Friday, 30 January 2009
'A Midsummer Night's Dream'
Y Cymro – 30/01/09
Parhau i ddadlau gyda Chwmni Cameron Mackintosh wnes i gydol yr wythnos ynghylch y sioe ‘Oliver’. Falle ichi gofio fi’n sôn yr wythnos diwethaf am ymateb negyddol y cwmni drwy wrthod gwahoddiad i’r ‘Cymro’ adolygu’r sioe ar noson y Wasg. Dal i sôn am ‘brinder’ y tocynnau mae llefarydd ar ran y cwmni, ond mae’n haws genna i gredu mai dewis i anwybyddu’r Cymry wnaeth y cwmni y tro hwn, a rhoi blaenoriaeth i bapurau lleiafrifol Llundain a thu hwnt. Dim ond i ninnau’r Cymry gofio hynny pan fydd ‘gwên fêl yn gofyn fôt’ ar raglenni tebyg yn y dyfodol!
Felly, wrth droi cefn ar Theatr y Drury Lane unwaith eto'r wythnos hon, neidio’n nwydus i ganol y cariadon yn Theatr y Novello ar gyfer cynhyrchiad yr RSC o ‘A Midsummer Night’s Dream’ gan William Shakespeare. Fel sy’n siŵr o ddigwydd, (wrth i rywun fynd yn hŷn!) mae’r tebygolrwydd o weld yr un ddrama dro ar ôl tro, yn dod yn fwy amlwg. Cofio gwta flwyddyn yn ôl, mynd i weld cynhyrchiad noddedig y Cyngor Prydeinig o’r ddrama hon, a gafodd ei chynhyrchu yn yr India, a’i pherfformio yn y Roundhouse yn Llundain. Y tro hwn, cyfle cwmni preswyl yr RSC i ddod â gwedd newydd ar yr hen stori garu yn y goedwig hudolus, drwy weledigaeth Gregory Doran.
Yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru (drwy gyfrwng y Gymraeg yn sicr) mae’n amlwg iawn mai gweledigaeth y cyfarwyddwr sy’n dod gynta’. Mae hynny’n amlwg iawn yn y cynhyrchiad yma, fel y digwyddodd gyda ‘Hamlet’ yn gynharach yn y flwyddyn. Gwedd gyfoes a gafwyd unwaith eto, a hynny drwy gynllun set a gwisgoedd Francis O’Connor a goleuo gwych Tim Mitchell.
Mae’n amlwg hefyd fod y cwmni wedi treulio oriau yn astudio’r ddeialog air wrth air, wrth i bob diferyn o gomedi gael ei wasgu o bob ystum, saib ac awgrym.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy a chynnil gan y ddau gwpwl o gariadon ifanc a chymysg – ‘Demetrius’ (Edward Bennett) a ‘Hermia’ (Kathryn Drysdale) a ‘Lysander’ (Tom Davey) a ‘Helena’ (Natalie Walter). Felly hefyd gyda’r ‘cwmni drama’ sy’n dod i ddiddanu’r gwesteion yn y briodas gyfun ar ddiwedd y ddrama. Pwy all wadu bod cyfle euraidd i unrhyw actor sy’n cael ei ddewis i bortreadu’r ‘Bottom’ gomic neu’r ‘Puck’ ffwndrus, a gadawodd perfformiad Joe Dixon a’i acen Birmighamaidd a’r Mark Hadfield blewog, argraff ddofn ar y gynulleidfa ddethol.
Unig wendid y cynhyrchiad yn fy marn i, ac o bosib y ddrama yn hynny o beth, yw’r hyd. Mae tair awr, yn ogystal ag egwyl o 20 munud yn gofyn tipyn o amynedd, yn enwedig o eistedd ar gadair dra anghyfforddus, wrth geisio rhannu’r baich o un foch i’r llall! I mi, mae’r ddrama yn gorffen yn daclus wrth i’r cariadon ddadebru o’r hud twyllodrus sydd wedi drysu ei gweledigaeth yn y goedwig, ac wrth i gariad drechu’r dydd. Mae’r olygfa sy’n dilyn, o weld y cwmni drama yn diddanu’r gwesteion yn ymestyn y ddrama yn ormodol yn fy marn i, ac yn sicr felly yn y cynhyrchiad yma ohoni.
