Y Cymro - 09/02/07
Tydi addasu unrhyw nofel ar gyfer y llwyfan ddim yn waith hawdd. Ond pan mae rhywun yn delio efo nofel sydd wedi swyno miloedd o ddarllenwyr dros yr hanner can mlynedd diwethaf; sydd wedi’i hastudio gan fyfyrwyr di-ri ar gyfer Lefel A a sydd wedi’i dewis fel ‘Llyfr Cymraeg y Ganrif’ ym 1999 mae’r her dipyn yn fwy.
Rydwi’n gyfarwydd iawn â’r nofel ‘Cysgod y Cryman’. Wedi fy swyno wrth ei hastudio ar gyfer Lefel ‘A’ ac wedi’i darllen hi droeon ers hynny a’r dilyniant ‘Yn ôl i Leifior’. ‘Roedd fy nisgwyliadau yn uchel wrth gamu mewn i Theatr Gwynedd, bnawn Sadwrn diwethaf. Pwy oedd yn mynd i fedru cyfleu'r Harri Vaughan golygus ac enigmatig? Pwy oedd am fod ddigon urddasol a chadarn i gyfleu’r penteulu Edward Vaughan? A beth am yr Wylan wyllt, oedd â’r gallu i droi myfyriwr o Bowys yn Gomiwnydd pybyr a thrwy hynny newid hanes a statws Stad Lleifior am byth?
Tybed oedd gan y cyfarwyddwr Cefin Roberts weledigaeth arbennig oedd yn mynd i’n swyno? Oedd ganddo actorion ddigon cry’ i gymeriadu’r cewri llenyddol yma, a rhoi inni wedd newydd ar gynfas eang y Clasur hwn? Oedd ganddo’r gallu i gyfleu ac ychwanegu at gynildeb a llyfnder addasiad Siôn Eirian?
‘Roedd cynhwysion un o gynyrchiadau Cefin yn amlwg. Cast MAWR a set FWY. Cerddoriaeth Gareth Glyn a chyn-fyfyrwyr Ysgol Glanaethwy. Cynhwysion sydd wedi bod yn hynod o lwyddianus yn y gorffennol, ac sydd wedi rhoi sawl cynnyrch blasus a chofiadwy. Ond ydi’r cynhwysion yma yn deilwng o fantell ein Theatr Genedlaethol? Ai dyma sut mae’r Theatr yng Nghymru am ein gwthio ymlaen i’r ddegawd nesaf, a chynrychioli Cymru ar lwyfannau Llundain?
Mae arna i ofn mai siom arall ETO oedd yn fy aros a sawl ‘na’ i’r cwestiynnau uchod. Cyn bod unrhyw actor wedi camu ar y llwyfan, roedd set-ar-dro ENFAWR Martin Morley yn amlwg yn hawlio rhan helaeth o’r llwyfan. Cymaint felly nes bod dim lle o gwbl i’r actorion symud o fewn bob golygfa. ‘Roedd teulu’r Trawsgoed wedi’i gwthio i gornel dde’r llwyfan, tra bod dim owns o urddas na chyfoeth yn cael ei adlewyrchu yn ‘nghegin’ na ‘chyntedd’ Lleifior. Doedd dim gwrthgyferbyniad rhwng byd moethus a bohemaidd Harri Vaughan ym Mhowys a’i fywyd fel myfyriwr ifanc ym Mangor. Ac wedi gwario cymaint ar y set cwbl anymarferol, ‘roedd dal gofyn i’r actorion a’r rheolwyr llwyfan i gario cadeiriau, byrddau a’r mân bropiau efo nhw! A pham bod yn rhaid disgwyl i’r set orffen troi rhwng bob golygfa cyn bod unrhyw actor yn yngan gair? Fe chwalodd hyn lyfnder yr addasiad yn llwyr.
Dwi’n gobeithio mai’r diffyg lle ac nid y cyfarwyddo oedd yn gyfrifol am stiff rwydd yr actio a’r symud drwyddi-draw. Roedd Harri Vaughan (Carwyn Jones) yn fwy tebyg i filwr plwm a’i freichiau’n sownd wrth ei ochor na’r Harri heini, annwyl a charismataidd. Yn anffodus, er cystal ymdrech Dyfan Roberts i bortreadu urddas Edward Vaughan, roedd osgo ei gorff a’i siaced oedd yn hongian oddi ar ei ysgwyddau yn cyfleu mwy o was y fferm na’r penteulu. Yr unig beth gwyllt am Gwylan (Lisa Jên Brown) oedd ei lipstig coch a’i sgidiau swnllyd oedd yn ei chaethiwo yn hytrach na’i gollwng yn rhydd. Di-liw a disylw oedd yr Almaenwr Karl (Owen Arwyn) a doedd Betsan Llwyd ddim digon ‘hen’ i fod yn fam. Ynghanol yr anobaith, fe gafwyd rhai cameos llwyddianus, a hynny gan y mân gymeriadau. Pan oedd y set yn caniatáu iddi symud, roedd Fflur Medi Owen yn hynod o drawiadol a deiniadol fel Greta Vaughan; roedd portread cynnil Iola Hughes o Marged Morris hefyd yn effeithiol iawn, a gresyn na chawsom ein cyflwyno i’r cymeriad llawer ynghynt yn y stori, gan mai hi sy’n ennill llaw Harri ar ddiwedd y dydd. Actor arall oedd â phresenoldeb llwyfan amlwg oedd Simon Watts oedd yn portreadu’r myfyriwr o’r De, Gwdig John oedd yn cyd-oesi â Harri yn y Coleg ym Mangor. Roedd gofyn i Simon hefyd gymeriadu’r cynghorydd Aerwennydd Francis - cymeriad a newidiodd ei gymeriad yn llwyr rhwng bod yn geidwad y siop a’i anerchiad graenus fel cynghorydd!
Roedd y dyblu yma gan actorion hefyd yn ychwanegu at y dryswch. Un funud roedd Bethan Wyn Hughes a Iola Hughes yn gymeriadau amlwg yn Nyffryn Aerwen, ac yna’n syth i fod yn fyfyrwyr ym Mangor! Oedd angen cymaint o ecstras yng ngolygfeydd Bangor? Oedd angen y ddawns wirion a’r gosod posteri?
Does 'na'm dwywaith y bydd y cynhyrchiad yma yn llenwi Theatrau Cymru, gyda’r tocynnau eisioes wedi’i gwerthu i gyd ym Mangor ac Aberystwyth. Gresyn mai campwaith llenyddol Islwyn Ffowc Elis fydd yn dennu ac yn plesio yn hytrach na gweledigaeth y cyfarwyddwr fyddai wedi medru cynnig cynhyrchiad beiddgar, heriol, theatrig neu gofiadwy gan ein Theatr Genedlaethol. Mae un cwestiwn yn aros. Wedi tair blynedd o siom, pam bod Cefin dal wrth y llyw?
No comments:
Post a Comment