Sunday, 29 November 2009

'Messiah'






29/11/09

Mi wn fod y Nadolig yn agosáu pan glywaf alawon cofiadwy Handel o’i gampwaith clasurol ‘Messiah’. Pan glywais fod yr ENO am wneud opera o’r campwaith clasurol, allwn i’m aros am y briodas gynhyrfus rhwng y lleisiau a’r llwyfan.

Deborah Warner gafodd ei dewis i gyfarwyddo’r gwaith, a hynny wedi cyd-weithio llwyddiannus ar ‘St John Passion’ gan Bach yn 2000. Mae’r ENO hefyd wedi llwyfanu ‘Requiem’ Verdi yn y gorffennol, felly doedd dim dewis arall ond mynd i’r afael â’r ‘Messiah’ y Nadolig hwn.

Cyfaddefodd Warner nad oedd hi’n gyfarwydd o gwbl â’r gwaith cyn cychwyn arni, ac felly roedd hi’n llawer haws delio gyda’r gerddoriaeth o’r newydd, gan geisio cyrraedd diffiniad newydd a chyfoes ohoni. A dyma a gafwyd, wrth i’r ‘ddrama’ ar y llwyfan ddilyn naws y gwreiddiol drwy rannu’n dair thema wahanol; y disgwyl am Achubwr a’r Geni , y Gwyrthiau a’r Genadwri ac yna’r Aberth pennaf, a’r Gobaith am fywyd tragwyddol.

Nifer o olygfeydd i gyfleu’r themâu perthnasol a gafwyd ar y llwyfan, i gyfeiliant y gerddorfa a chorws yr ENO, gyda’r unawdwyr - Catherine Wyn-Rogers, John Mark Ainsley, Brindley Sherratt a Sophie Bevan, yn canu’r Geiriau Sanctaidd, i gyd-fynd â’r golygfeydd cyfoes. Roedd yr act gyntaf yn hynod o drawiadol, wrth i’r cwmni cyfan, mewn gwahanol olygfeydd, ‘ddisgwyl’ am gyfaill, cymar, teulu, meddyg, waith, tyrfa, rhieni, yn ôl y galw. Mae’r cyfan yn cael ei ganoli mewn Eglwys wrth i’r Offeiriad ddatgan, ‘Comfort ye’, wrth aros am ei dyrfa.

Plethiad o ddelweddau trawiadol o’r Meseia mwy traddodiadol a gafwyd yn yr ail act, wrth i’r digwydd canolbwyntio ar y gefnlen o luniau, gyda’r un mwyaf cofiadwy yn blethiad o wynebau o bob Oes, wrth i ddegau droi’n gannoedd, yn filoedd ac yn filiynau.

Deffro’r meirw oedd thema’r drydedd act, yn nhraddodiad yr Atgyfodiad, ac o gychwyn gyda chlaf yn ei gwely mewn ysbyty, yn derbyn morffin, hyd y diwedd wrth i’r llwyfan cyfan lenwi gyda chyrff ar welyau tryloyw godi o’u gorwedd, a throi at ogoniant y Machlud ar y sgrin enfawr o’u blaen.

Roedd y diweddglo yn emosiynol, yn gofiadwy ac yn ddigon i atgyfnerthu’r amheuwr cryfaf, bod gobaith i bawb. Ond nid dyna fwriad Warner, ond yn hytrach i gyfleu cryfder y gerddoriaeth gan adael i’r gynulleidfa geisio’u dehongliad ei hun.

Does 'na’m dwywaith fod ymweliad â’r Coliseum yn ddigwyddiad o bwys, ac yn atgof i’w drysori. O’r goleuo, i’r setiau, i’r sain a’r gerddoriaeth, dyma’r gorau ar waith, a braint oedd cael bod yno.

Sunday, 1 November 2009

'An Inspector Calls'




01/11/09

Rhyfedd o fyd! Mater o amser yn unig oedd hi cyn imi ddechrau derbyn gwahoddiadau i weld cynyrchiadau newydd o ddramâu a welais flynyddoedd ynghynt! Tair blynedd yn union yn ôl, cofio gyrru draw i Theatr Clwyd i weld cynhyrchiad o ddrama enwog J B Priestly, ‘An Inspector Calls’. Bellach, mae’r un ddrama yn ôl ar lwyfannau Llundain, ond y tro hwn o dan gyfarwyddyd medrus Stephen Daldry, a gyfarwyddodd y fersiwn yma o’r ddrama nôl ym 1989. Roed y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol, a gweledigaeth a dawn Daldry i’w weld yn amlwg.

Yn y ddrama wreiddiol, mae’r olygfa gyntaf wedi’i gosod yn lolfa’r teulu Birling, wedi pryd o fwyd i ddathlu dyweddïad eu merch Sheila â’r gŵr golygus Gerald Croft. Mae’n olygfa eitha hir, tua 15 munud neu fwy, cyn y daw ymwelydd i’w plith, Inspector Goole, sy’n dechrau codi cwestiynau dyrys am farwolaeth merch ifanc. Wrth i’r Inspector holi’r teulu o un-i-un, daw hi’n amlwg bod sawl dirgelwch yn cuddio o dan y parchusrwydd, fydd yn chwalu’r uned deuluol am byth.

Gogoniant cynhyrchiad Daldry yw troi’r olygfa gyntaf wyneb i waered. Yn hytrach na dilyn hanes y teulu, mae’n dewis i gychwyn gyda’r dieithryn tu fas. Wrth i’r llen godi ar gafod o law sy’n disgyn yn drwm ar blasty moethus y teulu, mae’r sylw i gyd ar yr Inspector sydd tu fas, tra bod y teulu oddi mewn (yn guddiedig) yn rhaffu trwy’r dialog. Campwaith yn wir. O un i un, mae’r ddialog a’r tŷ yn agor i gynnwys yr Inspector, a buan iawn y daw’r cymeriadau allan o’r tŷ dol o gartref saff, i wynebu cwestiynu treiddgar y dieithryn.

Roedd portread Nicholas Woodeson fel yr Inspector yn rhagorol, ac yn rhan o lwyddiant a fy mwynhad o’r clasur hwn, ar ei newydd wedd. Lluoswyd fy mwynhad yn yr ail ran wrth i’r tŷ cyfan godi a chwalu, yn union fel y teulu oddi allan, wrth i gyfrinachau’r gorffennol chwalu popeth. Roedd hyd yn oed y diwedd y ddrama yn destun trafod am oriau lawer, wrth i dyrfa o ddieithriad ymgasglu fel tystion, neu ysbrydion, i geisio cyfiawnder.

Dyma enghraifft berffaith o bwysigrwydd gweledigaeth y cyfarwyddwr, a’r ddawn i droi drama glasurol ar ei phen, a rhoi dwyawr o fwynhad pur i unrhyw gynulleidfa.

Mwy yma : www.aninspectorcalls.com