Friday, 23 April 2010

Llwyth







Y Cymro – 23/04/10

‘Wyneb yn Wyneb’ o waith Meic Povey oedd y tro dwetha imi gofio ymdriniaeth onest, sensitif a phwerus o garwriaeth hoyw ar lwyfan theatr yn y Gymraeg. Drwy gymorth yr actorion Dafydd Dafis, Danny Grehan ac Olwen Rees fel y fam, a chyfarwyddo meistrolgar Bethan Jones ar ran Dalier Sylw, fe arhosodd naws a neges y ddrama efo mi hyd heddiw.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe dderbyniais ddwy sgript drwy’r e-bost gan ddramodydd na wyddwn i ddim amdano. Dafydd James oedd ei enw, ac o’r darlleniad cyntaf, mi wyddwn i fod yma lais newydd, gonest, ffres a phwysig ar gyfer y Theatr Gymraeg. Wedi dilyn ei yrfa o’r Coleg a’r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, mae’n braf gweld o’r diwedd fod Sherman Cymru wedi rhoi’r cyfle iddo lwyfannu’r gwaith, a’i ddrama ‘Llwyth’ yn cychwyn ei daith o gwmpas Cymru yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd yr wythnos diwethaf.

Cryfder gwaith Dafydd, yw gogoniant y cynhyrchiad; yr onestrwydd unigryw am fod yn hoyw yn y Gymru sydd ohoni, a’r cyfan mewn iaith mae Dafydd yn gwbl gyfarwydd ag ef. Mae yma astudiaeth sensitif o berthynas sawl cenhedlaeth, a’i effaith ar y teulu. O’r ‘Dada’ (Danny Grehan) i’r mab ‘Aneurin’ (Simon Watts), o’r cariadon ieuanc ‘Rhys’ (Paul Morgan) a’r Cymro di-Gymraeg ‘Gareth’ (Michael Humphreys) hyd at ddiniweidrwydd naïf y bachgen ysgol pymtheg oed ‘Gavin’ (Siôn Young) sy’n ceisio blasu a darganfod mwy am y llwyth dyrys hwn.

Ond yr hyn sy’n gosod y ddrama uwchlaw trybini’r teulu, y cyffuriau a’r caru, yw naratif ‘Aneurin’ sy’n adrodd y stori wrth wibio i lawr Burghley Road, Llundain; naratif sy’n swyno’r gynulleidfa o’r cychwyn cyntaf, ac yn ein dwyn i mewn i’r stori dwymgalon hon. “Haul braf a’i nwyd yn cydio. Vest-tops cynta’r gwanwyn, bechgyn yn prancio a Dynion. Llwyth o ddynion, llwyth o gyhyrau; cnawd ar gerdded, tra bo fi ar feic ar frys yn chwys diferol.”

Er cystal yw’r sgript, sy’n gyfoethog o gyfeiriadaeth lenyddol o’r Gododdin i Iolo Morgannwg, rhaid imi hefyd ganmol cyfarwyddo medrus Arwel Gruffydd, sy’n llwyddo i fynd â’r cyfan yn llawer dyfnach. Ymhell wedi’r geiriau ddarfod ar y dudalen, mae’r olygfa yn parhau i herio, a’r ymdriniaeth aeddfed a gonest yma, sy’n codi’r cynhyrchiad hwn i dir uchel iawn.

Yn yr un modd, mae safon yr actio yma ymysg y gorau imi’i weld ar lwyfan yn y Gymraeg ers blynyddoedd. Roedd gwylio’r dagrau yn disgyn ar ruddiau Simon Watts, wrth fyw’r profiadau’r prif gymeriad yn bwerus tu hwnt, felly hefyd gyda phortread cynnil ond cwbl drydanol Siôn Young fel y llanc ysgol. Danny Grehan wedyn fel y tad a hyd yn oed y fam,(wedi’i hymgnawdoli ym mhresenoldeb y Difa Margaret Williams!) sy’n ddoniol, ac eto’n drist. A’r cyfan i gyfeiliant Côr Aelwyd y Waun Ddyfal ac Aelodau o Fechgyn Bro Taf, sy’n cyflwyno’r canu corawl sy’n anwesu’r geiriau a’r digwydd drwy gydol y ddrama. Bydd y corau yn newid wrth i’r cwmni deithio Cymru a thu hwnt.

Yn bersonol, fyddwn i wedi dymuno gweld llawer mwy o ddefnydd o’r côr, neu o leia’ eu gwneud yn weladwy, gan fod pum corff ar hugain ar lwyfan yn llawer cryfach na phump, fel mae’r diweddglo’n profi. Heb os, roedd y set yn broblem yn hynny o beth, ac er bod yr ystafell lwyd, a’i ddrysau, a’i risiau yn ateb gofynion y Daith, falle fydde cynfas wag a rhyddid llwyfan llawn wedi cynnig mwy o bosibiliadau.

Er gwaetha’r manion uchod, mae yma’n sicr gynhyrchiad y byddwn i’n annog pawb i’w weld; peidiwch da chi ag ofni’r themâu sy’n cael eu trafod, mae yma onestrwydd ac angerdd sy’n rhaid eu canmol a’u cefnogi, a chychwyn gyrfa dramodydd y bydd sôn amdano am flynyddoedd i ddod. Fe ddylai mam-gu Aberteifi (sy’n ddarllenydd brwd o’r golofn hon) fod yn browd iawn!

Bydd ‘Llwyth’ yn ymweld â’r Torch, Aberdaugleddau; Harlech; Pwllheli; Lyric, Caerfyrddin; Dylan Thomas, Abertawe; Galeri, Caernarfon, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Theatr Clwyd, Wyddgrug a’r Oval House, Llundain. Mwy o fanylion drwy ymweld â : www.shermancymru.co.uk

No comments:

Post a Comment