Total Pageviews

Friday 21 December 2007

'God in Ruins'

Y Cymro – 21/12/07

Mae’n dymor Dickens ar hyn o bryd, a does dim rhaid edrych ymhell cyn gweld un o’r myrdd addasiadau o’i waith, boed ar y sgrin fach neu’r llwyfan. Draw yn Theatr y Soho yma’n Llundain, mae dau o’i gymeriadau mwyaf adnabyddus i’w gweld yn nrama ddiweddara Anthony Nielson ‘God in Ruins’ ar gyfer Cwmni’r Royal Shakespeare. Sôn ydw’i wrth gwrs am y bonheddwr ‘Ebenezer Scrooge’ (Sean Kearns) a’i glerc ‘Bob Cratchit’ (Patrick O’Kane) o’r stori enwog ‘A Christmas Carol’. Ond yn wahanol i’r nofel, mae’r bonheddwr Scrooge yma’n ddyn clên, a dyna gychwyn ar driniaeth gomedi Nielson o gymeriadau cartwnaidd Dickens, a holl fwriad y Nadolig.

Wedi’r prolog byr, cawn ein cyflwyno i’r prif gymeriad yn y presennol; ‘Brian’ (Brian Doherty) cynhyrchydd teledu llwyddiannus o ran gyrfa, ond meddwyn o fethiant yn ei fywyd personol. Wedi gwahanu oddi wrth ei wraig a’i ferch ddeuddeg mlwydd oed, mae’n ŵr sur, sengl, brwnt ei dafod ac unig iawn ar noswyl Nadolig. Mae’n sarhau unrhyw un sy’n croesi’i lwybr gan gynnwys y dyn pizza (Richard Atwill), ‘Joe’ (Joe Trill) ei gyfaill anabl a hoyw mewn cadair olwyn, a’i gefnogwr yn ‘Alcoholics Annonymus’ (Emmanuel Ighodaro). Ond, wedi’r jôcs brwnt am Fwslemiaid a’r Maffia, daw tro ar fyd wrth i’w dad (Sam Cox) ddychwelyd o’r bedd i’w boenydio, a’i orfodi i ail-wynebu ei orffennol, a newid ei agwedd.

Fues i’n edrych ymlaen yn fawr iawn am gael gweld y ddrama hon, gan fy mod i’n ffan mawr o waith Nielson. Wedi gweld ei ddwy ddrama ddiwethaf - ‘Realism’ a ‘The Wonderful World of Dissocia’ yn y Royal Court yn gynharach eleni, roedd gen i ddisgwyliadau uchel. Roedd ei ddisgrifiad o’r ddrama ar y poster hefyd yn ennyn diddordeb; cyfansoddodd lythyr yn erfyn am i bobol gofio’r dynion sengl y Nadolig hwn! Treuliodd Nielson bron i bedwar wythnos ar bymtheg yn cydweithio efo’r unarddeg actor yma o’r RSC, er mwyn creu’r sioe drwy gyfres o weithdai. Dyma’r dull o greu drama i Nielson, ond fel arfer yn ail-ddefnyddio actorion sy’n gyfarwydd iddo, ac am gyfnod llawer llai o amser - tua phum wythnos. Petawn i’n onest, dwi’n meddwl bod y cyfnod hwn wedi bod yn llawer rhy hir, a’i effaith wedi amharu ar y gwaith terfynol. Roedd y cyfan yn teimlo fel ffrwyth gweithdai; fel cyfres o olygfeydd wedi’i greu yn gelfydd dros amser, yn llawn hwyl, ond wedi’u tynnu ynghyd efo edau frau yn eu cysylltu. Er cystal oedd y gemau ar y mwclis, fel golygfa’r ddau blentyn yn trafod y Nadolig neu’r ddau Fwslim yn sôn am arwyddocâd y cyfan iddyn nhw, braidd yn fratiog oedd y llinyn storïol.

Anthony Nielson hefyd oedd yn cyfarwyddo’r cyfan, ac yn sicr roedd ei allu i greu golygfeydd theatrig a chofiadwy i’w weld yn amlwg fel y ddawns gyffuriau, gyda phob actor yn dod i’r llwyfan dan ganu Carol wahanol, ond gyda is-thema o gyffur gwahanol yn perthyn i bob un, neu’r diweddglo hynod o effeithiol wrth i ‘Brian’ ganfod mai’r unig ffordd iddo fedru cyfathrebu efo’i ferch ydi trwy gêm gyfrifiadurol!

Roedd set syml ond hynod o ddigonol Hayley Grindle yn effeithiol iawn, a braf oedd gweld mai hi fu’n gyfrifol am gynllunio setiau cynyrchiadau ‘Amdani’ a ‘Diwrnod Dwynwen’ i Sgript Cymru dro yn ôl. Unwaith eto, roedd goleuo Chahine Yavroyan yn creu awyrgylch hudolus i’r actorion, ac yn gweddu’n berffaith i thema’r sioe dros ben llestri yma.

Does na’m dwywaith bod hiwmor Nielson yn taro deuddeg dro ar ôl tro; yn anffodus iddo ef, mae ambell i ergyd wedi cythruddo sawl beirniad, a hynny’n bennaf am ei or-ffraethineb a’i jôcs sy’n bell o fod yn wleidyddol gywir! Fydd sawl un ddim yn eu mwynhau, ond eraill wrth eu bodd. Rhai’n gweld y stori, eraill ddim. Ymysg y dryswch yn y mwclis, mae na ddigon o ‘emau i fod yn gofiadwy ac i serennu mor llachar â’r bylbiau ar y goeden dolig!

Mae ‘God in Ruins’ i’w weld yn Theatr Soho tan Ionawr 5ed. Mwy o fanylion ar www.sohotheatre.com

O Lundain, ar drothwy’r Ŵyl, ga’i ddymuno Nadolig Llawen i bawb! Gan edrych ymlaen am Flwyddyn Newydd lewyrchus ar lwyfannau Cymru a thu hwnt.

No comments: