Friday, 23 January 2009
Siom 'Oliver' a mwynhad 'Carousel'
Y Cymro – 23/01/09
Roeddwn i wedi gobeithio medru adolygu’r sioe ddiweddara i agor yma yn y West End yr wythnos diwethaf, sef ‘Oliver’. Yn enwedig felly, oherwydd y cysylltiad Cymraeg gyda Gwion Jones ymysg y tri gafodd ei ddewis i bortreadu’r prif gymeriad, a llwyddiant Tara Bethan wrth ymgiprys am y rhan ‘Nancy’ yn y gyfres deledu yn gynharach eleni.
Wedi cysylltu fisoedd yn ôl gyda Chwmni Cameron Macintosh, ynghyd â’u cwmni marchnata, cefais siom fawr o dderbyn neges yn ôl i’r perwyl - oherwydd y nifer llai o docynnau i’r Wasg ar gyfer y cynhyrchiad, doedd y cwmni ddim yn meddwl bod ‘Y Cymro’ sef Papur Cenedlaethol y Cymry yn teilyngu cyfran ohonynt! Sarhad pur, sydd wedi suro fy ngwerthfawrogiad o’r cwmni a’u hagwedd.
Er imi gysylltu gyda’r cwmni i ofyn am eglurhad, death dim i’r fei hyd yma. Wedi darllen adolygiadau o’r sioe ym mhapurau (llai) Llundain, mae’n amlwg fod yna ganmoliaeth, er nad Gwion fu ar y llwyfan ar noson y Wasg. I’r rhai sy’n bwriadu ceisio gweld Gwion, byddwch yn ofalus wrth archebu, oherwydd mae’n debyg nad yw’r cwmni’n gallu cadarnhau pa nosweithiau y bydd Gwion yn portreadu ‘Oliver’ tan ychydig ddyddiau ynghynt. Mae’r ffaith hefyd fod y sioe wedi gwerthu miloedd o docynnau ymlaen llaw, yn awgrymu nad yw Cameron Macintosh a’i filoedd yn malio'r un botwm corn am farn y beirniaid, heb sôn am y Cymry! Mwy am hyn, os daw ymateb dros yr wythnosau nesaf.
Wedi’r siom yn Drury Lane, dawnsiais i lawr y Strand, gan ymuno â’r ‘Carousel’ yn Theatr y Savoy gyda’r soprano swynol Leslie Garrett.
Dyma gynhyrchiad newydd o glasur Rodgers a Hammerstein sy’n seiliedig, gyda llaw, ar ddrama o’r enw ‘Liliom’ gan Ferenc Molnár. Mae’n stori hudolus am ferch o’r enw ‘Julie Jordan’ (Alexandra Silber) sy’n cael ei hudo gan un o ddynion y ffair, y ‘Billy Bigelow’ golygus (Jeremiah James). Mae’r ddau yn cefnu ar eu teuluoedd a’u cyfeillion, ac yn ffoi i wneud fel y mynnont â’u bywydau. Ond, buan iawn mae’r miri’n marw, a bryntni ‘Billy’ yn suro perthynas y ddau. Ond er gwaetha’r trais, mae gwir gariad ‘Julie’ tuag ato, yn aros tan y diwedd trasig.
Heb os, mae ‘Carousel’ yn aros fel un o glasuron Oes Aur y ddrama gerdd, ac yn dilyn llwyddiant ‘Oklahoma!’ ym 1945. Er bod y cynhyrchiad yma’n plethu defnydd hynod o gelfydd o daflunio lluniau animeiddiedig ar y setiau trawiadol, mae’r sioe ei hun yn teimlo’n hen-ffasiwn ac araf o fewn ei wisg gyfoes. Mae’n teimlo fel gwylio ffilm o’r stori, gan fod y stori mor araf, a phob ystum, teimlad neu awgrym yn cael ei bwysleisio drwy gân ac yna drwy ddawns. Wedi cyrraedd yr egwyl, allwn i’m peidio trafod prinder y ‘stori’ oedd wedi’i gyflwyno yn yr awr a hanner blaenorol.
Glynu cân wrth gân wnes i gydol y sioe, drwy erfyn am alaw adnabyddus. Pan ddaeth yr alawon hynny, fel ‘If I loved You’, ‘June Is Burstin’ Out All Over’ a’r anfarwol ‘You’ll Never Walk Alone’, suddais yn gyffyrddus yn fy sedd, gan fwynhau bob nodyn o bortread y cantorion dawnus. Roedd datganiad Leslie Garrett o ‘You’ll Never Walk Alone’ o fewn cyd-destun trasig yr olygfa, yn gofiadwy tu hwnt, ac yn sicr o aros gyda mi am byth.
Wedi gweld cannoedd o sioeau cerdd erbyn hyn, does 'na’m dwywaith fod ‘Carousel’ yn teimlo’n hen-ffasiwn, araf a hirfaith. Ond, o glywed yr alawon clasurol, a mynegiant y cast safonol yma ohonynt, allwn i’m peidio ag ildio i fwynhau’r cyfan.
Ac o sôn am y cysylltiadau Cymraeg… braf oedd gweld Ilid Jones yn rhan o’r gerddorfa, a sain yr obo a’r côr anglais yn sicr yn cyfrannu i’r cyfoeth cerddorol.
Mwy o fanylion ar www.savoy-theatre.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment