Total Pageviews

Friday 14 April 2006

'Camp a Rhemp'


Y Cymro - 14/4/06

‘Carry On…’ o ddrama ydi ‘Camp a Rhemp’ cynhyrchiad diweddara Theatr Bara Caws. Rhyw hanner ffordd rhwng ‘Carry on Camping’ a ‘Carry on loving’ ydi’r sioe. Mwy o ‘Carry on the double entendres!’ sydd ‘ma mewn gwirionedd. Un jôc hir o gamddealltwriaeth a hynny rhwng dau gwpl priod mewn gwersyll pebyll a rheolwr hurt y gwersyll a bortreadir gan Wyn Bowen Harries.

Ar gychwyn y ddrama, cawn ein cyflwyno i’r pum cymeriad : Liz (Nia Williams) - dynes llnau sy’n briod â’r dyn llnau ffenestri Hiwi (Eilir Jones) ac sy’n gweithio yng nghartref y cwpl dosbarth canol Carol (Gwenno Elis Hodgkins) a Gwyn (Maldwyn John). Roedd yna ddwy ‘olygfa fer gynta’ fel prolog i’r ddrama, gyda’r bwriad o adeiladu’r ôl-stori am briodas Carol a Gwyn. Yn bersonol, byddwn i wedi hepgor y ddwy ‘olygfa yma gan geisio gweithio’r ‘ôl-stori’ a’r cefndir i mewn i gorff y ddrama. Byddai dadlennu’r cefndir wedi rhoi mwy o gig a dyfnder i’r ddrama, i dorri ar undonedd y camddealltwriaeth yn y camp.

Cafwyd perfformiadau comig cry’ gan Gwenno, Eilir a Maldwyn John - a nhw sy’n achub y ddrama drwy danio’r one-liners doniol dro ar ôl tro. Doedd cymeriadau Nia Williams na Wyn Bowen Harries ddim yn cydio cystal. Collais gretinedd yng nghymeriad y ddynes llnau wedi iddi ddechrau dyfynnu Groucho Marx yn yr ‘olygfa gyntaf! Dwi’n cofio cael fy swyno gan berfformiadau cry’ Nia Williams mewn cynyrchiadau fel ‘Un o’r Teulu’ gan Gwmni Theatr Gwynedd flynyddoedd yn ôl; dwn i’m os mai diffyg hyder ta gormod o actio teledu yn ‘Rownd a Rownd’ oedd yn peri iddi gael ei boddi weithia ynghanol y cynnwrf. Roedd Wyn Bowen Harries hefyd yn stryglo i greu cymeriad credadwy o’r rheolwr hurt oedd yn gorfod cynnal y camddealltwriaeth hyd syrffed. Bechod na chawsom y cyfle i brofi mwy o ochor drist y cymeriad yma.

Bwriad Theatr Bara Caws drwy gomisiynu a llwyfannu’r ddrama yma yw efelychu taith ddiweddar y cwmni efo’r ddrama ‘Ffernols Lwcus’ sef cyfieithiad o ddrama John Godber ‘Lucky Sods’. Mae sawl addasiad o waith Godber wedi’i bod yn llwyddianus iawn yng Nghymru dros y blynyddoedd - dramâu fel ‘Bownsars’ a ‘Paris’ a chryfder bob un o’r rheiny yw’r sgriptiau comedi cry’ sy’n gweithio ar sawl lefel a dyfnder y cymeriadau sy’n rhoi haen gredadwy i’r stori. Dyma’r dyfnder oedd ar goll yn sgript Tony Llewelyn.

Wedi gorffwys dros y Pasg, bydd y cwmni yn ymweld â’r Bala, Penygroes, Rhuthun, Llanrwst a Llangadfan weddill yr wythnos, cyn mentro i lawr am Ddyffryn Aeron a Chaerdydd wythnos nesaf.

Os am weld y meistr wrth waith, mae John Godber a Jane Thornton newydd orffen cyd-weithio ar ddrama newydd o’r enw ‘I Want That Hair’ sy’n cael ei lwyfannu gan gwmni Godber, Hull Truck. Hanes dwy ffrind - Heidi a Bex yw sail y ddrama, a’r ddwy yn meddwl bod gan y naill fel y llall ‘y bywyd perffaith’. Anhapusrwydd y ddwy sy’n eu gyrru i newid steil eu gwallt, gan obeithio y bydd hynny yn rhoi tro ar fyd - ond, tydi’r tro ddim bob tro yn plesio! Ynghanol eu taith genedlaethol, bydd y cwmni yn ymweld â Bangor ddydd Mercher nesaf, ac yna’r Drenewydd nos Iau, Aberhonddu nos Wener, Aberdaugleddau ar Ebrill 22ain a Llanelwedd ar y 29ain. Byddant hefyd yn ymweld â Harlech a Phontardawe ym mis Mai.

No comments: