Y Cymro 17/02/12
‘Heb ddim ar eich elw’ yw un diffiniad gan Dr Bruce o’r gair ‘skint’, yn ei ‘Eiriadur rhagorol. Rhyw deimlad digon tebyg gesh i wrth adael y Sherman nos Sadwrn diwethaf, wedi gweld cynhyrchiad swyddogol cyntaf Arwel Gruffydd, fel Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol.
‘Sgint’ o waith Bethan Marlow yw ei ddewis cyntaf ger ein bron; drama air-am-air o enau trigolion Caernarfon. Un arall o’i waddol Shermanaidd, gan fod Bethan, ynghyd ag Arwel a Siân Summers (ei gyd-gyfarwyddwr llenyddol yn y Sherman) wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers cryn amser. Cafwyd darlleniad o’r ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ac ail-ddrafftio helaeth ers hynny.
Rhaid canmol Bethan yn arw am fynd ati i gasglu’r holl leisiau ynghyd - pob carfan o’r gymdeithas liwgar hon - o ‘Sgubor Goch i’r Maes, mae gan bawb y cyfle i leisio barn, fel y noda’ Bethan ar gychwyn y rhaglen. ‘Ariangarwch yw gwraidd pob drwg’ yn ôl yr hen air, ac mae strwythur ac adeiladwaith y sgript, wrth gynnig pytiau blasus o fywydau pob dydd, pobol ‘go iawn’ yn ddiddorol ac yn ddirdynnol fel ei gilydd. Dau lais, a dau gymeriad sy’n aros yn y cof fwyaf - y fam ‘Sandra’ (Morfudd Hughes) sy’n stryglo byw o dan amodau anodd iawn, yn ceisio cadw’i pharch er gwaetha gwacter ei phwrs, a’i merch ‘Ellie’ (Manon Wilkinson) y fam sengl, ddi-lwybr, sy’n dyheu am ddianc o’u hualau hyll i’w breuddwydion bras. Dau berfformiad hynod o gofiadwy gan y ddwy actores dalentog yma.
Ond dyma ddod at wendid y cyfan. Er cystal yw’r holl ddeunydd sy’n creu’r cyflwyniad yma, mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf nad oes yma unrhyw gerbyd theatrig i ‘yrru’r gwaith. Dro ar ôl tro, mae’r naw actor yn sefyll ar y ffedog o lwyfan, yn annerch y gynulleidfa , wyneb yn wyneb, am gyfnodau o hyd at ugain munud y tro! Mae yma adlais o ddrama radio neu gyflwyniad llafar yn yr Eisteddfod. Dim gweledigaeth ddramatig o fath yn y byd. Anfaddeuol.
Gyda phrosiect o’r math yma, mae’n allweddol bod gan y cyfarwyddwr weledigaeth arbennig am sut i fynd ati i lwyfannu’r gwaith. Dylai’r llwyfannu fynd law yn llaw gyda’r creu o’r dyddiau cynnar. Fel gyda chwmnïau profiadol megis Shared Experience, Complicite neu Frantic Assembly, rhaid wrth steil arbennig - sydd gan amlaf yn gyfuniad crefftus o goreograffi, goleuo a delweddau symudol.
Er cystal oedd cefnlen o set Cai Dyfan, yn gyfuniad o ffenestri, dodrefn a thrugareddau ei thrigolion, roedd y cyfan yn fud ac yn farw, gyda’r actorion fel sardîns ar y ffedog o lwyfan o’i blaen. Roeddwn i angen ac eisiau gweld delweddau o’r Caernarfon liwgar hon - o’r hen ddyddiau dedwydd i’r dadfeilio presennol. Roedd angen anwesu’r atgofion (fel y cafwyd yng nghynhrchiad National Theatre Wales o ‘The Passion’) roedd angen symud, defnyddio a diflannu drwy’r delweddau er mwyn cryfhau’r dweud, ac i helpu’r actorion rhag sefyll yn syrffed o ddiflas am dalpiau helaeth o’r cyflwyniad. Diolch byth am yr ail-act a’r newid trwsgl o’r ffedog i’r garafán, ac eto, methiant i gyfarch gwacter y llwyfan, gyda’r actorion ymylol, a’u cefnau at dduwch!
O weld yn y rhaglen fod Cai Tomos a Suzie Firth yn cyd-weithio ar y cynhyrchiad fel cyfarwyddwyr corfforol, roeddwn i’n disgwyl priodas berffaith o symud a stori,(fel y gwelais dro ar ôl tro gan Frantic Assembly neu Shared Experience) ond siom poenus oedd gwylio’r actorion yn troi a throsi yn eu hunfan, heb le i symud, heb berthynas a’i gilydd. Roedd y diweddglo yn embaras o dros ben llestri, diangen.
Siom enfawr eto ar gychwyn cyfnod yr ail-gyfarwyddwr artistig. Syniad gwych ar bapur (neu’r radio!), gwaith ardderchog gan Bethan a’r cwmni o actorion triw a roddodd eu gorau i’r gwaith, ond y cyfan yn ddi-arweiniad a’r diffyg gweledigaeth yn boenus o amlwg.
‘Heb ddim ar eich elw...’ , yn fwy sgint nag erioed...
Mae ‘Sgint’ ar daith ar hyn o bryd ac yn ymweld â Chaernarfon, Aberteifi, Y Drenewydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth.
No comments:
Post a Comment