Friday, 6 February 2009
'Spring Awakening'
Y Cymro – 6/02/09
Mae’n fraint bod yn feirniad weithia! Yn enwedig felly pan fo’r ddau brif actor yn Gymry, a’u perfformiadau yn gaboledig tu hwnt.
Dwi’n dod yn fwy ymwybodol o fis i fis bod unrhyw fath o ddrama ddadleuol neu ddylanwadol, yn sicr o ennyn diddordeb. Heb oes, mae enw drama ‘ddadleuol’ yr Almaenwr Frank Wedekind sef ‘Spring Awakening’ yn dra hysbys, a hynny am ei ymdriniaeth onest, swrth a chynnil o ddeffroad rhywiol ymysg yr ifanc. Pa ryfedd felly fod y deunydd llenyddol wedi ysgogi'r Americanwyr Steven Sater, Duncan Sheick a Michael Mayer i droi’r cyfan yn ddrama gerdd roc cyfoes.
Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Lyric yn Hammersmith, David Farr - ‘nid drama gerdd draddodiadol mo hon’. Does 'na ddim enwau mawr yma, dim setiau chwaethus na llwyfannau troi trwsiadus. Tydi’r stori ddim yn gyfarwydd nac ychwaith yn seiliedig ar ganeuon pop llwyddiannus. Ac ar ben y cyfan, mae’r actorion yn canu pob cân efo meicroffon, sydd un ai’n amlwg ar y set, neu’n cael ei dynnu o’u siaced ar y pryd.
Felly, beth sy’n gyfrifol am yrru iâs oer i lawr fy nghefn, ac i annog hyd yn oed beirniaid mwyaf craff Llundain i roi pum seren i’r sioe?
Gyda balchder o’r mwyaf, mae’n braf gweld mai portreadau cynnil a hynod o gofiadwy'r ddau Gymro - Aneurin Barnard fel y llanc ifanc, hyderus, ‘Melchior’ a’i gydymaith nerfus, unig, a phoenus ‘Moritz’ - Iwan Rheon, sy’n bennaf gyfrifol am y clod. Portreadu dau o’r chwe llanc ifanc sy’n mynychu’r ysgol lem Almaenig dan arolygaeth yr athrawon cas (Richard Cordery) a (Sian Thomas). Wrth i’r llanciau ifanc aeddfedu, tyfu hefyd wna’r ysfa i ddarganfod mwy am yr ysfa rywiol, ac mae’r ‘Melchior’ hyderus yn fwy na pharod i nodi’r cyfan (ynghyd â’r lluniau!) mewn traethawd ar gyfer y ‘Moritz’ chwilfrydig.
Ond, mae’r un chwilfrydedd ymysg y genod hefyd, a buan iawn mae ysfa ‘Wendla’ (Charlotte Wakefield) yn mynd i’r eitha’, a dyma un o’r golygfeydd ‘dadleuol’ y sonnir amdani wrth i ‘Melchior’ a ‘Wendla’ ildio i’w chwantau rhywiol cyn yr egwyl!
Nid yr elfen rywiol yw’r unig beth dadleuol am y sioe - mae yma hunan leddfu, hunan laddiad, camdriniaeth, erthylu a deffroad gwrywgydiol - y cyfan gyda llaw, o fewn cyd-destun cerddorol cwbl briodol, cynnil a chofiadwy tu hwnt.
Allwn i’n llai na synnu at berfformiad sensitif ac eto’n gryf, Aneurin Barnad, a’i lais swynol yn enwedig yn y mannau trist, yn wefreiddiol. Felly hefyd gydag Iwan Rheon, a’i lygaid dyfriog a’i wallt gwallgo' yn hawlio sylw a chydymdeimlad pob aelod o’r gynulleidfa ddethol.
Llithrodd y stori o olygfa i olygfa mor llyfn a lliwgar, wrth i oleuo meistrolgar Kevin Adams liwio pob ystum, teimlad a symudiad ar y llwyfan moel. Felly hefyd gyda choreograffi gwreiddiol Bill T Jones, sy’n gofyn am gryn symud mewn rhai mannau, ac eto'r symudiadau lleiaf posib mewn mannau eraill. Y cyfan yn erbyn mur o friciau coch, yn gyforiog o luniau, lampau a chasgliad o’r pethau rhyfedda yn set syml Christine Jones.
I ddilynwyr sioeau tebyg i ‘High School Musical’, ‘Rent’ neu ‘Hair’ - bydd hon yn sicr o apelio. I’r rhai sy’n fwy ceidwadol eu naws, mentrwch a mwynhewch. I’r Cymry, heidiwch gyda balchder, petai ond i ddeffro’ch gweledigaeth y gwanwyn hwn!
Mwy am y sioe drwy ymweld â www.springawakening.co.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment