Dwi wastad wedi cael fy swyno gan waith celf Luned Rhys Parri. Mae 'na fywyd a chymeriad diddorol i bob un, a’r gofal a gwaith caled y
creu, yn amlwg i bawb. Cwpwrdd Dillad Luned, a’i holl drugareddau yw canolbwynt
cynhyrchiad newydd Frân Wen, gyda’r hynod dalentog Leisa Mererid a Charlie
Chaplin Cymru, Iwan Charles yn dawnsio drwy ddrws ein dychymyg, wrth feimio
bywyd i’r cyfan.
Mae’n stori drasig ar un olwg, ac yn un ddaeth a dagrau
llawn atgofion i’m llygaid, wrth i’r cyfuniad celfydd o gerddoriaeth glasurol a
Chymreig, oglais yr emosiwn, a chodi hiraeth
pendant, yn fy achos i. Hanes gŵr (Iwan) a gwraig (Leisa) yn cwrdd, yn canlyn,
yn caru, cyd-fyw ac yn ymadael â’r byd hwn yw arch y stori, a’r atgofion yn
cael ei danio gan y gwrthrychau sydd wedi’i hamgylchynu, neu dan glo yn y
cwpwrdd dillad trawiadol.
Cefais fy atgoffa o’r ffilm fud ‘The Artist’ mewn sawl
man, wrth ryfeddu at brydferthwch y teimlad oedd yn cael ei gyfleu, neu’r atgof
oedd yn cael ei godi, o fewn y cywaith hwn o waith yr actorion, yr artist a’r
cyfarwyddwr Iola Ynyr. Roedd y
gynulleidfa (ifanc) o’m cwmpas, hefyd wedi’u swyno, gan hiwmor ac agosatrwydd,
ystumiau ac emosiwn y cymeriadau, ond allwn i’m peidio teimlo fod y cwmni wedi
codi uwchlaw eu dealltwriaeth, tua’r diwedd. O’r funud y gwelais yr hen ffrog
briodas gywrain oddi mewn i’r cwpwrdd, roeddwn i mewn ‘drama’ wahanol iawn, yn
un a barodd i’m meddylfryd deugain oed, fynd i fydoedd tu hwnt i symlder
plentyn. Efallai bod lle i gryfhau
diwedd y sioe, gan imi deimlo ein bod wedi’n gadael braidd yn swta, a minnau
eisiau gwybod mwy am dynged y ddau ddifyr ac annwyl yma.
Fel gweddill y cynyrch rhagorol yn yr ŵyl theatr bwysig hon,
fe gefais wefr a thaith emosiynnol wirioneddol gofiadwy, gan Frân Wen, unwaith
eto. Roeddwn i mor hapus o glywed fod y cwmni am fynd â’u cynhyrchiad trydanol
Dim Diolch, i’r ŵyl ymylol yng Nghaeredin eleni. Symlrwydd dweud stori, coreograffu
celfydd, perfformiadau o’r galon, llawn emosiwn a chyd destun gwir theatrig
sydd i’w weld, dro ar ôl tro, a diolch iddynt am hynny.
Tra bod fy mhryder am gyfeiriad a dyfodol ein Theatr
Genedlaethol wedi’i f’ysgwyd unwaith eto, yr wythnos hon, (o weld manylion am ddigwyddiadau dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed, a’r ‘digwyddiadau’ truenus o
hen ffasiwn ac ‘ail-law’ sydd ar gael ganddynt yn Felinfach,) diolch am ffresni
ac arweiniad pendant y cwmnïau yn y sector ifanc, sy’n hwylio’n hyderus at
ddyfodol cyffrous. Dyfodol sydd gystal â chynnyrch y gwledydd rhyngwladol, a
fu’n agor drysau dychymyg a gobaith, yr wythnos diwethaf.
Bydd Cwpwrdd Dillad i’w weld yn Eisteddfod yr Urdd ac yn
yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Peidiwch â’i golli.
No comments:
Post a Comment