Friday, 9 April 2010
'A Good Night Out in the Valleys'
Y Cymro - 02/04/10
Gyda dyfodiad y Gwanwyn, ac ar drothwy’r Pasg, mae’r wythnosau a’r misoedd yn gwibio heibio, a’r rhestr hir o gynyrchiadau i’w gweld a’u hadolygu yn tyfu’n wythnosol! Llwyddais o’r diwedd i fedru dal cynhyrchiad cynta’r National Theatre of Wales, ar ei ymweliad olaf ond un, â’r Coliseum yn Aberdâr. Er gwaetha’r ffaith bod y sioe wedi gwerthu allan ymhob canolfan yn y Cymoedd, (sydd ynddo’i hun yn achos i ddathlu), llwyddais i dderbyn tocyn, a chychwyn y marathon o daith o lannau’r Tafwys i Gwm Cynon! Wedi gwibio fel ffŵl i lawr yr M4, a chyrraedd cwta filltir a hanner o’r dre’, gyda phum munud i sbario, dyma ganfod fy hun yn un o’r tagfeydd traffig gwaetha imi’i brofi erioed! Yn waeth nag unrhyw beth weles i yn Llundain, ac a barodd imi (ynghyd â nifer fawr eraill) gael ein dal am dros hanner awr yn y glaw. Y canlyniad oedd colli’r deugain munud cynta, a fawr o groeso i’r Cymoedd i’r Cymro blinedig hwn!
‘A Good Night Out in the Valleys’ gan y dramodydd Alan Harris yw’r cyntaf o’r tair drama ar ddeg yn arlwy agoriadol y cyfarwyddwr artistig John E McGrath. Arlwy amrywiol fydd yn ymweld â phob cwr o Gymru - o draethau’r Gogledd i Gymoedd y De, o’r Bermo i Bannau Brycheiniog, o Abertawe i Aberystwyth, ac o erwau’r brifddinas i Eryri. Fyddwn i’n llenwi pob tudalen o’r Cymro petawn i’n mynd at i ddisgrifio pob un cynhyrchiad sydd i ddod yn fanwl, felly gai annog pob un ohonoch i fwrw golwg ar eu gwefan liwgar, llawn a chalonogol tu hwnt, wrth ddathlu gwir natur Genedlaethol y cwmni.
Y Cymoedd oedd cychwyn y daith, gydag wyth perfformiad mewn pum canolfan o Fedwas i Flaengarw, Pontardawe i’r Coed Duon, gan orffen yn Aberdâr. A phobol y cwm oedd dan sylw yng nghyflwyniad cerddorol a chomig y cwmni, wrth adrodd eu hanes a’u hetifeddiaeth, eu gobeithion a’u breuddwydion, eu carwriaethau a’r cecru, a’r cyfan oddi fewn i furiau lled ddiogel y ‘Stiwt’, sydd wrth wraidd a chalon y Gymuned.
Petawn i’n gwbl onest, allwn i’m peidio â theimlo mod i wedi gweld a chlywed y cyfan o’r blaen. O gyfresi comedi BBC Wales i ffilmiau cynnar S4C fel ‘Aderyn Papur’, ‘Rhosyn a Rhith’ ac ‘Angry Earth’. Roedd yma adlais sicr o waith cynnar Theatr Bara Caws, gyda’r sgript yn gawl cymysg o holl gynhwysion y Cymoedd , gan gynnwys y Bingo, y Pwll, y canu a’r llwch sy’n lladd y gymuned hŷn.
Hiwmor a chynhesrwydd y cymeriadau sy’n cynnal y cyfan, a pherfformiadau cry’ y cast - Boyd Clack, Sharon Morgan, Siwan Morris, Huw Rhys, Amy Starling ac Oliver Wood yn gofiadwy tu hwnt, wrth bortreadu llu o gymeriadau. Cymeriadau yr oedd pob aelod o’r gynulleidfa lawn yn y Coliseum yn eu hadnabod, ac yn eu gwerthfawrogi, yn ôl y môr o chwerthin a’r gymeradwyaeth ar ddiwedd y sioe.
Roedd y cyfan wedi’i lwyfannu yn slic wrth symud o leoliad i leoliad gyda chymorth cyfres o luniau yn cael eu taflunio ar fur moel y Stiwt blinedig, a’i res wag o gadeiriau rhydlyd. Llwyfan y Stiwt oedd y prif ffocws, oedd hefyd yn dyblu i fod yn llofft ac yn lolfa, yn stafell fyw ac yn ffactri yn set siomedig ond pwrpasol Angela Davies.
Os mai gwir fwriad y Theatr Genedlaethol ydi dod â Chymru ynghyd, gan ddenu cynulleidfa newydd i’r theatr (boed hynny dan do mewn theatr draddodiadol neu ar draeth, lyfrgell neu orsaf dywydd) gan ddathlu pob elfen o Gymreictod yn ei dro, yna mae hwn yn gychwyn cadarn. Dwi’n hapus i dderbyn yr hyn a welais fel rhan o raglen a gweledigaeth ehangach, fydd yn cyffwrdd â phob gogwydd ac arddull o opera i ddawns, dros y deuddeg mis nesaf. Fel eglura’r teitl, roedd hon yn noson adloniannol a chofiadwy i lawer, ar sawl lefel. Dim ond gobeithio y bydd gweddill o’r arlwy yn dathlu holl ogoniant Cymru a’r Cymry, sydd y tu hwnt i Gymoedd y De.
Am fwy o fanylion, ymwelwch â gwefan gyffrous y cwmni www.nationaltheatrewales.org neu gynhyrchiad nesa’r cwmni ‘Shelf Life’ yn Llyfrgell Abertawe rhwng Ebrill 7fed a’r 25ain.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment