Friday, 27 August 2010
'Chwilys' a 'Merched Eira'
Y Cymro 27/08/10
Mae gennai barch o’r mwyaf tuag at Aled Jones Williams. Nid yn unig yn ŵr bonheddig, ond y mae fel minnau, yn ymwelydd cyson â theatrau Llundain, a bu hynny’n amlwg iawn o’i waith ers y cychwyn. O ddarllen ei waith, fe gewch chi flas o’r weledigaeth a’r synnwyr theatrig cyfoethog sy’n llwyfan sicr i’r geiriau doeth. Yn anffodus i Aled, ac i gynulleidfaoedd Cymru, dwi eto heb weld cynhyrchiad sy’n deilwng o fawredd ei ddawn na’i dalent.
Theatr Bara Caws (ynghyd â’r newydd anedig Theatr Tandem) fu ‘n gyfrifol am lwyfannu ei waith yn yr Eisteddfod eleni, ac sy’n dal ar daith ar hyn o bryd. Dim amarch i Bara Caws, ond os bu dramodydd Cymraeg yn deilwng o lwyfan (a chefnogaeth artistig?) y Theatr Genedlaethol, yna Aled yw hwnnw. Mae angen y weledigaeth theatrig, golygydd a chynhyrchydd sgript brofiadol, cynllunwyr set, sain, gwisgoedd a goleuo creadigol i lwyr drosglwyddo’r weledigaeth yn ei lawn botensial.
Dwi’n cofio beirniadu Gŵyl Ddrama yn Nyffryn Conwy rai blynyddoedd yn ôl, ac un cwmni hyderus yn dewis ‘Wal’ o eiddo Aled, i’w berfformio. Bues i am wythnos gyfan yn ail ddarllen y ddrama, ac yn ymchwilio i’r holl gyfeiriadaeth gyfoethog sydd o fewn y ddrama fer hon, er mwy dechrau ceisio gweld beth oedd wrth wraidd y dweud a’r digwydd. Dwi di sôn eisoes yn y golofn hon, dros y blynyddoedd, am y siom erchyll a gefais o weld ei ddrama ‘Pêl Goch’ yn cael ei mwrdro ar lwyfan Theatr Gwynedd flynyddoedd yn ôl. Rhaid parchu pob manylyn yn y deud a’r digwydd, gan fod haenau o ystyr yn nyfnder eu bodolaeth ar y dudalen.
Fel unrhyw ddrama arall, rhydd i bawb ei ddehongliad ei hun o’r cynnwys, ac wrth wylio ‘Chwilys’, y ddrama gyntaf a berfformiodd y cwmni yn Theatr Beaufort, roedd gen i’n sicr fy nehongliad fy hun o’r ‘Dyn 1’ (Owain Arwyn) a’r ‘Dyn 2’ (Martin Thomas) sy’n camu allan o’r closet i’w boenydio .
Dyna’r peryg efallai o fod yn or-gyfarwydd â dramâu Aled, gan fy mod i’n ceisio rhyw fath o adnabyddiaeth ohono a’i waith drwy’u gweld. ‘“Am be’ mae dy ddramâu di?” holir fi’n aml. Dwn i ddim! yw’r ateb’, meddai Aled yn y ‘Rhyw air’ i’r ddwy ddrama. Os y bu cri am gymorth cynhyrchydd erioed, yna’r geiriau uchod yw hynny.
Yn anffodus i Valmai Jones, doedd fy nehongliad i ddim yn cyd-fynd â’r hyn a welodd hi yn y ddrama, a dyma’r tir bregus wrth ymdrin â gwaith Aled. A bod yn onest, dwi dal ddim yn siŵr beth oedd ei dehongliad hi, gan fod y cynhyrchiad yn gwegian ac yn cwffio rhwng yr haniaethol a’r diriaethol, y realaeth a’r meddyliol, a chamgymeriad mawr oedd ychwanegu at y dryswch drwy gynnwys y ddau ddiweddglo? Drwy adael i ‘Dyn 2’ (sy’n ymddangos o’r closet a’i wyneb gwyn dirgel) ladd ei hun fel un diweddglo, yna mae’r cyfan yn cael ei ddaearu a’r dirgelwch yn cael ei golli. Mae’n rhaid bod yn llawer mwy cadarn a gofalus, rhag drysu’r gynulleidfa yn fwy nag y maent!
Gogoniant ‘Merched Eira’ ar y llaw arall oedd cael gweld y ddwy foneddiges Gaynor Morgan Rees ac Olwen Rees yn eu priod le, ar y llwyfan, yn ymdrin a deunydd o safon, ac yn meddiannu pob owns o bresenoldeb y llwyfan moel. Dyma eto ddrama gyda haenau a haenau o ystyron a dyfnder di-ben draw, ac er gwaetha ymdrech Emyr Morris-Jones a Bara Caws i greu’r olygfa gywir ar eu cyfer, mae angen chwip o lwyfan mawr, a môr o eira trwchus, fel bod yr holl bropiau a’r dodrefn yn guddiedig yn y dyfnder. Ai eira sydd yma ta cymylau? Rhaid chwarae ar yr amwysedd, yn yr un modd ag y mae Aled yn chwarae ag ystyr geiriau.
Yn sicr, ‘Merched Eira’ fydd yn ddrama fydd yn aros gyda mi ar ôl yr Eisteddfod eleni, a hynny fwyfwy wrth imi barhau i ail ddarllen y geiriau. Mae angen golygu yma, a chyfarwyddwr llawer mwy mentrus, ond mae yma wyryf o glasur anorffenedig arall o eiddo Aled, sy’n ysu am gynhyrchiad teilwng, gonest a mentrus o’i waith.
Bydd Theatr Bara Caws yn cychwyn eu taith yng Nghaernarfon ar y 3ydd o Fedi. Mwy o fanylion ar wefan (echrydus!) y cwmni. www.caernarfononline.co.uk/baracaws/taith.html
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment