Monday, 12 May 2014

Wythnos yn hanes y Ddrama yng Nghymru

(erthygl a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru)


Ynghanol y calendr o ganmlwyddiannau eleni, mae un wythnos bwysig iawn yn hanes y Ddrama yng Nghymru yn ogystal. Y diweddar Athro annwyl Hywel Teifi Edwards, biau’r clod am ei gofnodi yn wreiddiol, a hynny mewn darlith arbennig ym 1982. 11-16 o Fai 1914 oedd yr union wythnos, a llwyfan y Theatr Newydd yng Nghaerdydd oedd y lleoliad, ble, yn ôl HTE, ‘…enillwyd brwydr…a oedd i sicrhau concwest erbyn diwedd y degawd’.
                 
‘O ganlyniad, derbyniwyd ‘y ddrama newydd’, Cymraeg a Chymreig, fel cyfrwng celfyddydol o a oedd i harddu a difrifoli bywyd y genedl trwy roi iddi olwg onestach ar ei chyflwr a dyfnach amgyffred o’i hangen. Daethpwyd i synio am y ddrama fel grym ysbrydol adnewyddol a’r theatr, waeth pa mor amrwd ei hadnoddau, fel meddygfa ar gyfer trin briwiau diwylliant gwlad’

Hawdd gweld, rhwng 1910-20, bod y Cymry wedi mynd ‘…i ryfel dros y ddrama yng Nghymru’, a pha ryfedd, yn sgil y pwysau mawr a fu yn erbyn y fath ‘adloniant’ ddiwedd y ganrif flaenorol.  Ac nid dim ond ‘y ddrama’, fel y cyfeiria Urien Wiliam yn ei ragymadrodd i’r ddarlith, ‘…yn erbyn pob ‘oferedd’ fel darllen nofel, chwarae pêl-droed, mynychu tafarndai, a – gwaethaf oll – mynychu’r “chwareudy”, chwedl Y Faner ym 1896.’

Wedi clep y drws gan Nora yn ‘Tŷ Dol’, daeth hyder yn sgil Ibsen, drwy ddadlennu twyll a rhagrith y Norwyaid a gyffrôdd y theatr Ewropeaidd, yn y cyfnod yma.  Roedd effaith y glec i’w glywed yn Lloegr yn ogystal, gan George Bernard Shaw rhwng 1904-7, yn natblygiad theatr y Royal Court, dan reolaeth Harley Granville-Barker a J.E Vedrenne ac yn Iwerddon, gyda chyrhaeddiad y ‘The Playboy of the Western World’.

Erbyn 1914, roedd crych y cynnwrf wedi cyrraedd Cymru.  Ers marw Twm o’r Nant ym 1810, prin iawn oedd y ‘dramâu’ Cymraeg, ar wahan i ‘eclairs theatrig’ Beriah Gwynfe Evans a’i ymdrech ‘i Shakespeareiddio darnau o hanes Cymru.  Gyda ‘Beddau’r Proffwydi’, W J Gruffydd yn 1913, y cafwyd ‘drama Gymraeg a sawrai’n gryf’ o ethos Ibsen, yn ôl HTE.  Yn ei eiriau ei hun, ‘something had to be written which could be produced by actors entirely untrained in acting, for an audience entirely untrained in listening’.  Cafwyd perfformiadau ohoni yn Theatr Newydd, Caerdydd ym mis Mawrth 1913, a dyma ‘gychwyn di-droi’n-ôl i’r ‘ddrama newydd’’, yn ôl Hywel Teifi.

’Roedd drama Gymraeg wedi mynd i fewn trwy ddrysau theatr broffesiynol heb ofn i neb ei gweld ac ar lwyfan y theatr honno wedi ceisio dinoethi rhagrith ‘yn y mannau cysegredicaf’ heb boeni am na gwg na chas neb’.

Thomas Evelyn Scott-Ellis (hawlfraint East Ayrshire Council) 

Rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a sawl Gŵyl Ddrama leol, fe gydiodd y fflam, gan danio dychymyg y Cymry, ym mhŵer a dylanwad y Theatr.  Gyda chymorth pellach gan ddau ŵr nodedig – Capten Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl) ‘pasiant o ddyn o Ddyffryn Clwyd’ yn ôl HTE,  a Thomas Evelyn Scott-Ellis, yr wythfed Farwn Howard de Walden, oedd yn graig o arian, ac a gafodd ei ddylanwadu’n fawr gan Owen Rhoscomyl.  Daeth i fyw i Gastell y Waun ym 1912, ac yno y bu tan ei farw ym 1946.  Yn ogystal â chynnig gwobr nawdd o £100 (gwerth bron i  £10,000 i ni heddiw) am ddrama, Gymraeg neu Saesneg yn ymwneud â bywyd Cymru yn 1912, roedd gan de Walden hefyd fryd ar sefydlu theatr broffeisynol symudol, fel y datgelwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, yn yr un flwyddyn.

Capten Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl)
Drama hir J.O Francis ‘Change’ a ddaeth i’r brig, a’r flwyddyn ganlynol rhannwyd y wobr rhwng D T Davies am ei ddramâu ‘Ephraim Harris’, ‘Y Dieithryn’ a ‘Ble Ma Fa?’ ac ‘Ar y Groesffordd’ o waith R.G.Berry o Lanrwst. Y dramâu hyn, ynghyd â ‘Pont Orewyn’, drama un act Saesneg o waith o eiddo de Walden ei hun, a ‘The Poacher’ gan J.O.Francis a lwyfannwyd gan y Cwmni Cenedlaethol, yn yr ŵyl yng Nghaerdydd ym Mai 1914.

‘Gweld cyfle i sianelu egnïon a fuasai’n hir grynhoi o blaid y ddrama’ wnaeth de Walden a Rhoscomyl, yn ôl Hywel Teifi, ‘…ni fuasai arian de Walden wedi creu Gŵyl Ddrama 1914 onibai fod doniau Francis, Davies a Berry…eisioes ar waith’,  ychwanegodd.  Prin tair wythnos gafodd Ted Hopkins, y cynhyrchydd o Ferthyr Tudfil i lwyfannu’r chwe drama – tair Cymraeg a thair Saesneg, gan ymarfer y cwbl mewn swyddfa yn adeilad y ‘Principality’.

Daeth 600 o wahoddedigion i Neuadd y Ddinas i lansio’r ŵyl, ond digon tenau oedd y gynulleidfaoedd yn ystod y ddwy noson gynta, er bod Hywel Teifi yn amcangyfrif bod tua 5,000 wedi mynychu’r ‘New Theatre’ cyn diwedd yr wythnos.  Yn eu plith, roedd y ‘dilledydd tra chyfoethog John Lewis’ o ‘Oxford Street,’ Llundain, (a ddaeth i gymodi â de Walden wedi sgarmes yn y llysoedd ym 1911) ond a brynodd y tocynnau sbâr i’w dosbarthu i blant ysgol a thlodion Caerdydd.  Prynodd James Howell hefyd, gant o docynnau i’w weithwyr, ar gyfer y pnawn Mercher (pan oedd y siopau’n cau’n gynnar) a gwelwyd Augustus John a Joseph Holbrooke, y Parch John Williams, Brynsiencyn ynghyd â’r dewin Ganghellor, David Lloyd George yn rhan o gynulleidfa’r ŵyl. Ychwanegwyd ar y cyffro gan brotesiadau’r ‘suffragettes’ a ddaeth ‘i edliw i Lloyd George ei ddiystyrwch’.

O Gaerdydd, aeth Cwmni de Walden ar daith i Ferthyr, Llanelli, Abertawe, Aberystwyth a Llandrindod ac onibai am y Rhyfel byddent wedi teithio o Gaerfyrddin i fyny’r arfordir i Fôn, croesi i Gaer, dilyn y Clawdd yn ôl a gorffen yr antur fawr yn Sir Benfro.’

Roedd y fflam wirioneddol wedi cydio, a chafwyd geiriau o gefnogaeth gan George Bernard Shaw yn y ‘South Wales Daily Post’ ym mis Mehefin 1914 : ‘Just as the preachers of Wales spend much of their time in telling the Welsh that they are going to hell, so the Welsh writers of comedy will have to console a good many of them by demonstrating that they are not worth wasting good coal on.’ Dim ond y Cymry fedrai ddweud y gwir plaen am eu hunain, a gresyn na chawsom ddweud tebyg mewn dramâu y dyddiau hyn.

Parhaodd y dadlau, ond parhau hefyd wnaeth yr hyder. Yn ôl Hywel Teifi, ‘Yn Eisteddfod Genedlaethol  Bangor, 1915, rhoddwyd £25 i Gwmni’r Ddraig Goch, Caernarfon am drechu deunaw o gwmniau eraill yn y gystadleuaeth chwarae drama – y gyntaf o’i math yn hanes y ‘Genedlaethol’’.

‘Rhoes Gŵyl Howard de Walden i selogion y ddrama hyder a phenderfyniad cadarnach na chynt’




No comments:

Post a Comment