Total Pageviews

Friday 16 January 2009

Y Wefan Genedlaethol




Y Cymro – 16/01/09

Dwi di dod i werthfawrogi’r Wê yn fawr iawn ers bod yma yn Llundain. Drwy’i wefannau a’i gysylltiadau diddiwedd, mae posib dod o hyd i wybodaeth a syniadaeth dra ddiddorol. Dyna ichi’r ‘Facebook’ caethiwus sy’n eich cysylltu gyda chyfeillion o fore oes hyd y presennol, ond sydd hefyd, yn ein gwadd i fod yn rhan o grwpiau neu gymdeithasau arbennig. Rhaid cyfaddef i un gwahoddiad (a dderbyniais gyda llaw) ddod â gwen i’n ngwyneb. Gredwch chi fod yna griw o fyfyrwyr ym Mangor, sy’n dymuno gweld y siop Woolworths gwag ar y stryd fawr, yn cael ei droi’n ‘Theatr Woolworth’, yn sgil cau'r unigryw annwyl Theatr Gwynedd!. Tipyn o freuddwyd, ond pwy a ŵyr yn yr oes sydd ohoni. Does dim all fy synnu bellach...

Gwefan arall y byddai’n cadw dy llygaid arni’n gyson ydi gwefan ein hannwyl Theatr Genedlaethol, sydd (erbyn hyn) yn cael ei gadw’n ffrwythlon iawn. Wedi’r datganiad rai misoedd yn ôl am dymor newydd y cwmni, a’m sylwadau innau ar yr arlwy, braf oedd clywed Cadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Ioan Williams yn amddiffyn y dewis ar raglen Gwilym Owen ar Radio Cymru ganol mis Tachwedd. Diolch am eiriau doeth yr Athro, a mwy o ddiolch iddo am fod y cyntaf o’r cwmni i ymateb i’m sylwadau. Roedd yr hyn oedd ganddo i’w ddweud yn ddiddorol tu hwnt, gan ddatgan ei fod ‘yn fodlon’ gyda rhaglen y cwmni hyd yma, ond hefyd yn gweld bod angen ‘cryfhau’ ac ‘ymestyn’ yr arlwy. Roeddwn i’n falch iawn o’i glywed yn cyhoeddi (o’r diwedd) fod y cwmni ‘wedi comisynnu saith o ddramodwyr’ a bod ‘hanner dwsin’ pellach yn gweithio o dan arweiniad Meic Povey yn dilyn sawl gweithdy sgwennu'r llynedd.

Suddodd fy nghalon o’i glywed yn datgan bod yn rhaid ‘barnu’r cwmni dros gyfnod o ddeg i bymtheg mlynedd’, er mwyn gweld faint o ddramâu newydd fydd ‘wedi dod i fodolaeth’ gan obeithio y bydd ‘ateb adeiladol i hynny’. Siawns nad oes angen ‘barnu’ cyn hynny - yn flynyddol, rhag gwastraffu’r filiwn o bunnau’r flwyddyn?

Ar Ragfyr yr 11eg, dyma ddatganiad pellach ar y wefan werthfawr : ‘Yn ddiweddar fe dderbyniodd Aled (Jones Williams) a Meic (Povey) wahoddiad i fod yn 'Awduron Preswyl' i’r cwmni am gyfnod o dair blynedd ac rydan ni’n hynod falch o gael y cyfle i gyhoeddi hynny.’ Hwre! Dau sydd, o leia’n, dalld be-di-be! Gobaith yn wir! Y cwbl sydd angen rŵan ydi’r weledigaeth ffres, unigryw a chyfoes i wireddu’r holl addewidion.

A mwy o newyddion da'r wythnos hon, gyda dau enw newydd ar Fwrdd y Theatr, sy’n cymryd lle Linda Brown a Gary Nicholas fu’n nythu yno ers y cychwyn, drwy chwalu un o reolau cyfansoddiadol y cwmni! Branwen Cennard ac Elen Mai Nefydd yw’r ddwy sydd wedi’u hanrhydeddu â’u lle ar y Bwrdd, gan ‘obeithio y daw’r ddwy â pheth o’u profiad helaeth gyda hwy.

Ond rhoswch... ar brif dudalen yr hafan, dyma ychwanegiad pellach i’r cynhyrchiad cyntaf, sy’n amlwg yn troi’n lobsgóws o gyflwyniad! Ynghyd â Beckett a Wil Sam, bydd y ‘cynhyrchiad’ yn ‘cynnwys monolog newydd sbon gan yr awdures ifanc LUNED EMYR. Mae'r monolog, MEICAL, yn ychwanegiad pwysig at arlwy fydd hefyd yn cynnwys 2 o ddramau heb eiriau Samuel Beckett a pherfformiad o ddrama fer wych y diweddar Wil Sam’. Dim ond gobeithio na fydd y cyfan yn adlais o’r ’Wrth Aros Beckett’ a gawsom ni yn Awst 2006, ac a’m hatgoffodd o ‘weithdai myfyrwyr yn y coleg’ bryd hynny.

Ac i orffen ble cychwynias i ar y Wê, mae’n werth ymweld â’r fynwent o ddolenni sydd ar wefan y Theatr Genedlaethol. Dolenni cyswllt i Gwmnïau Theatr Cymraeg sydd i fod yno. Cwmni Theatr Arad Goch, Sgript Cymru a Fran Wen yn iachus iawn, ond wedyn Llwyfan Gogledd Cymru sydd wedi hen farw, Theatr na n’Og sydd a’i gyfraniad olaf yn 2006 a Theatr Bara Caws sy’n dal i sôn am eu cynhyrchiad o ‘Y Gobaith a’r Angor’ o ddechrau 2008! Diolch byth am y ‘Facebook’ ffyddlon, roddodd hefyd wybod imi am sioe glybiau newydd Bara Caws - ‘Dal i Bwmpio’ gan Eilir Jones fydd ar daith drwy fis Chwefror a Mawrth...eleni!

No comments: