Monday, 12 May 2014

Wythnos yn hanes y Ddrama yng Nghymru

(erthygl a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru)


Ynghanol y calendr o ganmlwyddiannau eleni, mae un wythnos bwysig iawn yn hanes y Ddrama yng Nghymru yn ogystal. Y diweddar Athro annwyl Hywel Teifi Edwards, biau’r clod am ei gofnodi yn wreiddiol, a hynny mewn darlith arbennig ym 1982. 11-16 o Fai 1914 oedd yr union wythnos, a llwyfan y Theatr Newydd yng Nghaerdydd oedd y lleoliad, ble, yn ôl HTE, ‘…enillwyd brwydr…a oedd i sicrhau concwest erbyn diwedd y degawd’.
                 
‘O ganlyniad, derbyniwyd ‘y ddrama newydd’, Cymraeg a Chymreig, fel cyfrwng celfyddydol o a oedd i harddu a difrifoli bywyd y genedl trwy roi iddi olwg onestach ar ei chyflwr a dyfnach amgyffred o’i hangen. Daethpwyd i synio am y ddrama fel grym ysbrydol adnewyddol a’r theatr, waeth pa mor amrwd ei hadnoddau, fel meddygfa ar gyfer trin briwiau diwylliant gwlad’

Hawdd gweld, rhwng 1910-20, bod y Cymry wedi mynd ‘…i ryfel dros y ddrama yng Nghymru’, a pha ryfedd, yn sgil y pwysau mawr a fu yn erbyn y fath ‘adloniant’ ddiwedd y ganrif flaenorol.  Ac nid dim ond ‘y ddrama’, fel y cyfeiria Urien Wiliam yn ei ragymadrodd i’r ddarlith, ‘…yn erbyn pob ‘oferedd’ fel darllen nofel, chwarae pêl-droed, mynychu tafarndai, a – gwaethaf oll – mynychu’r “chwareudy”, chwedl Y Faner ym 1896.’

Wedi clep y drws gan Nora yn ‘Tŷ Dol’, daeth hyder yn sgil Ibsen, drwy ddadlennu twyll a rhagrith y Norwyaid a gyffrôdd y theatr Ewropeaidd, yn y cyfnod yma.  Roedd effaith y glec i’w glywed yn Lloegr yn ogystal, gan George Bernard Shaw rhwng 1904-7, yn natblygiad theatr y Royal Court, dan reolaeth Harley Granville-Barker a J.E Vedrenne ac yn Iwerddon, gyda chyrhaeddiad y ‘The Playboy of the Western World’.

Erbyn 1914, roedd crych y cynnwrf wedi cyrraedd Cymru.  Ers marw Twm o’r Nant ym 1810, prin iawn oedd y ‘dramâu’ Cymraeg, ar wahan i ‘eclairs theatrig’ Beriah Gwynfe Evans a’i ymdrech ‘i Shakespeareiddio darnau o hanes Cymru.  Gyda ‘Beddau’r Proffwydi’, W J Gruffydd yn 1913, y cafwyd ‘drama Gymraeg a sawrai’n gryf’ o ethos Ibsen, yn ôl HTE.  Yn ei eiriau ei hun, ‘something had to be written which could be produced by actors entirely untrained in acting, for an audience entirely untrained in listening’.  Cafwyd perfformiadau ohoni yn Theatr Newydd, Caerdydd ym mis Mawrth 1913, a dyma ‘gychwyn di-droi’n-ôl i’r ‘ddrama newydd’’, yn ôl Hywel Teifi.

’Roedd drama Gymraeg wedi mynd i fewn trwy ddrysau theatr broffesiynol heb ofn i neb ei gweld ac ar lwyfan y theatr honno wedi ceisio dinoethi rhagrith ‘yn y mannau cysegredicaf’ heb boeni am na gwg na chas neb’.

