Friday, 21 October 2011

Dyfodol y Theatr Genedlaethol




Y Cymro 21/10/11

Dwi di bod yn amyneddgar iawn hyd yma, ers y newid yn arweinyddiaeth ein Theatr Genedlaethol. Y gobaith mawr ym mhenodiad Arwel Gruffydd y bydd newid, ac arweiniad artistig clir a chyffrous. Ond yn anffodus, dwi heb weld llawer o hynny, sy’n peri gofid imi. Briwsion o’i waddol Shermanaidd a chawl eildwym o ail-deithio fu’r unig gynigion ar y fwydlen hyd yma, ac yna’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf (datganiad na dderbyniais i, gyda llaw, felly diolch i dudalennau’r Cymro am fy hysbysu o’r penderfyniad!) am deithio drama newydd Bethan Marlow yn y Gwanwyn.

Wedi’r saith mlynedd o siom gyda phenodiad Cefin Roberts, mae gwir angen arweinydd enigmatig, fydd yn gallu arwain y cwmni Cenedlaethol Cymraeg i dir uchel iawn; mae angen adennill hyder yn y cwmni a’r creu, a chynnig arweiniad clir, fydd yn cyffroi .

Diog a saff yw ail-deithio dau gynhyrchiad a fu’n llwyddiant blaenorol, felly dwi’n di-ystyrru’r daith ‘Llwyth’ a ‘Deffro’r Gwanwyn’ sy’n cychwyn ail-ymarfer yr wythnos hon, fel ei flwyddyn gyntaf. Siawns na chafodd pawb oedd wirioneddol am weld y ddau gynhyrchiad yma, eu cyfle, y tro cyntaf – mi wnes i’r ymdrech i deithio o Lundain i weld y ddwy, ac yn falch iawn mod i wedi gwneud hynny.

Y peryg o ail-deithio unrhyw lwyddiant, yw ceisio efelychu’r angerdd amrwd ac emosiwn y tro cyntaf, ac yn anffodus imi, wedi gweld ‘Llwyth’ yng Nghaeredin, a hynny am y trydydd tro, methiant oedd hynny. Does dim dwywaith bod y gynulleidfa wedi mwynhau’r ddrama, ac mae’r ffaith fod drama Dafydd James bellach yn cael ei addasu’n ffilm, yn sicr yn brawf o’i allu creadigol. Mae ei ddawn dewinol i ddal ysbryd yr oes bresennol, drwy’r dialog cyfoes a’i ymdriniaeth onest o’i fywyd a’i deimladau yn chwa o awyr iach, a dylem yn sicr fod yn adeiladu ar hynny. Ymlaen sy’n rhaid mynd, nid yn ôl. Comisynnu Dafydd i ddatblygu gweithiau newydd, gan mi wn ei fod yn byrlymu o syniadau diddorol ac mae ganddo ddigonedd i’w ddweud! I’w ffans, gobeithio y byddwch yn cefnogi ei ddrama ddiweddara i’n cwmni Cenedlaethol Saesneg (National Theatre Wales) ‘The Village Social’ sy’n cychwyn ei thaith ddiddorol o gwmpas neuaddau pentrefi ymhob cwr o Gymru'r wythnos hon.

Does gen i ddim amheuaeth y caiff ‘Deffro’r Gwanwyn’ yr un derbyniad gwresog, ond rhaid codi’r pwynt unwaith eto - beth yw diben yr holl ail-deithio? A’i codi arian i’r coffrau? - er, allai ddim a dychmygu bod teithio drama i Gaeredin am bron i bythefnos, yn mynd i ildio unrhyw broffid ariannol! Tydi ail-bolishio’r tlysau ddim am ein tywys yn nes at y lan!

A ninnau bellach yng nghysgod y brawd mawr o gwmni’r National Theatre Wales, sydd wedi swyno a gwefreiddio’u cynulleidfa dros eu blwyddyn gyntaf, gyda rhaglen lawn a chyffrous, rhaid i bethau newid. Felly hefyd gyda’r fwydlen o’u hail-flwyddyn, a gafodd ei gyhoeddi fisoedd yn ôl, ac er nad oedd pob cynhyrchiad wedi’i gastio na’i gadarnhau yn llawn, o leiaf roedd y wybodaeth yno, a’r gobaith a’r disgwyliadau yn ei sgil. Mae’n RHAID i ni’r Cymry godi’n sanau, a dechrau dangos ein bod o ddifrif. Mae hyd yn oed y wefan (www.theatr.com) yn farw o embaras hen ffasiwn a diddychymyg. Does dim cymharu a gwefan yr NTW (www.nationaltheatrewales.org ) sy’n fyw o fwrlwm ac yn gymuned greadigol, lewyrchus a lliwgar.

Dal i fynd wysg ein tinau ryda ni’r Cymry, yn ofni gwneud datganiadau clir a Chenedlaethol am yr arweinyddiaeth Gymraeg; mae angen rhoi gwybod neu o leiaf awgrym o’r tymor cynhyrfus sydd o’n blaen. Siawns nad oedd yn rhaid i Arwel gyflwyno ei raglen arfaethedig i’r Bwrdd cwsg cyn ei benodi, felly mae rhyw fath o strwythur mewn llaw, siwr o fod? Faint o gynyrchiadau ? Ydan ni wedi torri’n rhydd o’r carchar o batrwm - ‘tri chynhyrchiad prif ffrwd y flwyddyn’? Pa enwau Cenedlaethol fydd yn rhan o’r cwmni? Pa Glasuron y Gymraeg fydd yn derbyn chwa o awyr iach, os o gwbl?

Eto, mae’n amser glanhau a gwagio’r Bwrdd cwsg o gyfarwyddwyr gyda’r Athro Ioan Williams yn dal i rygnu fel Cadeirydd. Mae angen Bwrdd newydd, ffres - i helpu a chefnogi Arwel, mae angen profiad ac arweiniad. Gyda phob dyledus barch i’r Bwrdd presennol - Branwen Cennard, Eleri Twynog Davies, Dylan Rhys Jones, Elen Mai Nefydd, Adrian Evans, Mici Plwm, Sandra Wynne, ond lle mae’r enwau dylanwadol ym Myd y Ddrama? Pam y cefnu neu’r cadw draw? Dyma ein Cwmni Cenedlaethol! Oes na neb arall yn malio dim amdani?...

Cic caredig i’r Cwmni, gan obeithio y cawn ni, garedigion y Ddrama Gymraeg, atebion ac arweiniad.

Diolch.

No comments:

Post a Comment