Friday, 17 July 2009
'La Cage Aux Folles'
Y Cymro – 17/07/09
Un ffordd o gadw sioe yn fyw yn y West End ydi newid yr actorion yn gyson. Does 'na'm dwywaith fod enwau cyfarwydd yn denu ac yn gwerthu, ond efo'r sioe'r bûm i'n ei gweld (ddwywaith) yn ddiweddar, roedd y dieithriaid ar y llwyfan yn llawer mwy derbyniol a chredadwy na'r enwogion.
Do, o'r diwedd, llwyddais i gael fy hudo a'm caethiwo gan 'La Cage Aux Folles' a gychwynnodd ei daith yn stabl lwyddiannus y Mernier Chocolate Factory, ond sydd bellach yn y Playhouse ger Embankment. Falle bod y stori yn gyfarwydd i lawer yn sgil ffilm lwyddiannus a theimladwy Édouard Molinaro ym 1978, sy’n seiliedig ar ddrama Jean Poiret o 1973. Ym 1996, cyfarwyddodd Mike Nichols addasiad arall o’r stori o dan y teitl Saesneg ‘The Birdcage’ gyda Robin Williams a Nathan Lane yn y prif rannau.
Hanes cwpl hoyw canol oed sydd yma yn y bôn; 'Georges' (Philip Quast) sy'n rheoli'r clwb nos nodedig 'La Cage Aux Folles' yn St Tropez, a'i sioeau nwydus, rhywiol a cherddorol gan ddynion mewn gwisgoedd benywaidd, neu'r nesa peth at ddim! 'Albin' (Roger Allam) yw ei bartner, neu'r wraig os mynnwch chi, ond sy'n fwy cyfarwydd fel 'Zaza' prif seren y clwb ers blynyddoedd maith, ac sy'n dal i ddenu'r tyrfaoedd. Tydi perthynas y ddau ddim yn berffaith, pa berthynas sydd wedi'r holl flynyddoedd, ond gyda chyrhaeddiad mab Georges sef 'Jean-Michel' (Stuart Neal), mae pethau'n troi o ddrwg i waeth. Mae Jean-Michel am briodi 'Anne Dindon' (Alicia Davies), ond gan fod ei thad mor geidwadol, ac wedi areithio'n gyhoeddus yn erbyn y gymuned hoyw, does 'na'm rhyfedd nad yw Jean-Michel yn awyddus i wahodd Albin i'r briodas.
Trwy'r cecru a'r crio, ynghyd a datganiad hynod o bwerus o 'I am what I am', dyma ddod at gryfder a dyfnder y darn. Yn wahanol i 'Priscilla' a 'Hairspray' dwy sioe arall sy'n dathlu drag ar hyn o bryd, mae yma emosiwn ac onestrwydd yn eu portread o gwpl mewn oed yn dod i ddeall ei gilydd yn well. Mae'n ddarlun agored a theimladwy o bwysigrwydd derbyn pawb fel ag y maent; er gwaetha’r gwendidau, rhaid dathlu’r hyn sy’n bwysig sef cariad a theulu.
Er bod y Playhouse yn un o theatrau llai Llundain, mae’r llwyfan yn llawn drwy gydol y sioe, a dawn cyfarwyddo Terry Johnson yn werth ei weld wrth i’r stori lifo o un olygfa i’r llall. Mae set Tim Shortall yn asio’n berffaith gyda’r weledigaeth wrth greu theatr o fewn theatr, a gosod y gerddorfa o boptu’r llwyfan o fewn y set. Gan fod cymaint o’r digwydd dramatig yn y clwb nos, gefn a blaen y llwyfan, hoffais yn fawr y modd cynnil a chreadigol y crëwyd hynny. Felly hefyd gyda fflat moethus, dros ben llestri’r cwpl, sy’n cael ei weddnewid yn llwyr yn yr ail ran i fod yn foel, geidwadol a chrefyddol er mwyn plesio rhieni Anne.
Heb os, cryfder y darn i imi oedd portread cwbl gredadwy ac emosiynol Roger Allam fel ‘Albin’, a gallwch chi’m peidio cydymdeimlo gydag o / hi drwy gydol y daith. Roedd ei ddatganiadau o ‘A little more mascara’ ac ‘I am what I am’ yn yr Act gyntaf yn bwerus a chofiadwy, felly hefyd y ddeuawd garu rhwng y ddau ‘Look over there’ a’i thema gerddorol sy’n cael ei ail-ganu’n gyson.
Fel mynychwyr clwb ‘La Cage…’, mae’r gynulleidfa yn cael eu croesawu gan ‘Georges’ ac yn wir yn cael eu diddanu cystal â’r gwreiddiol gan yr ‘adar’ brith - roedd coreograffi a chymeriadu ‘Les Cagelles’ yn werth ei weld a Nolan Frederick, Nicholas Cunningham, Darren Carnall, Gary Murphy, Dane Quixall a Ben Bunce yn haeddu’i henwi.
Ers agor y sioe, mae Douglas Hodge a Graham Norton wedi portreadu ‘Albin’, a seren y gyfres ‘Torchwood’, John Barrowman eisoes wedi cytuno i wthio’i ffordd i’r ffrogiau ym mis Medi. Yn bersonol, allwn i’m dychmygu ddim byd gwaeth na gweld Norton neu Barrowman yn portreadu’r cymeriad sensitif, trasig ac eto’n gryf, yma. Falle fyddai’i anghywir, pwy ag ŵyr, ond bydd yr atgofion pleserus am y ddau berfformiad cofiadwy weles i’n ddiweddar, yn ddigon i’m cadw i’n hapus am amser maith.
Mwy am y sioe drwy ymweld â www.lacagelondon.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment