Friday, 18 April 2008

'Nutcracker!' ac Edrych Mlaen...





Y Cymro – 18/4/08

Wythnos o gyd-ddigwyddiadau fu hi’r wythnos hon. Wythnos ryfedd yn hynny o beth, ond wythnos addas i mi fwrw golwg ar yr arlwy sy’n ein haros dros yr wythnosau nesaf.

Y cyd-ddigwyddiad cyntaf oedd imi dderbyn gwybodaeth drwy’r post am rai o’r cynyrchiadadau fydd i’w gweld yn yr ŵyl Ryngwladol yng Nghaeredin eleni. Ymysg yr arlwy flynyddol o gerddoriaeth clasurol, opera a ballet, mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys ambell i gynhyrchiad theatrig. Cyn mynd i sôn yn fanylach am rheiny, y prif beth dynnodd fy sylw oedd y newyddion am gynhyrchiad newydd y coreograffydd Matthew Bourne, sef ei addasiad o waith Oscar Wilde, ‘Dorian Gray’. Unwaith eto, bydd Bourne yn cyd-weithio efo’r cynllunydd setiau Lez Brotherston a’r cyfansoddwr Terry Davies. Bydd y cyfan i’w weld yn y Kings Theatre rhwng yr 22ain a’r 30ain o Awst.

Rai dyddiau yn ddiweddarach, derbyniais wahoddiad i ail-weld cynhyrchiad Matthew Bourne o’r ‘Nutcracker!’, sy’n cael ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yr wythnos hon. Falle i’r rhai craff ohonoch gofio imi ganmol y sioe hon i’r cymylau ychydig cyn y Nadolig dwethaf, wedi imi ei weld yn Sadler’s Wells. Ei addasiad unigryw, lliwgar a llawen o fale enwog Tchaikovsky ydi’r gwaith, ac unwaith eto, cefais fy swyno’n llwyr. Mynd â ni i gartref plant amddifad llwm o gyfnod Fictorianaidd mae’r stori, a di-liw yw byd y plant ar drothwy’r Nadolig, a pherchnogion y cartref ‘Dr Dross’ (Scott Ambler) a’i Fetron o wraig (Mami Tomotani) yn trin y plant yn frwnt. Yn eu mysg, mae’r ferch fach ‘Clara’ (Hannah Vassallo) sy’n cael ei cham-drin gan blant teulu’r Dross ‘Sugar’ (Michela Meazza) a ‘Fritz’ (Drew McOnie). Ond buan iawn y daw tro ar fyd wrth iddi dderbyn anrheg Nadolig sef milwr o ‘Nutcracker’ (Alan Vincent) sy’n dod yn fyw liw nos, ac yn denu ‘Carla’ i fyd lliwgar o felysion. Ynghanol y lliw a’r llawenydd, fe gawn ninnau ein cyflwyno i’r melysion amrywiol - o’r hymbyg o heddwas (Adam Galbraith), y lodesi Liquorice Allsorts (Pia Driver, Dominic North, Irad Timberlake), y Gobstoppers gwrywaidd (Paul Smethurst, Luke Murphy, Matthew Williams) a’r merched Marshmallow (Victoria S Rogers, Carrie Johnson, Gemma Payne, Maryam Pourian, Chloe Wilkinson).

Braf gweld nad oedd y sioe heb ddioddef o gael ei theithio, a chynulleidfa Caerdydd yn cael yr un mwynhad â Sadler’s Wells. Yr unig anfantais oedd absenoldeb y gerddorfa roddodd wefr ychwanegol imi yn Llundain. Costau teithio sy’n gyfrifol am hyn, a phrinder nawdd y cwmni. Cwta £200,000 mae’r cwmni yn ei dderbyn yn ôl Bourne ar ddiwedd y sioe, o gymharu â thua £7 miliwn y flwyddyn i Gwmni’r Bale Cenedlaethol! Annogodd y gynulleidfa oedd wedi aros ar ddiwedd y sioe i’r sesiwn hawl i holi, i anfon llythyrau i Gyngor y Celfyddydau i newid hyn. Amen i hynny ddweda i!

Mae’r ‘Nutcracker!’ yng Nghaerdydd tan Nos Sadwrn, Ebrill 19. Mwy o fanylion ar www.wmc.org.uk

Parhau i bori yn rhaglen yr ŵyl yng Nghaeredin wnes i, a sylwi ar gynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol yr Alban sef ‘365 – One Night to Learn a Lifetime’ gan David Harrower. Dyma gynhyrchiad unigryw a chwbl wreiddiol wedi’i gyfarwyddo gan Arweinydd Artistig y Cwmni Vicky Featherstone yn dilyn hynt a helynt criw o bobol ifanc wrth iddynt adael eu cartrefi gofal, a cheisio canfod eu cwys yn y byd sydd ohoni. Gyda dros 70,000 o filoedd o blant mewn gofal ym Mhrydain y dyddiau yma, dyma’n sicr gynhyrchiad cyfoes, cyfredol a phwerus iawn. Bydd y cynhyrchiad yma i’w weld yn y Playhouse yng Nghaeredin rhwng 22ain a’r 25ain o Awst.

Ac yna at ein Theatr Genedlaethol ninnau yma’n Nghymru. Cwmni sy’n dal i rygnu ‘mlaen, yn ei phumed blwyddyn, a sydd dal heb danio fy nychymyg na’m mrwdfrydedd. Yr un capden sydd wrth y llyw, a does na fawr o newid wedi bod yn y criw chwaith. Gwaed newydd sydd angen, a gweledigaeth glir.

Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddwyd cast eu cynhyrchiad diweddaraf sef ‘cynhyrchiad cyfoes o ddrama hanesyddol enwocaf Saunders Lewis’ - ‘Siwan’. Er i’r ‘Cymro’ gyhoeddi stori rai wythnosau yn ôl mai Ffion Dafis fydd y ‘fa dame’ Siwan, lluniau Lisa Jên Brown sydd ar yr holl ddeunydd marchnata (gan gynnwys y wefan!) Meddyliais am funud bod y cwmni wedi gofyn i Gareth Miles wneud addasiad arall iddynt, a bod yntau wedi mynd ati i ail-enwi’r ddrama yn ‘Alys’! Mae gennai ffydd mawr yn Ffion, ac mi grybwyllais rai misoedd yn ôl, wedi gweld cynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o ‘Branwen’ y dylid rhoi’r cyfle i Ffion fynd i’r afael ag un o’r cewri theatrig Cymreig. O ran gweddill y cast, Rhys ap Hywel fydd â’r dasg o ‘ddeffro’r pethau sy’n ddychryn iddi’ yng nghymeriad Gwilym Brewys, a Dyfan Roberts fydd Llywelyn. Castio diddorol unwaith eto, meddyliais... Ddwedai ddim mwy ar hyn o bryd!

Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor, 7–10 Mai, 2008, cyn mynd ymlaen i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Theatr Sherman, Caerdydd, Riverside Studios, Hammersmith, Llundain, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, Theatr Lyric, Caerfyrddin a Theatr Mwldan, Aberteifi. Mwy o fanylion ar www.theatr.com

No comments:

Post a Comment