Thomas Evelyn Scott-Ellis (hawlfraint East Ayrshire Council) 

Rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a sawl Gŵyl Ddrama leol, fe gydiodd y fflam, gan danio dychymyg y Cymry, ym mhŵer a dylanwad y Theatr.  Gyda chymorth pellach gan ddau ŵr nodedig – Capten Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl) ‘pasiant o ddyn o Ddyffryn Clwyd’ yn ôl HTE,  a Thomas Evelyn Scott-Ellis, yr wythfed Farwn Howard de Walden, oedd yn graig o arian, ac a gafodd ei ddylanwadu’n fawr gan Owen Rhoscomyl.  Daeth i fyw i Gastell y Waun ym 1912, ac yno y bu tan ei farw ym 1946.  Yn ogystal â chynnig gwobr nawdd o £100 (gwerth bron i  £10,000 i ni heddiw) am ddrama, Gymraeg neu Saesneg yn ymwneud â bywyd Cymru yn 1912, roedd gan de Walden hefyd fryd ar sefydlu theatr broffeisynol symudol, fel y datgelwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, yn yr un flwyddyn.

Capten Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl)
Drama hir J.O Francis ‘Change’ a ddaeth i’r brig, a’r flwyddyn ganlynol rhannwyd y wobr rhwng D T Davies am ei ddramâu ‘Ephraim Harris’, ‘Y Dieithryn’ a ‘Ble Ma Fa?’ ac ‘Ar y Groesffordd’ o waith R.G.Berry o Lanrwst. Y dramâu hyn, ynghyd â ‘Pont Orewyn’, drama un act Saesneg o waith o eiddo de Walden ei hun, a ‘The Poacher’ gan J.O.Francis a lwyfannwyd gan y Cwmni Cenedlaethol, yn yr ŵyl yng Nghaerdydd ym Mai 1914.

‘Gweld cyfle i sianelu egnïon a fuasai’n hir grynhoi o blaid y ddrama’ wnaeth de Walden a Rhoscomyl, yn ôl Hywel Teifi, ‘…ni fuasai arian de Walden wedi creu Gŵyl Ddrama 1914 onibai fod doniau Francis, Davies a Berry…eisioes ar waith’,  ychwanegodd.  Prin tair wythnos gafodd Ted Hopkins, y cynhyrchydd o Ferthyr Tudfil i lwyfannu’r chwe drama – tair Cymraeg a thair Saesneg, gan ymarfer y cwbl mewn swyddfa yn adeilad y ‘Principality’.

Daeth 600 o wahoddedigion i Neuadd y Ddinas i lansio’r ŵyl, ond digon tenau oedd y gynulleidfaoedd yn ystod y ddwy noson gynta, er bod Hywel Teifi yn amcangyfrif bod tua 5,000 wedi mynychu’r ‘New Theatre’ cyn diwedd yr wythnos.  Yn eu plith, roedd y ‘dilledydd tra chyfoethog John Lewis’ o ‘Oxford Street,’ Llundain, (a ddaeth i gymodi â de Walden wedi sgarmes yn y llysoedd ym 1911) ond a brynodd y tocynnau sbâr i’w dosbarthu i blant ysgol a thlodion Caerdydd.  Prynodd James Howell hefyd, gant o docynnau i’w weithwyr, ar gyfer y pnawn Mercher (pan oedd y siopau’n cau’n gynnar) a gwelwyd Augustus John a Joseph Holbrooke, y Parch John Williams, Brynsiencyn ynghyd â’r dewin Ganghellor, David Lloyd George yn rhan o gynulleidfa’r ŵyl. Ychwanegwyd ar y cyffro gan brotesiadau’r ‘suffragettes’ a ddaeth ‘i edliw i Lloyd George ei ddiystyrwch’.

O Gaerdydd, aeth Cwmni de Walden ar daith i Ferthyr, Llanelli, Abertawe, Aberystwyth a Llandrindod ac onibai am y Rhyfel byddent wedi teithio o Gaerfyrddin i fyny’r arfordir i Fôn, croesi i Gaer, dilyn y Clawdd yn ôl a gorffen yr antur fawr yn Sir Benfro.’

Roedd y fflam wirioneddol wedi cydio, a chafwyd geiriau o gefnogaeth gan George Bernard Shaw yn y ‘South Wales Daily Post’ ym mis Mehefin 1914 : ‘Just as the preachers of Wales spend much of their time in telling the Welsh that they are going to hell, so the Welsh writers of comedy will have to console a good many of them by demonstrating that they are not worth wasting good coal on.’ Dim ond y Cymry fedrai ddweud y gwir plaen am eu hunain, a gresyn na chawsom ddweud tebyg mewn dramâu y dyddiau hyn.

