Friday, 13 August 2010
'Gadael yr Ugeinfed Ganrif'
Y Cymro 13/08/10
‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ oedd teitl drama ddogfen Gareth Potter, gafodd ei llwyfannu yn Institiwt Glyn Ebwy, ar gychwyn wythnos yr Eisteddfod eleni. Cynhyrchiad Sherman Cymru a Dan y Gwely oedd y sioe, a Gareth ei hun yn gyfrifol am berfformio a chyfansoddi’r deunydd.
Roeddwn i wedi edrych ymlaen yn arw am weld y sioe, byth ers imi ddeall ar Twitter fod @garethpotter yn brysur yn cyfansoddi, ac yn gorffen drafft ar ôl drafft wrth i’r wythnosau wibio heibio. Arwel Gruffydd a Siân Summers ar ran Sherman Cymru sy’n cael y clod am eu cymorth gyda’r ‘ddramatwrgiaeth’, sef paratoi’r deunydd ar gyfer y llwyfan. A thipyn o gamp oedd hynny, wrth i Gareth geisio croniclo hanes y sin roc Gymraeg o’r saithdegau hyd ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Drwy gymorth y delweddau o’r posteri i’r lluniau, y cloriau a’r papurau newydd, fe’n gwahoddwyd i edrych drwy’r albwm o atgofion, a dilyn rôl a chyfraniad Potter i’r cyfnod euraidd hwn. Penodau amrywiol oedd y golygfeydd, o’r ‘Pwy Ydw i?’ angenrheidiol ar y cychwyn hyd ‘Techno v Roc’, ‘Claddu Reu’ a ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ ar y diwedd.
Cyflwyno ei hun fel ‘Gareth David Potter’ sy’n ‘actor a gwneuthurwr theatr’ oedd cychwyn y daith. Yn ‘bedwardeg pum mlwydd oed’ ac yn ‘obsessed... gyda cherddoriaeth’ Gyda cherddoriaeth ‘bop’ a bod yn fanwl, ‘y stwff ‘na sy’n cymryd dy fryd pan wyt ti tua deuddeg oed ac sy’n aros da ti trwy d’arddegau a’r blynyddoedd coleg’. Ond nid ‘pop’ oedd popeth, gan mai Mozart a Tchaikovsky oedd ei fryd yn ‘nghymoedd llwyd y saithdegau’. Wedi’i eni yn Nottingham, buan iawn y symudodd y teulu yn ôl i Gaerffili i’w fagu yn y Gymraeg. Yma, yn Ysgol Senghennydd y cwrddodd Potter a’i gydymaith cerddorol Mark Lugg, a bu’r cyfeillgarwch rhwng y ddau yn sbardun sicr tuag at greu’r hanes.
O Senghennydd i Rydfelen, ac yma eto dechrau’r darganfod a’r datblygu. Wedi cyfnod yn Brighton, Llundain a Middlesex, ynghyd ag ymddangosiad ar y gyfres ‘Eastenders’, ryda ni ar ddiwedd yr wythdegau, a chyfnod ‘Fideo 9’ a’r ‘ysfa i greu pop modern Cymraeg ddim wedi ‘tewi’. Tŷ Gwydr a Reu , y ffraeo a’r ffolineb, cyn cyrraedd cyfnod Catatonia, Gorky’s a’r Super Furry Animals a’r cyfaddefiad fod y ‘dyfodol yn yr ystafell wely ddrws nesa’.
Carlamu drwy’r blynyddoedd wnaeth y sioe awr-a-thri chwarter hon, ac yn sicr roedd y pentyrru ffeithiau, digwyddiadau ac enwau braidd yn ddiflas erbyn y diwedd. Does 'na’m dwywaith, i’r rhai a fu ar y daith gyda Potter, boed yn Rhydfelen neu wedi hynny, mae yma aduniad o atgofion melys, sydd fel gwin da, yn gwella wrth fynd yn hŷn. I eraill, fel fi, diarth yw ei fyd, a’r enwau, yr angerdd a’r angen am guriadau cyson y trac cerddorol sy’n rhan allweddol o’i fodolaeth. Wedi wythdeg munud, roedd y diddordeb yn y cyfnod yn prysur ddiflannu, a’r angen am wybod mwy am yr unigolyn yn fy mhigo. Roedd y personol yn absennol. Cafwyd fflach o’r dyfnder, ac efallai’r unigrwydd wrth iddo sôn am ei ffrae ag ‘Esyllt’ yn sgil ei chwyrnu, a’i fod wedi dianc yn ei gar liw nos, gyda’r ‘freuddwyd wedi’i ddistrywio’ ac ynghanol ‘prydferthwch arswydus y mynyddoedd, dwi’n cau fy llygaid a dwi’n crio’ , ond roedd angen llawer, llawer mwy.
Os am greu monolog, sydd am wirioneddol gyffwrdd yng nghalonnau pawb (ac nid yn unig selogion y sin roc Gymraeg) yna mae’n rhaid tyrchu’n ddyfnach; tydi agor cil y drws ac ambell i linnell fel ‘dwi’n undeg wyth a ‘wi moyn cysgu ‘da’r byd’ ddim yn ddigonol. Mae’r degawdau dan sylw yng Nghymru, yn wybyddus i bawb, o gysgod y bennod boenus a thywyll yn Rhydfelen hyd ryddid rhywiol yr wythdegau, allwch chi’m anwybyddu'r rheiny, yn enwedig pan fo’r deunydd a’r lleoliadau mor ganolog i’r hanes.
Gair i gall efallai; gwthiwch ein hawduron i ddyfnderoedd eu profiad, a thrwy wneud hynny, fe gawn ni theatr fydd yn ein cyffwrdd ac yn gymorth i bawb, ac nid jysd yn gofnod hanesyddol arwynebol.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment