Friday, 25 April 2008

'Major Barbara'


Y Cymro – 25/4/08

Mae Theatr Genedlaethol Lloegr fel bocs siocled enfawr! Gyda’i dri theatr unigol fel haenau amrywiol yn cynnig yr amrywiaeth mwyaf o’r melys i’r chwerw. Soniais rai misoedd yn ôl am rai o’r cynyrchiadau fues i’n ei weld yno, a bellach mae haen newydd o ddanteithion yn fy aros. Yn eu mysg mae’r stori farddonol anturus ‘Fram’ gan Tony Harrison, Vanessa Redgrave yn ail-fyw atgofion Joan Didion yn ‘The Year of Magical Thinking’, drama newydd Simon Stephens ’Harper Regan’ a Jeremy Irons a’i bortread o Harold Macmillan yn ‘Never So Good’.

I theatr Olivier y mentrais innau ar bnawn Sadwrn llwm i weld ‘Major Barbara’ o waith Bernard Shaw. Dyma ofod enfawr unwaith eto, y mwyaf o’r tri llwyfan yn y Ganolfan hynod hon, gyda’i 1150 o seddau ar ffurf hanner cylch. O eistedd yn rhes gefn y Cylch, ar lawr ucha’r adeilad ar lannau’r Tafwys, roedd yr hyn a welais ar y llwyfan yn edrych yn fychan iawn. Roedd cynllun set Tom Pye, sef y parlwr chwaethus Edwardaidd, efo’i siandaliar a’i ddeiliach gwyrdd, fel ynys unig ynghanol y môr du. Roeddwn i’n bryderus cyn i’r un gair gael ei yngan, oherwydd maint y cyfan, ar lwyfan mor fawr. Cychwynodd yr Act Gyntaf, efo’r fam, ‘Y Foneddiges Britomart Undershaft’ (Clare Higgins) yn gormesu bywyd ei mab, ‘Stephen’ (John Heffernan) ac yn trafod ei chwaer,’Barbara’ (Hayley Atwell) sy’n rhoi inni deitl y ddrama, ‘Major Barbara’.

Dyma Act eiriol iawn, a buan roedd fy llygaid yn drwm, a’m awydd i gysgu yn llawer mwy nag unrhyw ddymuniad i wybod mwy am y cymeriadau. Ond..., (a dyma chi’r ‘ond’ gwerthfawr hwnnw sy’n cyfiawnhau pris y tocyn!) mae newid ar ddod, pan newidia’r llwyfan i droi’n neuadd a chegin enfawr Byddin yr Iachawdwriaeth, ynghanol Llundain. Digwyddodd y newid mor sydyn, ac mor daclus, gyda’r actorion wedi’u coreograffu’n gelfydd i gludo’r celfi gyda nhw, a llenwi’r llwyfan gyda byrddau a meinciau, wrth i faneri crefyddol y Mudiad yn sôn am Achubiaeth a Bywyd Tragwyddol ddisgyn i’w lle uwchben y cyfan. Dyma’r darlun mawr y bues yn ei ddisgwyl, gan lenwi’r môr du â’i ddrama, a llenwi fy nghalon â maddeuant i’r cynllunydd druan!!

Ymlaen aeth y ddrama, fel trên ar gledrau mwy cadarn am sbelan, gan fy nghludo innau efo’r cyfan. Am y tro cynta, roeddwn i eisiau gwybod beth oedd am ddigwydd i’r cymeriadau. Gyda chyrhaeddiad y penteulu, ‘Andrew Undershaft’ a’r actor profiadol a’r “Olivier newydd” chwedl llawer, Simon Russell Beale wrth y llyw, daeth blâs ar y stori. Ac yntau yn Filiwnydd, a’r Mudiad yn dyheu am ragor o arian i barhau â’u gwaith, mae’r prif gymeriad, ei ferch, ‘Major Barbara’ yn wynebu cyfyng gyngor enfawr. All hi ddim derbyn arian ei thad i achub y Mudiad, am nad ydio’n fodlon ‘Achub’ ei hun drwy ymuno â’r Fyddin. Byddai derbyn yr arian yn groes i’w holl egwyddorion a’i gwerthoedd, a gyda pwysau ychwanegol gan ei harweinydd, ‘Rummy Mitchens’ (Stephanie Jacob) i dderbyn yr arian, mae’r sefyllfa yn troi’n ffars, a chwestiynnau mawr yn cael eu codi gan Bernard Shaw am ddilysrwydd a gwir fwriad aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Cychwynnodd yr Ail-Act yn ôl yn y Parlwr bychan, ond gyda stori gadarn i’w dilyn, llwyddodd y llygaid i aros ar agor, a diolch am hynny, gan fod yr olygfa a ddilynodd yn werth ei weld. Trawsnewidiwyd y llwyfan i fod yn ffactri daflegrau’r penteulu Undershaft; llanwyd y llwyfan gyda thaflegrau arian o bob cyfeiriad, i gyfeiliant synnau mecanyddol gwichlyd a stêm a chwys y gweithwyr. Roedd y cyfan mor ddramatig nes ennyn cymeradwyaeth gan y gynulleidfa am waith y cynllunydd. Roeddwn inna erbyn hyn wedi llwyr faddau iddo!

Fel yn nhraddodiad y dramâu Clasurol, cafwyd stori gref, neges pwrpasol a strwythr cryf i’r ddrama. Roedd cyfarwyddo Arweinydd Artistig y Cwmni – Nicholas Hytner yn brawf pendant pam ei fod yn y swydd, a’r Cast cyfan yn gwneud eu gwaith yn gwbl ddi-lol a chredadwy. Rhaid ategu bod yr actorion hŷn – Clare Higgins a Simon Russell Beale yn serenu, ac yn gwbl amlwg mor gartrefol, hyderus a hapus ar lwyfan. Credais yn llwyr yn eu portreadau ac er y cychwyn braidd yn sych, cefais flas sicr erbyn y diwedd. Ydi, mae’n werth weithiau dyfalbarhau, boed am ddwy-awr-a-hanner mewn theatr, neu ym mherfeddion y bocs sioceld…!

Mae ‘Major Barbara’ i’w weld yn Theatr Olivier tan y 3ydd o ‘Orffennaf. Mwy o wybodaeth ar www.nationaltheatre.org.uk

No comments:

Post a Comment