Parhaodd y dadlau, ond parhau hefyd wnaeth yr hyder. Yn ôl Hywel Teifi, ‘Yn Eisteddfod Genedlaethol  Bangor, 1915, rhoddwyd £25 i Gwmni’r Ddraig Goch, Caernarfon am drechu deunaw o gwmniau eraill yn y gystadleuaeth chwarae drama – y gyntaf o’i math yn hanes y ‘Genedlaethol’’.

‘Rhoes Gŵyl Howard de Walden i selogion y ddrama hyder a phenderfyniad cadarnach na chynt’




Sunday, 4 May 2014

'Raw Material : Llareggub Revistied'

‘Gan ddechrau yn y dechrau’n deg’ ddewisiodd T James Jones, (wedi penbleth hir), yn ei drosiad newydd o Dan y Wenallt, sydd ar fin ei gyhoeddi eleni, a’n bwrw ni'n syth i'r 'noson o wanwyn' ym mhentref chwedlonol Dylan Thomas, Llareggub. Tra'n ei gyfweld yng Nghei Newydd, am ei drosiad 'gwell na'r gwreiddiol' rai blynyddoedd yn ôl,  cyfaddefodd wrthyf mai yno y seiliwyd y ddrama i leisiau unigryw, sy'n bla dros ein gwlad, ar hyn o bryd. Yno hefyd, oherwydd y strydoedd cul sy'n suo tua'r môr a'r hafan o gei cysurus, y lleolwyd yr addasiad ffilm enwog gyda Richard Burton a Ryan Davies yn serennu.


Sioc felly oedd clywed National Theatre Wales, yn cyhoeddi'n dalog mai yn Nhalacharn y seiliwyd y cyfan, yn eu digwyddiad diweddara, 'Raw Material - Llareggub Revisited'. Yr artist Marc Rees a'r sgriptiwr (ynghyd â bod yn rheolwr Gwesty'r Browns yn y pentref) Jon Treganna, yw 'awduron' y gwaith, er fy mod i dal i geisio canfod stori a 'drama' heb sôn am theatr, yn y cyfan. Falle mai trigolion Talacharn a roddodd ysbrydoliaeth i’r cymeriadau gwreiddiol, ond doedd fawr o ysbrydoliaeth yn yr hyn a welais i ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni’r bardd.



Wedi hunlle o siwrne i gyrraedd, erbyn unarddeg ar fore Sadwrn (yr unig ddiwrnod o'r tri dewis oedd yn ymarferol o Lundain, ar drafnidiaeth gyhoeddus rhwng y Sul a Gŵyl y Banc), roedd gen i ddwy awr segur, wedi gorfod dal y bws o Gaerfyrddin am 0825 y bore. Cerdded ar fin y traeth, a chodi sgwrs gyda'r bore godwyr lleol, a'u cŵn, sawl un yn rhan o'r sioe, medde nhw. 'Fuo ni wrthi am dri mis' medde un wraig, gan gyhoeddi'n dalog ei bod hi a'i gŵr yn ‘gasglwyr cregyn gleision’, yn y sioe. 'Mae 'na lot o newid wedi bod', ychwanegodd, 'a tyda ni ddim yn gneud be oedd fod yn wreiddiol, am nad oedd y cwmni wedi derbyn caniatâd i ddefnyddio'r ddrama', medda hi'n ddiniwed. Dyma ddechrau da, meddwn innau, gan edrych ymlaen at weld y ddau, mewn cymeriad, yn hwyrach yn y dydd.




Ym mhatrwm arferol y sioeau promenâd yma, cawsom ein hebrwng i wylio ffilm ddeg munud, ar sawl sgrin teledu, a hynny roddodd gychwyn i'r digwyddiad ddwy awr a hanner, bregus a ffwndrus hon. Wedi prolog byr am Dalacharn ar ffilm, cawsom ein cyflwyno i'r postmon lleol a ddaeth a pharsel i'r prif gymeriad 'Voyce' (Russell Gomer) oedd yn byw yn y tŷ/sied gerllaw, o fewn muriau'r amgueddfa barhaol. Sgathru ar ei feic wnaeth y dieithryn blêr, a'i farf llaes a'i gap gwlân, a mwclis o allweddi amrywiol yn canu'n swnllyd wrth symud. Yn ôl a ni i'r ffilm, eto, wrth wylio taith ar y beic, drwy strydoedd y pentref, a chael blas o rai o'r cymeriadau, yr oeddwn wedi gobeithio'u gweld, o fewn yr hyn oedd i ddod.





