Total Pageviews

Friday 11 August 2006

'Halen yn y Gwaed' a 'Wrth Aros Godot'


Y CYMRO - 11/8/06

‘Am wythnos nid yw’n nosi’ - geiriau’r Prifardd Myrddin ap Dafydd wrth groesawu’r Steddfod i Ddyffryn Conwy nôl ym 1989, a geiriau sy’n berthnasol iawn i bob wythnos eisteddfodol yma’n Nghymru. Digon o ddigwydd i’n diddanu ni ddydd a nos. Ymunais innau'r wythnos hon â’r miloedd a ddaeth i droedio’r wyneb lleuad o faes o gwmpas y pafiliwn pinc yng Nghwm Tawe! Rhuthro i lawr bnawn Sadwrn diwethaf er mwyn cael gweld Pasiant y Plant o dan y teitl priodol ‘Halen yn y Gwaed’. Yn wahanol iawn i’r gyfres deledu o’r un enw a welwyd ar S4C rhai blynyddoedd yn ôl, mynd â ni i ganol cyffro'r Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wnaeth y sioe. Hanes Morris, bachgen ifanc sy’n breuddwydio am gael bod yn gapten llong yw craidd y stori, ac mae’r freuddwyd yn dod yn wir wedi iddo guddio ar long ei dad Richard Lewis, sy’n paratoi i hwylio am y Cape Horn.

Cafwyd perl o berfformiad gan Samuel Davies fel Morris, ac roedd ei wylio yn actio ac yn canu yn werth y daith ynddo’i hun. Seren i’r dyfodol yn amlwg. Mae’r un peth yn wir am Kate Harwood, oedd yn actio Richard Lewis, tad Morris. Na, tydwi ddim yn drysu - merch oedd yn portreadu’r tad!. Dwi’n siŵr bod yna resymau dilys iawn y tu ôl i’r castio yma - prinder bechgyn efallai, ond doeddwn i ddim yn gyffyrddus â’r peth, yn enwedig gan fod cân i’w ganu rhwng y tad a’r mab - doedd y llais soprano ddim yn gweddu!!!

Theatr Na Nog oedd yn gyfrifol am lwyfannu’r sioe, a hynny o dan gyfarwyddyd Geinor Styles. Cafwyd caneuon canadwy a chofiadwy gan Dyfan Jones a Tudur Dylan, a set effeithiol unwaith yn rhagor gan Sean Crowley. Hoffwn i fod wedi gweld hanner awr yn fwy o sioe, gan fod y cyfan ar ben mewn cwta awr fer, ond roedd yr hyn a welis i yn plesio, ac yn brawf teilwng o dalent ifanc y Cwm.

O’r Pafiliwn i Babell y Theatrau ar gyfer cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol ‘Wrth Aros Beckett’. Rhyw damaid i aros pryd fel petai yw’r sioe yma, cyn i’r cwmni fynd â’r ddrama ‘Diweddgan’ ar daith yn yr Hydref, i nodi dathlu canmlwyddiant geni’r dramodydd Samuel Beckett. Cyflwyniad a gawsom (nid drama fel y dylem ei gael!) a hynny yn gyfuniad o olygfeydd gan ddramodwyr o Gymru sydd wedi cael eu dylanwadu gan waith Beckett - dramodwyr fel Wil Sam, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams. Cawsom hefyd ein cyflwyno i ddwy ddrama fer o waith Beckett wedi’u cyfieithu gan yr Athro Gwyn Thomas.

Tydwi ddim yn ffan o Beckett, ‘rioed wedi bod, ac yn sicr ddim o gael fy syrffedu gan y cyflwyniad yma! Roedd ymgais Jonathan Nefydd a Carwyn Jones i gyflwyno golygfeydd o waith Aled a Gwenlyn yn fy atgoffa o weithdai myfyrwyr yn y coleg. Golygfeydd dwi wedi’i gweld ganwaith o’r blaen mewn eisteddfodau a gwyliau dramâu fel ei gilydd. Wedyn, Valmai Jones a Christine Pritchard yn cyflwyno ‘Sŵn Traed’ ac yn cwffio yn erbyn sŵn miwsig pop cyfoes ar y maes. Sylwais fod sawl un yn y gynulleidfa yn cysgu erbyn hynny, a does ryfedd wir rhwng y gwres a’r deunydd syrffedus! Unig ddiléit y cynhyrchiad oedd y ddrama fer fer ‘Dod a Mynd’ gyda Lis Miles yn ymuno â’r ddwy uchod. Cameos arbennig iawn dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Fel arall, fasa’n well gen i fod wedi gweld cynhyrchiad cyfa o ‘Bobi a Sami’ gan Wil Sam neu ‘Wal’ gan Aled. Siom arall o’r stabl Genedlaethol, a rhagflas sur o’u cynhyrchiad nesa…

No comments: