac yn sicr ddim yn bwnc i’w drafod ar lwyfan y Royal Court (ble gwelwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Nhachwedd 1969) mae ymdriniaeth Gill o’r testun a’r trywydd yn sensitif a gofalus. Awgrymu’n unig sydd yma, yn enwedig deurywioldeb diddorol ‘Jeffry’ sydd un munud yn smwddio dillad babi ei letywraig a brolio wrth ‘Dennis’ ei fod yn talu am ei le ‘drwy ddulliau corfforol!’, ac yna ei ysfa rywiol, gorfforol, dreisgar tuag at y llanc ifanc yn yr awyr agored.
Un o themâu cyson Gill ydi perthynas y mab a’i fam, a dyma egin perffaith y trywydd twymgalon hwn. Cafwyd sawl golygfa gynnes wrth i ‘Dennis’ ofalu am ei fam yn ei gwaeledd, drwy frwsio ei gwallt ac ail-ddeffro’r angerdd a’r awydd i ddawnsio yn eu bywyd llwm beunyddiol. Cafwyd cofnod cynnes o’r cyfnod, cyn i ddyddiau’r teledu a’r Rhyngrwyd rwygo ‘r galon deuluaidd.
Braf oedd clywed acenion Cymraeg yn mwytho dialog cyhyrog Gill, a’r Cymro Meilir Rhys Williams yn gneud ei ‘début’ ar lwyfannau Llundain fel y mab ‘Dennis’. Roedd rhan helaeth o’r ddrama yn ddibynnol arno ef, i gario’r stori, ac i gadw’r cyfan i lifo o olygfa i olygfa. Llwyddodd yn eithriadol o dda, a bod yn deg, felly hefyd Calum Calaghan fel ei gydymaith.
Syml, ac eto’n effeithiol oedd set Annemarie Woods, a greodd y lolfa tŷ teras drwy gyfuno nifer o silffoedd di-gefn yn llawn o drugareddau’r cyfnod ar bob llaw. Y bwrdd bwyd oedd y canolbwynt, gyda’r actorion yn cuddio tu cefn i’r silffoedd, ac yn ymateb i’r digwydd yn ôl y galw.
Mae dylanwad yr ‘angry young men’ hefyd i’w glywed yma, wrth i’r ddau lanc ifanc boeri eu hatgasedd tuag at bob pwnc posib, gan gynnwys eu teuluoedd. Er gwaetha’r cryfderau, roedd yn rhaid imi anwybyddu’r gwendidau, a chofio mai hon oedd yr ail ddrama i Gill ei gyfansoddi, a’i fod, heb os, wedi perffeithio a miniogi’i grefft erbyn y gwaith hwyrach.
Yn anffodus, mae’r tymor yn Hammersmith wedi dod i ben erbyn hyn.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment