Friday, 2 March 2012

'Ghost - The Musical'




Y Cymro – 02/03/12

Bu imi osgoi mynd i weld y ddrama gerdd ‘Ghost - The Musical’ y llynedd, am sawl rheswm. Yn gyntaf, clywais fod y llwyfannu yn ‘torri tir newydd’ o ran y defnydd o oleuo a delweddau symudol, ac yn ail am fod ‘cerddoriaeth’ y sioe, wedi cael ei feirniadu’n hallt gan y cyhoedd a’r beirniaid fel ei gilydd. Felly, roedd yn rhaid aros am reswm da dros fynd, ac yn wir fe ddaeth, yn sgil y newyddion fod y Cymro Mark Evans, yn camu i esgidiau Richard Fleeshman, er mwyn portreadu’r brif ran.

Yn seiliedig ar y ffilm enwog o’r un enw, mae’r ddrama gerdd yn ceisio efelychu llwyddiant y gwreiddiol, a wnaed mor boblogaidd yn sgil perfformiadau trydanol Demi Moore fel y wraig weddw ifanc sy’n ceisio ymdopi â llofruddiaeth ei gŵr deniadol Patrick Swayze, sy’n methu gorffwys ‘rhwng y ddau fyd’ ac yn ceisio cymorth y gweledydd Whoopi Goldberg, er mwyn cyfathrebu â’i wraig.

Mae’n ddeunydd delicet iawn, yn enwedig i unrhyw un sydd wedi profi colled agos. Mae iaith cydymdeimlo yn un cymhleth iawn, ac weithiau does dim gwerth o gwbl i eiriau, gan fod y presenoldeb yn ddigon. Mae’n faes difyr, ac yn un y treuliais i lawer o amser yn ei archwilio, cyn cipio Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn Islwyn am y ddrama ‘Ai am fod haul yn machlud?’, sy’n delio efo’r un thema.

Er mwyn i’r cyfan lwyddo, mae’n rhaid ichi dderbyn a chredu’r berthynas gariadus danbaid rhwng y ddau brif gymeriad, a dyma ble y disgynnodd y cyfan imi, cyn cychwyn, gyda pherfformiadau cardboard, un dimensiwn y ddau gantor newydd ‘Sam’ (Mark Evans) a ‘Molly’ (Siobhan Dillon). Roedd hi’n amlwg fod y ddau yn caru’u hunain yn fwy na’i gilydd o’r cychwyn cyntaf, ac roedd yr hunan ymwybyddiaeth yn gyfoglyd o amlwg. Mae gan y ddau lais canu digon derbyniol, ond roedd eu hactio (a’r dialog) yn boenus o embaras. Tydi’r gallu i ‘berfformio’ un gân, ddim yn ddigon i gynnal llif stori dwy awr a hanner o ddrama gerdd.

Yn weledol, does dim dwywaith fod y sioe yn hynod o ddramatig a theatrig, diolch i gynllun set Rob Howell a gwaith penigamp y cynllunydd delweddau symudol Jon Driscoll sy’n profi’n adnodd gwerthfawr iawn yn sgil ei lwyddiant ar sioeau tebyg i ‘Enron’ a ‘The Wizzard of Oz’. Oherwydd natur y stori, mae’n rhaid wrth driciau llwyfan slic, ac yn wir fe gafwyd sawl un sy’n eich synnu, a’ch gwefreiddio mewn mannau, er bod y dallu amlwg gan y llifoleuadau cyn bob tric yn medru fod yn boen. Roedd y cyfan mor olau a disglair nes y cwympodd un o fy contact lensus yn sgil cael ei ddallu gan y sgriniau symudol!

Ond, er cystal ydi’r wledd weledol, sydd o bosib yn ein dallu’n fwriadol er mwyn cuddio gwendid amlwg y gerddoriaeth a’r sgript, mae’r hyn sy’n cael ei lwyfannu yn denau iawn, gydag ambell i ddawns gan yr ensemble absennol, er mwyn plethu’r cyfan ynghyd. Roedd y stori a’r dihiryn yn amlwg iawn o’r cychwyn, a’r steil yn amlwg wedi cael y flaenoriaeth dros y sylwedd.

Sharon D Clarke sy’n camu i esgidiau profiadol Whoopi fel y gweledydd ‘ffug’‘Oda Mae Brown’, ac er bod ei pherfformiad comediol yn deffro llymder y llwyfan marw, roedd hi lawer rhy dros ben llestri imi, ac yn tueddu i droi’r themâu delicet yma’n ffars pur. Braf oedd gweld y Gymraes Rebecca Trehearn hefyd yn rhan o’r ensemble.

Bydd ffans y ffilm, ac yn sicr ffans y ddau gantor ifanc yn meddwl bod y cyfan yn wych! Fel y sioe erchyll ‘Dirty Dancing’ flynyddoedd ynghynt, bydd y cynnwys a’r elfen weledol yn ddigon i’w dallu rhag y gwir wendidau. Yn anffodus imi, tydi gwedd drwsiadus yn dda i ddim heb dalent a dyfnder sy’n angenrheidiol er mwyn creu theatr gofiadwy ar ei gorau.

Mae ‘Ghost – The Musical’ i’w weld yn y Picadilly Theatre ar hyn o bryd.