Friday, 30 January 2009
'A Midsummer Night's Dream'
Y Cymro – 30/01/09
Parhau i ddadlau gyda Chwmni Cameron Mackintosh wnes i gydol yr wythnos ynghylch y sioe ‘Oliver’. Falle ichi gofio fi’n sôn yr wythnos diwethaf am ymateb negyddol y cwmni drwy wrthod gwahoddiad i’r ‘Cymro’ adolygu’r sioe ar noson y Wasg. Dal i sôn am ‘brinder’ y tocynnau mae llefarydd ar ran y cwmni, ond mae’n haws genna i gredu mai dewis i anwybyddu’r Cymry wnaeth y cwmni y tro hwn, a rhoi blaenoriaeth i bapurau lleiafrifol Llundain a thu hwnt. Dim ond i ninnau’r Cymry gofio hynny pan fydd ‘gwên fêl yn gofyn fôt’ ar raglenni tebyg yn y dyfodol!
Felly, wrth droi cefn ar Theatr y Drury Lane unwaith eto'r wythnos hon, neidio’n nwydus i ganol y cariadon yn Theatr y Novello ar gyfer cynhyrchiad yr RSC o ‘A Midsummer Night’s Dream’ gan William Shakespeare. Fel sy’n siŵr o ddigwydd, (wrth i rywun fynd yn hŷn!) mae’r tebygolrwydd o weld yr un ddrama dro ar ôl tro, yn dod yn fwy amlwg. Cofio gwta flwyddyn yn ôl, mynd i weld cynhyrchiad noddedig y Cyngor Prydeinig o’r ddrama hon, a gafodd ei chynhyrchu yn yr India, a’i pherfformio yn y Roundhouse yn Llundain. Y tro hwn, cyfle cwmni preswyl yr RSC i ddod â gwedd newydd ar yr hen stori garu yn y goedwig hudolus, drwy weledigaeth Gregory Doran.
Yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru (drwy gyfrwng y Gymraeg yn sicr) mae’n amlwg iawn mai gweledigaeth y cyfarwyddwr sy’n dod gynta’. Mae hynny’n amlwg iawn yn y cynhyrchiad yma, fel y digwyddodd gyda ‘Hamlet’ yn gynharach yn y flwyddyn. Gwedd gyfoes a gafwyd unwaith eto, a hynny drwy gynllun set a gwisgoedd Francis O’Connor a goleuo gwych Tim Mitchell.
Mae’n amlwg hefyd fod y cwmni wedi treulio oriau yn astudio’r ddeialog air wrth air, wrth i bob diferyn o gomedi gael ei wasgu o bob ystum, saib ac awgrym.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy a chynnil gan y ddau gwpwl o gariadon ifanc a chymysg – ‘Demetrius’ (Edward Bennett) a ‘Hermia’ (Kathryn Drysdale) a ‘Lysander’ (Tom Davey) a ‘Helena’ (Natalie Walter). Felly hefyd gyda’r ‘cwmni drama’ sy’n dod i ddiddanu’r gwesteion yn y briodas gyfun ar ddiwedd y ddrama. Pwy all wadu bod cyfle euraidd i unrhyw actor sy’n cael ei ddewis i bortreadu’r ‘Bottom’ gomic neu’r ‘Puck’ ffwndrus, a gadawodd perfformiad Joe Dixon a’i acen Birmighamaidd a’r Mark Hadfield blewog, argraff ddofn ar y gynulleidfa ddethol.
Unig wendid y cynhyrchiad yn fy marn i, ac o bosib y ddrama yn hynny o beth, yw’r hyd. Mae tair awr, yn ogystal ag egwyl o 20 munud yn gofyn tipyn o amynedd, yn enwedig o eistedd ar gadair dra anghyfforddus, wrth geisio rhannu’r baich o un foch i’r llall! I mi, mae’r ddrama yn gorffen yn daclus wrth i’r cariadon ddadebru o’r hud twyllodrus sydd wedi drysu ei gweledigaeth yn y goedwig, ac wrth i gariad drechu’r dydd. Mae’r olygfa sy’n dilyn, o weld y cwmni drama yn diddanu’r gwesteion yn ymestyn y ddrama yn ormodol yn fy marn i, ac yn sicr felly yn y cynhyrchiad yma ohoni.
Serch hynny, roedd gwylio adlewyrchiad y bylbiau golau amrywiol a ddisgynnodd blith draphlith o do’r theatr yn erbyn y llen o ddrychau ar y llwyfan yn hudolus. Golygfeydd fydd eto’n aros gyda mi, a gwirionedd Shakespeare am fywyd yn atseinio yn fy nghlustiau.
Anghofiwch hunllef ‘Oliver’! Ewch am freuddwyd i’r Novello!
Mwy o fanylion ar www.rsc.org.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment