Y Cymro 19/07/13
Os oedd Harold Wilson yn credu,
nôl yn y 1960au, bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae pythefnos ym
myd y ddrama yng Nghymru, fatha degawd! Wedi sôn am ddramâu newydd y Sherman
gwta bythefnos yn ôl, a’r angen am hyfforddi cyfarwyddwyr ac awduron newydd, yr
wythnos hon mi ges i’m moddi gan y tonnau trydar am y bwrlwm o weithgaredd
creadigol, sy’n digwydd drwy Gymru a thu hwnt.
Cychwyn yma yn Llundain, gyda’r
Cymry yn hawlio llwyfan y Royal Court am awr, yn nhymor newydd yr arweinydd
artistig Vicky Featherston, cyn arweinydd y Theatr Genedlaethol yn Yr Alban.
Newidiwyd enw’r theatr, am gyfnod, i ‘Open Court’ gan roi’r grym yn ôl yng
ngeiriau’r dramodwyr; geiriau sy’n cael eu geni’n amrwd o flaen ein llygaid,
heb na set na sylwedd, dim ond synnwyr swreal ond swynol. Ymhob cornel o’r
adeilad, gan gynnwys ei swyddfa bersonol, mae Vicky wedi gwahodd dramodwyr
gwahanol i ddweud eu dweud, bob nos, gan gynnwys sesiwn wythnosol o ‘Surprise Theatre’, sy’n annog y gynulleidfa i’w loteri lwc, gyda’r posibilrwydd o weld
rhai o leisiau blaengar a dadleuol ein llwyfannau cyfredol. Hap a damwain
llwyr, lasa weithio o’ch plaid pan fo’r llenni yn agor i ddadlennu’r dramodydd
dadleuol Mark Ravenhill yn cyflwyno darlith am gacennau a disgwyliadau
dramodwyr am eu gwaith!
Cwmni prysur y Protest Fudr o
Gaerdydd fu’n hawlio’r llwyfan am dros awr, yr wythnos diwethaf. ‘Plays in a
bag’ oedd yr arlwy; monologau gan ddramodwyr Cymreig hyderus, a llai profiadol,
wedi’u sbarduno gan y cais i greu drama yn tarddu, a’i gludo mewn unrhyw fath o
gwdyn. Tim Price, awdur y ddrama hyfryd ‘Salt, Root and Roe’ a welais yn y
Donmar, ac a gafodd ei ail-lwyfannu gan Clwyd Theatr Cymru, oedd un o’r
awduron, ac un o sefydlwyr y cylch o weithgaredd (gyda’u henw anffodus) a gychwynodd
yng Nghaerdydd, nôl yn 2007. Ymysg yr actorion roedd Sara Harries Davies a
Rebecca Harries, ac er mai blas yn unig a gefais, (diolch i’r Wê a sianel You Tube y Royal Court), tywyll a llawer rhy llonydd oedd yr hyn a glywais, yn
ymdebygu i ‘lenyddiaeth’ straeon byrion neu gomedi stand-yp, yn hytrach na
monologau o gig a gwaed.
Ymlaen i’r ŵyl newydd yn Theatr yr Almeida, a phedair
monolog dywyll eto am drais, lladd cymar a chathod, caru doliau llawn gwynt a
monolog a chân gan y dramodydd a’r actores, Lisa Jên Brown, am beryglon
anffodus arogl Tiwna!. Wrth groesawu
perfformiadau tanbaid ac angerddol Lisa, Eiry Thomas, Siôn Pritchard a Ceri
Murphy, roedd y cyfanwaith yn rhy undonog a llawer rhy dywyll i brynhawn Sul
braf. Er bod y cyfarwyddo’n gweithio’n
well y tro hwn, diolch i gymorth propiau amrywiol gweledol, roedd y gorddefnydd
o gyfarch y gynulleidfa, yn amharu ar drasiedi’r cymeriadau. Wedi creu cymaint o gymeriadau amrywiol,
collwyd y cyfle euraidd o’u caethiwo oddi mewn i sefyllfa o densiwn, fyddai
wedi medru ildio llawer mwy o wrthdaro, o ddadlennu eu cyfrinachau tywyll, wyneb
yn wyneb.
Nôl yng Nghymru, o Gaerdydd i
Gaernarfon, roedd 'na fwrlwm tebyg diolch i Fran Wen a drefnodd noson o’r enw
‘Pitsio’ yn y Galeri, ble gofynnwyd i gylchoedd o ieuenctid i gynnig eu
syniadau am ddramâu o flaen panel o ‘feirniaid’. Draw yn y Sherman dros y
penwythnos, roedd y ‘swingers’ yn gweithio ddydd a nos, yn gymysg o ddramodwyr,
actorion a chyfarwyddwyr, er mwyn creu a chyflwyno gweithiau newydd ar y nos Sul.
Roedd y bwrlwm o weithgaredd, a’r hwyl hyderus yn chwa o awyr iach calonogol
iawn. Gydag arweiniad, cynllunio a pharatoi mwy gofalus, dwi’n sicr bydd eu
gwaddol yn elwa byd y ddrama yng Nghymru, am ddegawdau i ddod.
Mwy am theatr Protest Fudr yma
www.dirtyprotesttheatre.co.uk, Fran Wen yma www.franwen.com a Sherman Cymru yma
www.shermancymru.co.uk
No comments:
Post a Comment