Friday, 7 October 2011
'Sweeney Todd'
Y Cymro – 07/10/11
Un o uchafbwyntiau’r Hydref, heb os, fydd cynhyrchiad gŵyl Chichester o ddrama gerdd Sondheim, ‘Sweeney Todd’. Fues i’n edrych ymlaen yn eiddgar iawn am gael gweld y sioe, byth ers clywed ddechrau’r flwyddyn mai’r Cymro Michael Ball fydd yn portreadu un o ddihirod enwoga’r byd, a’i gydymaith o gogydd, prima dona’r peis, Imelda Staunton fel ‘Mrs Lovett’.
Mae’r ddrama gerdd am farbwr sy’n mwynhau mwrdro ei gwsmeriaid ar Stryd Fleet, Llundain, wedi swyno cynulleidfaoedd ers blynyddoedd. Y tro, doniol efallai, yw bod ei gydymaith, Mrs Lovett yn dwyn y cig oddi ar y cyrff, a’u troi i mewn i beis blasus - ‘y peis gorau yn Llundain’ yn ôl y son!
Camp Sondheim, wrth ymdrin â’r stori erchyll hon, yw troi’r ddau lofrudd yn gymeriadau hoffus. Bron na allwch chi gydymdeimlo â Sweeney, sy’n dychwelyd i Lundain wedi cyfnod yn y carchar, er mwyn dial ar y Barnwr ‘Turpin’(John Bowe) a’i gydymaith ‘Beadle Bamford’(Peter Polycarpou) a dreisiodd ei wraig, a dwyn ei unig ferch, ‘Johanna’(Lucy May Barker). Efallai mai cerddoriaeth hudolus Sondheim, a’i alawon lleddf sy’n ennyn ein cydymdeimlad, ond allwch chi’m peidio â chael eich cyffwrdd gan y ddau gymeriad, comig, yma.
Ffuglen yw’r stori wreiddiol, a ymddangosodd fel rhan o’r gyfres y ‘penny dreadful’ yn yr Oes Fictoria, o dan yr enw ‘A String of Pearls’, ond bu cryn ddadlau ers blynyddoedd os yw’r stori yn seiliedig ar farbwr gwir a fu’n byw yn Fleet Street. Yn sicr ddigon, mae teithiau cerdded hyd heddiw, sy’n eich tywys ar oddi ar Stryd Fleet, i lawr y strydoedd llai, tywyll, ac sy’n dangos ichi leoliad ei siop, caffi enwog Mrs Lovett a’r Eglwys ble llosgwyd y cyrff, yn y popty enfawr islaw.
Yr hyn sy’n eich taro am gynhyrchiad Jonathan Kent yn Chichester yw mawredd set Anthony Ward, sy’n fyw o fywyd wrth i’r gynulleidfa gyrraedd eu seddi. Mae’r ddinas dywyll, fudr a brwnt yn brysur o bobol yn sgwrio’r strydoedd, yn cludo sachau, yn ystelcian yn y cysgodion. Yr awgrym, yn yr olygfa gyntaf, yw ein bod yn y wyrcws, a’r agorawd organaidd fawreddog yn cael ei ddal yn ôl, hyd nes i larwm y wyrcws chwythu’i chwiban, sy’n gwahodd y corws o leisiau cryf i ddeffro’n sylw, a’n hwylio’n braf i galon y stori.
Doeddwn i ddim yn adnabod Michael Ball, ar yr olwg gyntaf. Tysteb sicr i’w allu fel actor, ond hefyd clod i’r tîm cynhyrchu am lwyddo i droi'r wyneb cyfarwydd yma’n, ddihiryn o’r cysgodion. Heb os, dyma un o uchafbwyntiau gyrfa Ball fel actor, ac mae ei berfformiad yn drydanol o bwerus a chofiadwy. Yn enwedig felly ar ddiwedd yr Act gyntaf, wrth iddo ymhyfrydu yn ei arfau siafio sy’n disgleirio yn y golau. Disgleirio hefyd wna Imelda Staunton, o’i hymddangosiad trwsgl cyntaf, o du cefn i gownter ei chaffi, seimllyd, wrth geisio temtio Todd gydag un o’i pheis diflas, cyn ei adnabod. Roedd gwylio’r ddau ohonynt yn cyd actio ymysg y ddeuawd orau imi’u gweld ar lwyfan, yn enwedig yn y ddeuawd ‘A little Priest’, sy’n cymharu blas y peis, yn ol cynhwysion galwedigaethau’r cyrff gwahanol. Doniol a direidus iawn.
Serennu hefyd wna James McConville fel y bachgen ifanc ‘Tobias’, sy’n ennill y dydd, ac er ei fod yn llawer mwy ifanc na’r actor yma, mae ei ddiniweidrwydd, a’i ymarweddiad ifanc, yn peri iddo lwyddo. Llai llwyddiannus, yn anffodus yw Lucy May Barker fel y flonden drasig ‘Johanna’, merch Todd, sydd wedi charcharu yng nghartref y Barnwr. Yn anffodus, oherwydd ei nerfau, neu ba reswm bynnag, fe fethodd a tharo’r nodau cywir, dro ar ol tro, a barodd imi wingo mewn ambell i fan, oherwydd discordiau anfwriadol Sondheim!
Roedd gweld y gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd y sioe yn dweud cyfrolau, ac mae 'na dderyn bach wedi rhoi gwybod imi, y bydd hon hefyd, yn dilyn llwybr ‘Singing in the Rain’, ac yn mynd â Sweeney yn ol i strydoedd Llundain, yn fuan iawn.
Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.cft.org.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment