Y Cymro 12/04/13
O ganol y ddinas,
yn ôl yr es i am Sloane Square, i’r Royal Court er mwyn profi cynhyrchiad olaf
Dominic Cooke fel arweinydd artistig y theatr. Yn ôl at un o’i ddramodwyr
profiadol a phroffidiol yr aeth i gomisiynu’r ddrama ‘The Low Road’, a
chyflwynodd Bruce Norris ddrama gyfnod cyfoethog am gyfalafiaeth, bod yn farus
a’r hen ddihareb, ‘ariangarwch yw gwraidd pob drwg’.
“If you look very
carefully, you’re sure to find a thief or two in the family tree of every
millionaire” yw gwaddol y prif gymeriad, ‘Jim Trumpett’ (Johnny Flynn), y llanc
penfelyn sy’n treulio’i oes yn twyllo pawb a’u cynorthwyodd, o’i fam faeth
(Elizabeth Berrington) ar gychwyn y ddrama hyd at y Crynwyr tua’r diwedd.
Fel gydag un o ddramâu
blaenorol Norris, y comedi llwyddiannus ‘Clybourne Park’, mae hon hefyd wedi’i
gosod yn yr Unol Daleithau, ar gyfnod eu brwydr am annibyniaeth. Fe’n tywysir
trwy’r trybini gan y storïwr Albanaidd ‘Adam Smith’ (Bill Patterson ) sy’n
cyflwyno ei hun fel ysgolhaig o Brifysgol Glasgow, ac sy’n ‘Athro mewn
Athroniaeth Foesol’!
Rhag difetha sawl
syrpreis annisgwyl, gwell peidio dweud gormod am y stori, dim ond ei bod hi’n
epig o ran maint a mynadd. Mae hi’n eiriol iawn, ac yn agos at dair awr o hyd,
wrth inni wibio ar hyd y blynyddoedd. Ond mae yma werth, a neges bwysig, yn
enwedig dyddiau yma o ystyried y llanast gan y llywodraeth bresennol.
Mae ‘The Low Road’ yn y Royal Court tan yr
11eg o Fai. Mwy yma www.royalcourttheatre.com
neu @royalcourt.
Dwi’n mentro yn ôl
i Gymru, ddechrau’r wythnos, er mwyn dal
cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn Sir
Gâr. Wedi gwylio ‘Y Bont’ ar S4C rai
dyddiau yn ôl , mi rannai fy marn am y ddwy, yr wythnos nesaf!
No comments:
Post a Comment