Friday, 16 September 2011

'Singin' in the Rain'






Y Cymro – 16/09/11

Dwy ddrama gerdd yr wythnos hon a’r ddwy ar ddiwedd eu cyfnodau preswyl mewn dwy ŵyl wahanol . ‘Singin’ in the Rain’, sef addasiad o’r ffilm enwog o’r un enw ddaeth i ben yn Theatr yr ŵyl, Chichester a ‘Crazy For You’ ar eu noson olaf, sy’n cloi tymor llwyddiannus y Theatr Awyr Agored yn Regents Park, Llundain. Ond peidiwch â digalonni, gan fod y ddwy ar eu ffordd dros y misoedd nesaf i galon y West End.

Hanes hynt a helynt dyfodiad y ffilmiau sain gyntaf yw craidd y ffilm ‘Singin’ in the Rain’, sydd a’i olygfa enwog o’r prif actor golygus ‘Don Lockwood ‘ yn dawnsio yn ei lawenydd yn y glaw, wedi syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gydag actores lai adnabyddus ‘Kathy Selden ‘. Mae’n ffilm drawiadol, a hynny oherwydd coreograffi celfydd Gene Kelly yn y ‘set pieces’ a dawn ddisglair y cerddor Donald O’Connor fel cyfaill Lockwood, ‘Cosmo Brown’. Gwendid y ffilm yw’r ffaith mai dim ond tair cân wirioneddol gofiadwy sydd yma yn y bôn sef ‘Good Morning’, ‘Make ‘em laugh’ a’r brif gân ‘Singin’ in the Rain’, a dyna yn anffodus yw prif wendid y ddrama gerdd yn ogystal sy’n boddi ar adegau o dan haenau o ddialog hirfaith, er mwyn cyfleu’r stori.

Oherwydd natur y stori, y lleoliadau a’r cyfnod, mae rhan helaeth o’r ddrama gerdd yn ddibynnol ar y sgrin ffilm enfawr sy’n cynnwys calon y stori sef y ffilm ‘The Laughing Cavalier’ sy’n cael ei gynhyrchu gan y stiwdio ar y pryd. Drwy’r ffilmiau sy’n cael eu taflunio’n gelfydd ar y sgrin y daw llawer o’r comedi yn sgil ymgais ‘Lockwood’ (Adam Cooper) a’i gyd-actores wichlyd ‘Lina Lamont’ (Ebony Molina ) sy’n drwsiadus dros ben, nes iddi agor ei cheg, a’i llais aflafar, erchyll yn ddigon i ddychryn y cryfa’! Yn ei ymdrech i achub y Stiwdio, mae’r rheolwr (Michael Brandon ) yn penderfynu bod yn rhaid canfod rhywun arall i dros leisio’r ffilm, er mwyn achub gyrfa ‘Lamont’ yn ogystal, a dyna sy’n dod â’r stori garu’n fyw wrth i ‘Lockwood’ ddarganfod llais swynol ‘Kathy’ (Scarlett Strallen).

Fel y ffilm, seren y sioe i mi oedd Daniel Crossley fel ‘Cosmo’ a’i ddawn gomedi disglair sy’n serennu yn y gân ‘Make ‘em laugh’. Dyma actor sydd â gyrfa ddisglair o’i flaen, ac sydd eisioes wedi fy niddanu mewn sawl drama gerdd arall yn ddiweddar fel ‘Me and My Girl’ yn Sheffield ac ‘Hello Dolly’ yn Regents Park.

Mawredd y cynhyrchiad caboledig hwn oedd y llwyfannu sy’n llenwi gofod enfawr Chichester i’r dim, a phan ddisgynnodd y glaw ar ddiwedd yr act gyntaf, cefais wefr gofiadwy iawn, ac erys yr olygfa ddramatig honno gyda mi am amser maith. Gogoniant a hud y theatr ar ei gorau.

Er nad oes dim wedi’i gadarnhau hyd yma, y si ydi y bydd ‘Singin’ in the Rain’ yn canu’u ffordd i mewn i’r Palace Theatre, wedi i ‘Priscilla Queen of the Desert’ ddod i ben yn yr Hydref.

No comments:

Post a Comment