Serch hynny, roedd gwylio adlewyrchiad y bylbiau golau amrywiol a ddisgynnodd blith draphlith o do’r theatr yn erbyn y llen o ddrychau ar y llwyfan yn hudolus. Golygfeydd fydd eto’n aros gyda mi, a gwirionedd Shakespeare am fywyd yn atseinio yn fy nghlustiau.
Anghofiwch hunllef ‘Oliver’! Ewch am freuddwyd i’r Novello!
Mwy o fanylion ar www.rsc.org.uk
Friday, 23 January 2009
Siom 'Oliver' a mwynhad 'Carousel'
Y Cymro – 23/01/09
Roeddwn i wedi gobeithio medru adolygu’r sioe ddiweddara i agor yma yn y West End yr wythnos diwethaf, sef ‘Oliver’. Yn enwedig felly, oherwydd y cysylltiad Cymraeg gyda Gwion Jones ymysg y tri gafodd ei ddewis i bortreadu’r prif gymeriad, a llwyddiant Tara Bethan wrth ymgiprys am y rhan ‘Nancy’ yn y gyfres deledu yn gynharach eleni.
Wedi cysylltu fisoedd yn ôl gyda Chwmni Cameron Macintosh, ynghyd â’u cwmni marchnata, cefais siom fawr o dderbyn neges yn ôl i’r perwyl - oherwydd y nifer llai o docynnau i’r Wasg ar gyfer y cynhyrchiad, doedd y cwmni ddim yn meddwl bod ‘Y Cymro’ sef Papur Cenedlaethol y Cymry yn teilyngu cyfran ohonynt! Sarhad pur, sydd wedi suro fy ngwerthfawrogiad o’r cwmni a’u hagwedd.
Er imi gysylltu gyda’r cwmni i ofyn am eglurhad, death dim i’r fei hyd yma. Wedi darllen adolygiadau o’r sioe ym mhapurau (llai) Llundain, mae’n amlwg fod yna ganmoliaeth, er nad Gwion fu ar y llwyfan ar noson y Wasg. I’r rhai sy’n bwriadu ceisio gweld Gwion, byddwch yn ofalus wrth archebu, oherwydd mae’n debyg nad yw’r cwmni’n gallu cadarnhau pa nosweithiau y bydd Gwion yn portreadu ‘Oliver’ tan ychydig ddyddiau ynghynt. Mae’r ffaith hefyd fod y sioe wedi gwerthu miloedd o docynnau ymlaen llaw, yn awgrymu nad yw Cameron Macintosh a’i filoedd yn malio'r un botwm corn am farn y beirniaid, heb sôn am y Cymry! Mwy am hyn, os daw ymateb dros yr wythnosau nesaf.
Wedi’r siom yn Drury Lane, dawnsiais i lawr y Strand, gan ymuno â’r ‘Carousel’ yn Theatr y Savoy gyda’r soprano swynol Leslie Garrett.
Dyma gynhyrchiad newydd o glasur Rodgers a Hammerstein sy’n seiliedig, gyda llaw, ar ddrama o’r enw ‘Liliom’ gan Ferenc Molnár. Mae’n stori hudolus am ferch o’r enw ‘Julie Jordan’ (Alexandra Silber) sy’n cael ei hudo gan un o ddynion y ffair, y ‘Billy Bigelow’ golygus (Jeremiah James). Mae’r ddau yn cefnu ar eu teuluoedd a’u cyfeillion, ac yn ffoi i wneud fel y mynnont â’u bywydau. Ond, buan iawn mae’r miri’n marw, a bryntni ‘Billy’ yn suro perthynas y ddau. Ond er gwaetha’r trais, mae gwir gariad ‘Julie’ tuag ato, yn aros tan y diwedd trasig.
Heb os, mae ‘Carousel’ yn aros fel un o glasuron Oes Aur y ddrama gerdd, ac yn dilyn llwyddiant ‘Oklahoma!’ ym 1945. Er bod y cynhyrchiad yma’n plethu defnydd hynod o gelfydd o daflunio lluniau animeiddiedig ar y setiau trawiadol, mae’r sioe ei hun yn teimlo’n hen-ffasiwn ac araf o fewn ei wisg gyfoes. Mae’n teimlo fel gwylio ffilm o’r stori, gan fod y stori mor araf, a phob ystum, teimlad neu awgrym yn cael ei bwysleisio drwy gân ac yna drwy ddawns. Wedi cyrraedd yr egwyl, allwn i’m peidio trafod prinder y ‘stori’ oedd wedi’i gyflwyno yn yr awr a hanner blaenorol.
Glynu cân wrth gân wnes i gydol y sioe, drwy erfyn am alaw adnabyddus. Pan ddaeth yr alawon hynny, fel ‘If I loved You’, ‘June Is Burstin’ Out All Over’ a’r anfarwol ‘You’ll Never Walk Alone’, suddais yn gyffyrddus yn fy sedd, gan fwynhau bob nodyn o bortread y cantorion dawnus. Roedd datganiad Leslie Garrett o ‘You’ll Never Walk Alone’ o fewn cyd-destun trasig yr olygfa, yn gofiadwy tu hwnt, ac yn sicr o aros gyda mi am byth.
Wedi gweld cannoedd o sioeau cerdd erbyn hyn, does 'na’m dwywaith fod ‘Carousel’ yn teimlo’n hen-ffasiwn, araf a hirfaith. Ond, o glywed yr alawon clasurol, a mynegiant y cast safonol yma ohonynt, allwn i’m peidio ag ildio i fwynhau’r cyfan.
Ac o sôn am y cysylltiadau Cymraeg… braf oedd gweld Ilid Jones yn rhan o’r gerddorfa, a sain yr obo a’r côr anglais yn sicr yn cyfrannu i’r cyfoeth cerddorol.
Mwy o fanylion ar www.savoy-theatre.com
Friday, 16 January 2009
Y Wefan Genedlaethol
Y Cymro – 16/01/09
Dwi di dod i werthfawrogi’r Wê yn fawr iawn ers bod yma yn Llundain. Drwy’i wefannau a’i gysylltiadau diddiwedd, mae posib dod o hyd i wybodaeth a syniadaeth dra ddiddorol. Dyna ichi’r ‘Facebook’ caethiwus sy’n eich cysylltu gyda chyfeillion o fore oes hyd y presennol, ond sydd hefyd, yn ein gwadd i fod yn rhan o grwpiau neu gymdeithasau arbennig. Rhaid cyfaddef i un gwahoddiad (a dderbyniais gyda llaw) ddod â gwen i’n ngwyneb. Gredwch chi fod yna griw o fyfyrwyr ym Mangor, sy’n dymuno gweld y siop Woolworths gwag ar y stryd fawr, yn cael ei droi’n ‘Theatr Woolworth’, yn sgil cau'r unigryw annwyl Theatr Gwynedd!. Tipyn o freuddwyd, ond pwy a ŵyr yn yr oes sydd ohoni. Does dim all fy synnu bellach...
Gwefan arall y byddai’n cadw dy llygaid arni’n gyson ydi gwefan ein hannwyl Theatr Genedlaethol, sydd (erbyn hyn) yn cael ei gadw’n ffrwythlon iawn. Wedi’r datganiad rai misoedd yn ôl am dymor newydd y cwmni, a’m sylwadau innau ar yr arlwy, braf oedd clywed Cadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Ioan Williams yn amddiffyn y dewis ar raglen Gwilym Owen ar Radio Cymru ganol mis Tachwedd. Diolch am eiriau doeth yr Athro, a mwy o ddiolch iddo am fod y cyntaf o’r cwmni i ymateb i’m sylwadau. Roedd yr hyn oedd ganddo i’w ddweud yn ddiddorol tu hwnt, gan ddatgan ei fod ‘yn fodlon’ gyda rhaglen y cwmni hyd yma, ond hefyd yn gweld bod angen ‘cryfhau’ ac ‘ymestyn’ yr arlwy. Roeddwn i’n falch iawn o’i glywed yn cyhoeddi (o’r diwedd) fod y cwmni ‘wedi comisynnu saith o ddramodwyr’ a bod ‘hanner dwsin’ pellach yn gweithio o dan arweiniad Meic Povey yn dilyn sawl gweithdy sgwennu'r llynedd.
Suddodd fy nghalon o’i glywed yn datgan bod yn rhaid ‘barnu’r cwmni dros gyfnod o ddeg i bymtheg mlynedd’, er mwyn gweld faint o ddramâu newydd fydd ‘wedi dod i fodolaeth’ gan obeithio y bydd ‘ateb adeiladol i hynny’. Siawns nad oes angen ‘barnu’ cyn hynny - yn flynyddol, rhag gwastraffu’r filiwn o bunnau’r flwyddyn?
Ar Ragfyr yr 11eg, dyma ddatganiad pellach ar y wefan werthfawr : ‘Yn ddiweddar fe dderbyniodd Aled (Jones Williams) a Meic (Povey) wahoddiad i fod yn 'Awduron Preswyl' i’r cwmni am gyfnod o dair blynedd ac rydan ni’n hynod falch o gael y cyfle i gyhoeddi hynny.’ Hwre! Dau sydd, o leia’n, dalld be-di-be! Gobaith yn wir! Y cwbl sydd angen rŵan ydi’r weledigaeth ffres, unigryw a chyfoes i wireddu’r holl addewidion.
A mwy o newyddion da'r wythnos hon, gyda dau enw newydd ar Fwrdd y Theatr, sy’n cymryd lle Linda Brown a Gary Nicholas fu’n nythu yno ers y cychwyn, drwy chwalu un o reolau cyfansoddiadol y cwmni! Branwen Cennard ac Elen Mai Nefydd yw’r ddwy sydd wedi’u hanrhydeddu â’u lle ar y Bwrdd, gan ‘obeithio y daw’r ddwy â pheth o’u profiad helaeth gyda hwy.
Ond rhoswch... ar brif dudalen yr hafan, dyma ychwanegiad pellach i’r cynhyrchiad cyntaf, sy’n amlwg yn troi’n lobsgóws o gyflwyniad! Ynghyd â Beckett a Wil Sam, bydd y ‘cynhyrchiad’ yn ‘cynnwys monolog newydd sbon gan yr awdures ifanc LUNED EMYR. Mae'r monolog, MEICAL, yn ychwanegiad pwysig at arlwy fydd hefyd yn cynnwys 2 o ddramau heb eiriau Samuel Beckett a pherfformiad o ddrama fer wych y diweddar Wil Sam’. Dim ond gobeithio na fydd y cyfan yn adlais o’r ’Wrth Aros Beckett’ a gawsom ni yn Awst 2006, ac a’m hatgoffodd o ‘weithdai myfyrwyr yn y coleg’ bryd hynny.
Ac i orffen ble cychwynias i ar y Wê, mae’n werth ymweld â’r fynwent o ddolenni sydd ar wefan y Theatr Genedlaethol. Dolenni cyswllt i Gwmnïau Theatr Cymraeg sydd i fod yno. Cwmni Theatr Arad Goch, Sgript Cymru a Fran Wen yn iachus iawn, ond wedyn Llwyfan Gogledd Cymru sydd wedi hen farw, Theatr na n’Og sydd a’i gyfraniad olaf yn 2006 a Theatr Bara Caws sy’n dal i sôn am eu cynhyrchiad o ‘Y Gobaith a’r Angor’ o ddechrau 2008! Diolch byth am y ‘Facebook’ ffyddlon, roddodd hefyd wybod imi am sioe glybiau newydd Bara Caws - ‘Dal i Bwmpio’ gan Eilir Jones fydd ar daith drwy fis Chwefror a Mawrth...eleni!
Friday, 9 January 2009
'Loot'
Y Cymro – 9/01/09
Rhyw berthynas o garu a chasáu fu gen i erioed efo’r dramodydd Joe Orton. Byth ers imi weld cynhyrchiad hynod o lwyddiannus a chofiadwy Clwyd Theatr Cymru o’i ddrama ‘Entertaining Mr Slone’ yn ystod tymor preswyl cynta’r cwmni flynyddoedd maith yn ôl, bu diddordeb mawr gen i yn ei waith. Roedd y ffilm - ‘Prick up your ears’ - yn seiliedig ar hanes bywyd personol a charwriaethol y dramodydd yn agoriad llygaid, ac roedd ei hiwmor tywyll a’i themâu dyrys yn atyniadol iawn.
Pan glywais fod yna ddiddordeb helaeth yn ei waith eleni, a dau gynhyrchiad o’i ddramâu yn britho llwyfannau Llundain, bu’n rhaid derbyn y gwahoddiadau i’w gweld. Y gyntaf i gyrraedd, oedd y gwahoddiad i fynd draw i Theatr y Tricycle yng Ngogledd Llundain i weld cynhyrchiad o’r ddrama ‘Loot’.
Dyma gomedi tywyll iawn am fab a gŵr sy’n dygymod efo marwolaeth y fam. Tra bod y gŵr ‘Mc Cleavy’ (James Hayes) yn galaru, mae’r mab, ‘Hal’ (Matt Di Angelo) yn cynllwynio ynghyd â’i ‘gariad’ deurywiol, ‘Dennis’ (Javone Prince) sydd hefyd yn gwasanaethu fel Ymgymerwr yr Angladd, ynglŷn â sut y dylid cuddio’r arian y bu i’r ddau ei ddwyn o’r banc. Mae’r ddrama yn cychwyn gyda chorff y fam yn amlwg yn yr arch agored, tra bod y gŵr ‘Mc Cleavy’ yn ceisio trafod trefniadau’r angladd gyda’r weinyddes fu’n gyfrifol am iechyd ei wraig, ‘Fay’ (Doon Mackichan). Mae’r cyfan yn troi’n ffars lwyr, gyda chyrhaeddiad yr arolygydd cudd o’r Heddlu ‘Truscott’ (David Haig).
Er cystal oedd cynllun set Anthony Lambie, a gyflwynodd inni gartre’r teulu, a’i ddrysau amrywiol a’i gwpwrdd dillad nodedig sy’n guddfan i’r arian ar gychwyn y ddrama, ac yna corff y fam wrth i’r ddrama fynd rhagddi, roedd yna wacter mawr i’w deimlo am y cynhyrchiad. Dim ond gyda chyrhaeddiad y meistr comediol David Haig fel yr heddwas cudd, y cododd lefel y cynhyrchiad, ac a’m hatgoffodd o’i berfformiad hynod o gofiadwy fel ceidwad y siop yng nghynhyrchiad yr Haymarket o ‘The Sea’ y llynedd.
Yr actor golygus Matt Di Angelo yw prif atyniad y cynhyrchiad, a hynny yn seiliedig ar ei berfformiadau teledu yn y gyfres ‘Eastenders’ ac wedi hynny ei symudiadau celfydd a’i gorff siapus a fu’n rhan annatod o’r gyfres ‘Strictly Come Dancing’ y llynedd. Er i’r Cynllunydd fynnu ei orfodi i wisgo’r trowsus gwyna a’r tynna a welais i ar lwyfan erioed, a’i droi i edrych fel y Michael Caine ifanc, roedd perfformiad a phortread yr actor ifanc yn hynod o lwyddiannus. Clod mawr iddo yntau, yn ei rôl gyntaf ar lwyfan. Fe ymdrechodd am y gorau i roi cymaint o gredinedd â phosib yn ei gymeriad, felly hefyd gyda gweddill y cast, ond wedi’r cychwyn addawol, fe lithrodd y cyfan i ddifancoll, ac fe gollais gredinedd llwyr yn sefyllfa drasig gomig y cymeriadau.
Wedi’r egwyl, gobeithiais am y gorau y byddai’r cast cryf yn adennill fy ffydd a’m diddordeb, ond yn anffodus, roedd fy anghredinedd yn eu sefyllfa, yn ogystal ag undonedd y cynhyrchiad yn syrffedus o ddiflas, a threuliais weddill y noson yn gwylio bysedd fy oriawr, er mwyn dal y trên tanddaearol nesaf yn ôl tua De’r Ddinas.
Siom felly ar drothwy’r Flwyddyn Newydd, ond gobaith y bydd cynhyrchiad y Trafalgar Studios o ‘Entertaining Mr Slone’ gyda’r amryddawn Imelda Staunton yn llawer gwell ddiwedd y mis.
Mae ‘Loot’ i’w weld ar hyn o bryd yn y Tricycle, Kilburn. Mwy o fanylion ar www.tricycle.co.uk
Friday, 2 January 2009
Edrych mlaen am 2009
Y Cymro – 02/01/09
Blwyddyn Newydd Dda! Gobeithio’n wir eich bod chi wedi mwynhau’r ŵyl ac yn barod am flwyddyn newydd o ddanteithion ar y llwyfan dramatig. Bwrw golwg dros yr arlwy eleni fyddai'r wythnos hon, gan sôn am rai o’r cynyrchiadau fydd i’w gweld yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y flwyddyn.
Mae’r Theatr Genedlaethol wedi cyhoeddi taith a chast eu cynhyrchiad nesaf sef ‘Bobi a Sami… a dynion eraill’. Cyflwyniad newydd sbon o ddrama fer wych y diweddar Wil Sam Jones, 'Bobi a Sami'. Llŷr Evans, Sion Pritchard a Llion Williams fydd y ‘dynion’ dan sylw, fydd yn diddanu cynulleidfaoedd drwy fis Chwefror a Mawrth ynn Nghaerfyrddin, Caernarfon, Crymych, Aberystwyth, Ystradgynlais, Caerdydd, Cricieth a’r Wyddgrug.
Braf hefyd oedd deall fod ‘Yr Argae’ a fethais ei weld yn yr Eisteddfod eleni ar daith ddechrau’r flwyddyn gan gychwyn yn y Sherman, Caerdydd fis Ionawr. Felly hefyd gyda chynhyrchiad Sherman Cymru o’r ddrama Saesneg ‘Deep Cut’, a fu mor llwyddiannus yng Nghaeredin, ac sy’n cael ei lwyfannu yn Llundain yn gynnar yn 2009.
Cynhyrchiad arall dwi’n edrych ymlaen at’w weld fydd addasiad Tim Baker o waith Charles Dickens, ‘Great Expectations’ yng Nghlwyd Theatr Cymru rhwng Chwefror 12fed a Mawrth 7fed.
Braf bob amser yw gweld y Cymry yn llwyddo ar lwyfannau Llundain, a pharhau i wneud hynny fydda ni yn y flwyddyn newydd. Ar lwyfan y Lyric, Hammersmith, bydd Iwan Rheon ac Aneurin Barnard yn ymuno â chast ifanc iawn ar gyfer y ddrama gerdd ddadleuol ‘Spring Awakening’ fu’n gymaint o lwyddiant ar Broadway. Bydd y sioe yn agor yn gynnar yn mis Ionawr, ac yn parhau yn Hammersmith tan ddiwedd Chwefror. Ond peidiwch â phoeni, mae 'na dderyn bach wedi dweud wrtha’i os bydd y cyfan yn llwyddiant, bydd y sioe yn ymgartrefu yn un o Theatrau’r West End yn fuan wedi hynny.
Gwion Wynn Jones fydd yn rhannu llwyfan Theatr Frenhinol y Drury Lane yn y ddrama gerdd ‘Oliver’ fydd yn agor yn swyddogol ar y 14eg o Ionawr. Rowan Atkinson fydd y ‘Fagin’ ddrwg a Burn Gorman o’r gyfres ‘Torchwood’ fel y ‘Sikes’ seicotig!.
Bydd Craig Ryder o Lanrwst yn un o’r rhai ffodus i gael gwisgo rhai o’r gwisgoedd mwyaf lliwgar a hollol dros-ben-llestri yn y sioe ‘Priscilla Queen of the Dessert’ gyda Jason Donovan yn Theatr y Palace.
Cyswllt Cymraeg arall yn yr addasiad i lwyfan o’r ffilm ‘Calendar Girls’ wrth i Siân Phillips ddiosg ei dillad, ynghyd â Lynda Bellingham, Patricia Hodge, Gaynor Faye, Brigit Forsyth, Julia Hills ac Elaine C Smith. Bydd y cyfan i’w weld yn Theatr y Noel Coward o’r 4ydd o Ebrill.
Parhau i hawlio’u lle yn y Wyndhams fydd y Donmar gan barhau i ddenu’r enwau mawr wrth i Judi Dench droedio’r llwyfan yn ‘Madame De Sade’ o’r 13eg o Fawrth a Jude Law fel ‘Hamlet’ o’r 29ain o Fai. Beckett fydd yn mynd â bryd Ian McKellen a Patrick Stewart wrth iddyn nhw fynd i Aros am Godot yn Theatr Frenhinol yr Haymarket. Bydd y ddrama gerdd newydd ‘Sister Act’ yn dawnsio’i ffordd i mewn i’r Palladium o’r 7fed o Fai ymlaen. Dyma addasiad Whoopi Goldberg o’i ffilm o’r un enw.
Digonedd felly i edrych ymlaen ato, ac i sicrhau blwyddyn lwyddiannus arall ar lwyfannau’r wlad!