O'r cwt cyntaf i'r ail gwt, drwy strydoedd cul y pentref,  ar gais y cymeriad 'Roy Ebsworth-Williams' (Charles Dale), yr ail actor profiadol oedd yn rhan o'r digwyddiad. Wedi cyrraedd, cael gair o groeso ganddo a'i gwmni teithio dychmygol 'Thomas Centenary Tours' a'u fflyd o 'super elite coaches'. Wrth annerch y dyrfa, derbyniodd sawl neges destun ar ei ffôn symudol, (dyfais theatrig hen ffasiwn a gwan iawn) oedd fod i awgrymu bod y cymeriad yn cael perthynas cudd, ac yn methu ein tywys ymhellach, am fod ganddo ddêt. Rhoddwyd map yn llaw bawb oedd yno, a'n cynghori i ail-gwrdd o flaen y neuadd goffa, ymhen dwy awr. Wedi canu gweddi Eli Jenkins, gan rai o gasglwyr cregyn y pentref, allan â ni, i ryddid ein dychymyg. Oherwydd y niferoedd helaeth (rhan fwyaf ohonynt yn gyfeillion i'r cwmni, neu Gyngor y Celfyddydau - does ryfedd fod y tocynnau cyhoeddus yn brin!!) methais â gweld y lleoliadau cyntaf, gan ddilyn cyngor y dieithryn i grwydro fel ag y mynnem, gan ddilyn y map.

Ymlaen â mi am y môr, a dod i'r orsaf fws, ble y cyrhaeddais ynghynt. Yno roedd mur o ffotograffau amrywiol o hen gartref, gwag a blêr. Yn cadw llygad ar yr arddangosfa roedd gŵr lleol, a roddodd wybod imi mai yn y cyflwr yma, y daethpwyd o hyd i'r tŷ. Ni allodd egluro imi pwy oedd yn byw yn y tŷ na ymhle oedd ei leoliad, ac felly ymlaen aeth fy nhaith, fawr callach. Sied arall oedd y lleoliad nesaf, a bwi yn crogi a siglo nôl a blaen o flaen sgrin enfawr yn dangos ffilm o adar yn hedfan. 'Time passes' meddyliais oedd y bwriad celfyddydol, heb weld arlliw o ddrama na stori. Ynghrog ar y mur oedd amlen oren gyda’r llythrennau ‘T.E.N’ arno a gofynnais i geidwad y bwi os allwn i ei agor, gan ddisgwyl cliw, cyngor neu gerdd. 'Croeso iti", meddai'r gŵr bonheddig, 'ond cwbl weli di, ydi copi o'n trwydded perfformio dros dro!', oedd ei ateb diffuant. Ymlaen â mi i'r sied nesaf, a chlywed trac sain o Bob Dylan yn canu 'shelter from the storm' wrth wylio hwyl wen yn cael ei chwythu gan ffan. Dim drama, na stori, na chymeriad byw, eto.



Rhag eich diflasu, soniai ddim rhagor am gynnwys gweddill o'r siediau, dim ond datgan nad oedd yr un undyn byw, oddi mewn iddynt. Odisa'r castell hynafol, roedd chwe sied ynghlwm o dan yr enw 'Corrugation St', a thair tylluan fyw ar dennyn, ar draeth o gregyn gleision, yn dystion mud ac ofnus i fontage o ddelweddau benthyg o raglen llawn enwogion y BBC.


Wedi dod ynghyd i flaen y Neuadd Goffa, heb fedru cwblhau’r daith yn yr amser a roddwyd, cawsom ein hail gyflwyno i’r Voyce, oedd yn cerdded o gylch yn neuadd, wrth aros i weddill y dyrfa gyrraedd. Erbyn hyn, roedd yntau, fel ninnau yn edrych ar goll yn llwyr, fel un o gymeriadau drama enwog Pirandello yn chwilio am awdur neu stori.  Wedi oedi hir, cyrhaeddodd cerbyd gan dynnu sied arall o’i ôl, gyda’r geiriau ‘Fish and Chips’ yn fflachio mewn neon bob ochor i’r ffenest fechan.  Wedi derbyn ei bryd, eisteddodd Voyce ar fainc bren gerllaw, ac ail ymddangosodd ein tywysydd hefyd, oedd, erbyn hyn, yn feddw gaib, dan ganu cân arall, gan un o gymeriadau pentref chwedlonol ‘Dillon’ Thomas.  Ddeallais i ddim beth oedd y cynnwrf na’r cysylltiad rhwng y ddau, ond fe gafodd y tywysydd ei hebrwng oddi yno, heb reswm pellach am fodolaeth y cymeriad. Dyfais theatrig, wan a dibwys arall, a fethodd yn llwyr.



