Friday, 2 May 2008

'Gone with the Wind'




Y Cymro – 02/05/08

‘Gone with the Wind’, New London Theatre, ****

Wedi’r hir ddisgwyl, a’r hir drafod am bob elfen o’r ddrama-gerdd uchelgeisiol hon, chwythwyd ar agor drysau’r theatr y New London, ar gyfer cynhyrchiad Trevor Nunn o nofel epig Margaret Mitchell, ‘Gone with the Wind’.

Wrth ddarllen rhai o’r adolygiadau cynnar gan y Wasg yma yn Llundain, mae’n syndod bod y sioe heb gael ei chludo ymaith gan y gwynt, yn sgil yr holl sylwadau negyddol. Rhy hir, rhy eiriol, rhy undonog... Do, mae’r ddrama-gerdd-garwyr wedi llarpio arni’n llwyr, a hynny yn annheg iawn yn fy marn i.

Mae’r stori enwog hon wedi’i osod yn Nhaleithiau Deheuol yr Amerig yn ystod y Rhyfel Cartref, a’r hyn a’i dilynodd. ‘Scarlett O’Hara’ (Jill Paice) ydi’r llances o brif gymeriad, a dilyn ei hanes hi wnawn ni gydol y stori. Ei phrofiadau hi o fyw drwy’r cyfnod efo’i chyfeillion, ei theulu, ei chariadon, a’i gelynion, cyn ac wedi’r Rhyfel.

Cychwynnir yr hanes yn ‘Tara’, planhigfa teulu’r ‘O’Hara’ yn Georgia, gyda’r ‘Scarlett’ chwareus yn fflyrtio gyda’r bechgyn lleol, tra bod ei gwir gariad, ‘Ashley Wilkes’ (Edward Baker-Duly) ar fin priodi ei gyfnither, ‘Melanie Hamilton’ (Madeleine Worrall). Er gwaetha cyngor ei thad, ‘Gerald O’ Hara’ (Julian Forsyth) i gadw draw oddi wrtho, ac i ganfod cariad gwell, mae’r ‘Scarlett’ hunanol yn benderfynol o geisio gwneud y bonheddwr ‘Wilkes’ yn eiddigeddus. Er gwaethaf ei hymdrechion, does dim troi ar ‘Ashley’, a buan iawn y daw ‘Scarlett’ wyneb yn wyneb â’r ail-brif gymeriad yn y nofel, y torrwr calonnau golygus a chyfoethog, ‘Rhett Butler’ (Darius Danesh). Ond, mae ‘Scarlett’ yn bodloni ar briodi gŵr lleol arall, sef brawd ‘Melanie’ - ‘Charles Hamilton’ (David Roberts), a buan iawn y mae priodas ddwbl yn yr ardal.

Yr hyn darodd fi’n syth am y cynhyrchiad oedd y modd y mae’r cyfan yn llamu drwy’r tudalennau mewn llinellau. O fewn eiliadau i gwrdd, roedd ‘Scarlett’ wedi priodi, ei gŵr wedi marw, a hithau wedi geni plentyn mewn munudau!. Neidiwyd o olygfa i olygfa mor sydyn, nes cyrraedd pwynt dramatig arall, oedd yn gofyn am gân. Yna, pennill a chytgan, cyn llamu ymlaen unwaith eto, drwy’r nofel drwchus hon.

Wedi’r golled, mae ei mam, ‘Ellen’ (Susannah Fellows) yn ei hanfon i Atlanta, i dreulio amser efo’i modryb. Buan iawn mae ‘Scarlett’ yn ôl i’w hen ffyrdd, ac yn parhau i fod yn eiddigeddus o briodas ei chwaer yng nghyfraith a’i gwir gariad ‘Ashley’. Ond, unwaith eto, daw wyneb yn wyneb efo ‘Rhett Butler’, ac er gwaethaf ei chyfnod o alaru, mae’n dewis i ddawnsio gydag ef, sy’n tanio pob math o ensyniadau am ei chymeriad. Gyda’r Rhyfel Cartref bellach yn ei anterth, mae ‘Scarlett’ yn aros yn Atlanta, a pharhau mae’r stori garu gymhleth rhyngddi hi, ‘Wilkes’, ‘Rhett’ a’i chwaer yng nghyfraith, ‘Melanie’.

A dyma ddod at un o’r rhannau mwyaf dramatig yn y nofel, sef yr olygfa epig o losgi Atlanta - golygfa y bu cryn drafod sut ar y ddaear oedd posib cyfleu hynny ar lwyfan. Do, roedd y cyfan yn ddramatig, ac fe lwyddodd yr olygfa i’m hargyhoeddi’n llwyr o’r dinistr a fu. Ond, yn symlrwydd yr olygfa y gwelais i fawredd y cynhyrchiad, sef yr anwyldeb eiddil a’r elfen hamddenol gartrefol sydd mor hyfryd amdano. O symlrwydd cynnil set John Napier, sy’n hynod o drawiadol ac eto’n effeithiol i gerddoriaeth trawiadol, emynyddol Margaret Martin.

Fe’m hatgoffwyd dro ar ôl tro o waith Tim Baker yng Nghlwyd Theatr Cymru, wrth fynd i’r afael â’r nofelau mawr fel y drioled o waith Alexander Cordell neu’r ‘Grapes of Wrath’ diweddar. Yr ensemble cry, wedi’i chyfarwyddo’n dynn, yn godro’r emosiwn o bob golygfa, ar lwyfan eitha moel. Dyna ydi mawredd theatr - gweledigaeth glir y cyfarwyddwr sy’n gwybod sut i gyfleu’r stori heb angen am setiau drudfawr.

Un o’r ychydig wendidau oedd y ‘gerddorfa’ oedd wedi’u stwffio i ddau gwpwrdd o bobtu’r llwyfan. A bod yn onest, dwi’n amau faint o gerddorion, neu’n hytrach, faint o offerynnau oedd yno, gan fod y sain yn debycach i’r hyn a greeir gan allweddell. Bu cryn drafod ynglŷn â defnyddio alawon o’r ffilm adnabyddus a wnaeth y nofel yn fyd-enwog, ond dewis peidio wnaeth Trevor Nunn. Tueddu i gytuno gyda hyn wnes i, er pa mor dila oedd y themau byr oedd yn cloi rhai o’r golygfeydd mwyaf angerddol.

O berfformiad caboledig, cadarn a chofiadwy yr ‘eilun pop’ gwreiddiol Darius i’r llinellau anfarwol ‘I don’t give a damn’ a ‘Tomorrow is another day’, fe erys atgofion melys iawn am y cynhyrchiad cynnes ond cynnil yma, heb unrhyw wynt teg ar ei ôl!

Mae ‘Gone with the Wind’ i’w weld yn Theatr y New London ar hyn o bryd. Mwy o fanylion ar www.gwtwthemusical.com

No comments:

Post a Comment