Wedi cludo’r Voyce llwglyd o gylch y Neuadd Goffa gan bedwar gŵr lleol, (oedd yn cynnwys yr artist Marc Rees gyda llaw) fe ail ymddangosodd gyda mwgwd papur mache o ‘Dillon’ Thomas ar ei ben, cyn diflannu unwaith eto am y trydydd tro, a’r gwŷr lleol erbyn hyn, yn cludo arch bren, a’i osod oddi mewn i’r sied ‘pysgod a sglodion’ a’i gludo ymaith i’w angladd, i gyfeiliant gweddi Eli Jenkins (unwaith eto!) gan y trigolion lleol.  Cawsom ein harwain i ddilyn yr orymdaith angladdol, a minnau yn mawr obeithio cael ein tywys at lan bedd y bardd, yn y fynwent gerllaw. Ond siom eto. Yn ôl i’r cwt sinc, a’r dyrfa niferus erbyn hyn wedi’i stwffio fel sardîns i dun, er mwyn gwylio delweddau ar ffilm (unwaith eto) o angladd y bardd, cyn i drigolion y pentref gael eu cyfle, gwta ddeng munud, i adrodd (a hynny gyda chopïau o’r sgript yn eu dwylo) detholiad o’r ddrama i leisiau gwreiddiol. Roedd y cyfan yn edrych yn embaras o amatur, ac yn gneud jôc o’r ‘Laugharne Players’ sydd wedi bod yn llwyfannu’r ddrama yn flynyddol ers 1958 . Cywilydd enfawr ar Marc a Jon, ac i’r Theatr Genedlaethol am ganiatáu'r fath olygfa.


Wrth ymadael, roedd bara a chocos yn cael ei weini ar fwrdd gerllaw’r fynedfa, a hyd yn oed taswn i wirioneddol wedi bod isho blasu’r cynnyrch (lleol?), roedd yna lawer gormod ohonom imi fedru cyrraedd y bwrdd, heb sôn am y bwyd, ac felly mynd yn ôl am y bws, yn fwy digalon nag erioed, heb ddeall bwriad na diben y ‘digwyddiad’ (celfyddydol?) dybiedig yma.

Gyda brwdfrydedd lleol enfawr, fel y profais ym Mhorth Talbot gyda chynhyrchiad arall o eiddo’r NTW, a misoedd o waith ‘lleol’ yn yr ardal, roeddwn i wedi disgwyl llawer mwy o’r ‘cynhyrchiad theatrig’ yma.  Sawl tro yn ystod y daith, sylwais ar staff y Theatr Genedlaethol, gan gynnwys yr arweinydd artistig yn arwain y beirniaid theatr Genedlaethol, gan gynnwys Susannah Clapp o’r Observer, a Karen Price o’r Western Mail (oedd ddigon bodlon i deithio i Dalacharn ar gyfer y digwyddiad yma, ond a ddewisodd beidio mynychu’r WYTHNOS o ŵyl theatr Agor Drysau yn Aberystwyth!).  Roedd ei ‘hadolygiad’ o’r digwyddiad ar-lein o fewn awr i ddiwedd y sioe, yn canmol y cwmni, fel arfer, heb sôn o gwbl am wendidau amlwg y cyfan.  Hollol di duedd, wrth gwrs!



Ar wahân i’r doliau bychan o’r cymeriadau, wedi’u gwau gan un o drigolion y pentref, oedd i’w gweld hwnt ac yma o gylch y daith, doedd dim gwerth celfyddydol nac yn sicr theatrig, i’r digwyddiad costus, siomedig hwn. Gyda’r fath leoliad bendigedig, brwdfrydedd lleol, corneli cudd dramatig (fyddai wedi medru cynnal cameos bendigedig o’r cymeriadau presennol – fel y cigydd a welsom yn tasgu’r gwaed ar y lôn yn y ffilm), byddai’r cwmni wedi medru creu digwyddiad DRAMATIG hynod o gofiadwy, yn hytrach na’r hunan gelfyddyd nawddoglyd siomedig a gawsom.